Mae angen eich cymorth chi arnom ni i helpu mwy o deuluoedd yng Nghymru sy’n wynebu digartrefedd y Nadolig hwn.
Synnwyd Rachel, nyrs o Gaerdydd, pan gafodd hi alwad ffôn yn dweud wrthi fod ganddi bymtheg munud i bacio bag cyn bod y beilïaid yn cyrraedd i ailfeddiannu ei chartref.
Fe gollodd Peter, gwr Rachel, ei swydd dros wyddyn ynghynt, ond nid oedd wedi dweud wrth Rachel a pharhaodd i “fynd i’r gwaith”. Roedd ganddo ormod o gywilydd i gyfaddef nad oedd yn gweithio ac nad oedd wedi bod yn talu’r biliau. Ar fore’r ailfeddiannu, ffoniodd Peter Shelter Cymru a gofyn iddynt ddweud wrth Rachel eu bod nhw ar n colli eu ty
“Torrais fy nghalon pan atebais yr alwad ffôn,” esboniodd Rachel. “Doedd dim syniad gen i. Roedd bywyd yn brysur iawn, roeddwn i’n gweithio sifftiau ac yn gofalu am fy merch ifanc, felly gadewais yr holl liau yn nwylo Peter. Nid oedd e eisiau fy mhoeni, gan feddwl y byddai dod o hyd i swydd newydd yn hawdd, ond nid dyna ddigwyddodd.”
Cyrhaeddodd y beilïaid.
“Gadawom ni ein cartref yn cario bag bach llawn pethau a gasglais mewn deg munud. Cynghorodd Shelter Cymru i mi fynd at y Cyngor a dweud wrthyn nhw fy mod yn ddigartref. Yr unig beth oedd ar fy meddwl oedd rhannu’r newyddion gyda Cerys, fy merch bum mlwydd oed. Nid ydw i erioed wedi pro unrhyw beth mor wael a dweud wrth fy merch nad yw Mam yn gwybod ble bydd hi’n cysgu’r noson honno. Nid oedd hi’n gallu stopio crio.
“Fi oedd ei mam, ond nid oeddwn i’n gallu ei gwarchod. Nid oeddwn yn gallu datrys y sefyllfa a theimlais yn euog am beidio â sylweddoli beth oedd yn digwydd.
“Roeddwn wedi cymryd fy nghartref yn ganiataol. Nid oeddwn yn disgwyl ei golli o gwbl.”
Arhosodd Rachel, Peter a Cerys mewn gwesty am wythnos a hanner cyn symud i lety dros dro am bedwar mis.
“Fe geisiom ni wneud y gorau o’r sefyllfa er mwyn Cerys ac addewais y byddem ni’n peintio’i hystafell wely yn ein cartref newydd yn binc a phrynu gwely newydd iddi.”
Mae gan stori Rachel ddiweddglo hapus.
“Camodd Shelter Cymru i mewn er mwyn fy nghefnogi,” esboniodd Rachel. “Pan chwalwyd fy mywyd yn deilchion, gwnaeth Shelter i mi gredu bod modd adfer fy mywyd. Ac roedd hynny’n wir. Roedd Shelter Cymru ar fy ochr ac mae gan Cerys ystafell wely binc bellach, ynghyd â gwely tywysoges. Nid oeddwn yn sylweddoli pa mor bwysig oedd ein cartref tan i ni ei golli, a heb gymorth Shelter Cymru ni fyddem erioed wedi dod o hyd i gartref newydd.”
Helpwch ni i helpu pobl fel Rachel.
Mae Siani Morgan wedi gweithio fel Cynghorydd Tai i Shelter Cymru ers bron ugain mlynedd ac mae hi wedi cynorthwyo nifer fawr o deuluoedd agored i niwed, fel un Rachel, sy’n
brwydro i gadw eu cartrefi.
“Mae digartrefedd yn gallu effeithio ar unrhyw un,” medd Siani. “Mae stori Rachel yn brawf nad oes unrhyw un yn gwybod beth rownd y gornel.”
Nod Shelter Cymru yw atal digartrefedd. Yn y rhan fwyaf o achosion rydym ni’n llwyddo i atal troi allan ond, yn anffodus yn achos Rachel, daeth yr alwad oddi wrth Peter yn rhy hwyr. Fodd bynnag, cynorthwyodd Shelter Cymru Rachel a Peter i ddod o hyd i gartref lle mae Cerys yn teimlo’n ddiogel – lle iddynt allu ailafael yn eu bywydau.
Roedd hi’n bosibl i ni wneud gwahaniaeth i deulu Rachel ac mae ganddynt gartref newydd yn awr. Yn anffodus, mae miloedd o blant ledled Cymru mewn perygl o fod yn ddigartref y Nadolig hwn.
Gofynnwn i chi ein cefnogi ni i helpu mwy o deuluoedd sydd mewn perygl o fod yn ddigartref y Nadolig hwn.