“Er mwyn cael y plant i gyd allan roedd yn rhaid i ni redeg heibio’r tân.”

Roedd y tŷ rhent preifat diwethaf i Sioned a’i phlant fyw ynddo yn hynod o beryglys.  Yn ystod eu cyfnod yn y tŷ hwn yng Ngogledd Cymru mi wnaethon nhw wynebu dau dân mawr, boilyr oedd ddim yn gweithio a adawodd y teulu heb ddŵr twym, tamprwydd difrifol, a landlord a waneth nid yn unig wrthod wella y cyfleusterau yn eu cartef ond a waneth hefyd gyhuddo Sioned o achosi’r difrod.

Y rheswm dros y tân cyntaf oedd ffiws wedi toddi mewn blwch ffiws yn y tŷ – gorfododd hyn i Sioned  gasglu ei thri phlentyn ifanc a dianc yn gyflym allan o’r tŷ yn union o flaen y goelcerth.  Ar ôl cyrraedd diogelwch fe gysylltodd Sioned â’r landlord.  Fodd bynnag, chafodd hi ddim cydymdeimlad na chonsyrn am eu phlant ifanc; yn lle hynny fe gyhuddodd y landlord Sioned o ymyrryd â’r trydan, ac fe alwodd e’r heddlu mewn ymgais ddiffrwyth i ddadgarterfu’r teulu ar unwaith.  Mi fyddai hyn wedi gwneud y teulu yn ddigartef.

O fewn dim, fe gafodd Sioned a’i theulu eu rhoi mewn cartref dros dro gan yr adran ddigartrefedd, ac er eu bod  yn gwerthfawrogi’r ffaith bod ganddynt do uwch eu pennau, roedd yr hostel lle rhoddwyd nhw dros 30 milltir i ffwrdd o’u cartref ac yn bell iawn o unrhyw fath o gyfleusterau.

Ar ôl gweithio gyda’r awdurdod lleol, mi wnaeth y landlord yn y pen draw adael i’r teulu ddychwelyd i’w cartref.  Cytunodd yr awdurdod lleol i hyn ar yr amod bod y landlord yn gwneud yr addasiadau angenrheidiol, a chael yr holl dystysgrifau trydanol perthnasol.

Fodd bynnag, er  gwaetha’r ffaith i’r landlord sicrhau’r cyngor y byddai’n cymryd y camau priodol, fe wrthododd y landlord wneud y gwelliannau ac ni wnaeth y cyngor herio hyn.  Nid yn annisgwyl felly, fe achosodd hyn dân arall yn y tŷ a fe wynebodd Sioned yr un erchyllder eto a gorfod dianc gyda’i phedwar plentyn yn cynnwys ei mab newydd bythefnos oed.

Unwaith eto, fe gyhuddodd y landlord Sioned o achosi’r tân drwy ymyrryd â’r trydan yn y tŷ er waetha’r ffaith bod ardroddiad gan y dynion tân yn nodi bod y difrod wedi cael ei achosi gan nam trydanol.

Ar ôl yr ail dân yn y tŷ, fe gafodd Sioned ddychwelyd gyda’i phlant i gasglu eu heiddo.  Roedd y landlord yn bresennol ac yn gwylio’r teulu ifanc yn paratoi i symud.  Mynnodd y landlord bod y weithred o symud yn cael ei chwblhau o fewn dwy awr a bod y tŷ yn cael ei lanhau er gwaetha’r difrod difrifol a achoswyd gan y tân.

Gadawodd yr holl brofiad ei ôl ar Sioned sydd bellach yn byw mewn tŷ cyngor.  Mae hi’n teimlo’n freintiedig bod ei phlant yn ddiogel ac yn iach, ac mae hi’n teimlo’n gryf y gallai difaterwch y landlord fod wedi lladd ei theulu.  Mae’r profiad hefyd wedi effeithio ar ei phlant ac mae’r hynaf wedi wedi colli nifer fawr o ddiwrnodau ysgol yn ystod eu cyfnod yn yr hostel.  Ond dywed Sioned mai’r effaith fwyaf arni hi a’r plant yw’r straen emosiynol a’r ansefydlogrwydd  maen nhw wedi ei ddioddef yn ystod y cyfnod anodd hwn.

*Newidiwyd yr enw er mwyn amddiffyn y teulu