Ein heffaith

Rydym yn bodoli i amddiffyn yr hawl i gartref diogel yng Nghymru a brwydro yn erbyn yr effaith andwyol mae’r argyfwng tai yn ei gael ar bobl a chymdeithas. Y llynedd, helpom ni 17,953 o bobl mewn angen tai – gan gynnwys 5,725 o blant dibynnol – drwy ein gwasanaethau cyngor a chefnogaeth. Rydym hefyd yn ymgyrchu i fynd i’r afael ag achosion yr argyfwng tai.

  • Ataliwyd digartrefedd mewn 87% o achosion cyngor wyneb yn wyneb perthnasol lle mae’r canlyniad yn hysbys
  • Bydd 80% o aelwydydd yn gallu delio’n well â’u materion yn y dyfodol
  • Gwnaed 487,199 o ymweliadau unigryw â’n gwasanaeth cyngor ar-lein
  • Fe wnaethom gynrychioli mewn 387 o wrandawiadau meddiant trwy ein gwasanaeth dyletswydd llys. Dechreuodd ein Tîm Cyfreithiol ymwneud â 63 o achosion o ymgyfreitha posibl neu wirioneddol
  • Helpwyd 265 o aelwydydd drwy ein gwasanaethau cyngor ar ddyled ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd ac Abertawe, gyda £454,805 o ddyledion wedi’u dileu drwy ein holl wasanaethau
  • Cynghorwyd 96 o garcharorion ar fudd-daliadau tai, digartrefedd a lles yn CEMau Altcourse, Berwyn a Styal, gyda phwyslais ar atal digartrefedd
  • Llwyddwyd i basio archwiliad Nod Ansawdd Arbenigol
  • Lansiwyd ein prosiect Fy Nghartref Sir Ddinbych
  • Cynorthwyodd Cyngor Stryd Cymru 133 o bobl ddigartref ar y stryd
  • Hyfforddwyd 65 o sefydliadau a 2,450 o gynrychiolwyr, gyda 98% o’r cynrychiolwyr yn graddio ein hyfforddiant yn ardderchog neu’n dda
  • Gweithiwyd gyda phob un o’r 22 awdurdod lleol i sicrhau ymrwymiad i ddarparu addysg gadael cartref ac atal digartrefedd yn ysgolion Cymru
  • Cynhaliwyd ein cynhadledd wyneb yn wyneb gyntaf ers tair blynedd. Graddiodd 90% o’r mynychwyr yn rhagorol i dda.
  • Ymgyrchwyd yn erbyn gwahaniaethu yn y sector rhentu preifat
  • Codwyd ymwybyddiaeth am newidiadau deddfwriaethol pwysig i denantiaid
  • Perswadiwyd Llywodraeth Cymru i roi cyfnod rhybudd o chwe mis i bob tenant preifat
  • Cymerwyd camau ar achosion o droi allan anghyfreithlon
  • Cyhoeddwyd ymchwil annibynnol gyda’n partneriaid yn dangos y byddai pob £1 sy’n cael ei wario ar wireddu’r hawl i dai digonol yng Nghymru yn cynhyrchu £2.30 mewn budd-daliadau

Darllenwch am ein strategaeth ar gyfer y pedair blynedd nesaf yma

Roedd ein gweithiwyr achos yn hyfryd a roeddem yn ymddiried ynddi i’n helpu. Cymerodd yr amser i’n diweddaru ac esbonio beth oedd yn digwydd. Roedd hi’n deall ei bod yn brwydro i’n cadw ni yn y cartref teuluol. I’r cwmni morgais, dim ond eiddo arall ydoedd.”

Cafodd Amanda Lawrence, o’r Bari, ei chefnogi drwy achub morgais gan Shelter Cymru.