Polisi ac Ymchwil

Credwn bod gan bawb yng Nghymru yr hawl i gartref gweddus a diogel.

Drwy ein ymchwil, gwaith polisi ac ymgyrchu rydym yn anelu i ddylanwadu ar yr agenda Gymreig ar dai a digartrefedd drwy graffu sut mae gwasanaethau yn cael eu cyflwyno a datblygu datrysiadau cryf i broblemau tai a chartrefedd.

Os hoffech ein comisiynu ni i wneud gwaith ymchwil ar ran eich sefydliad ar unrhyw fater yn ymwneud â thai, digartrefedd neu fater cymdeithasol, cysylltwch â’n Swyddog Polisi ac Ymchwil Matthew Howell am ddyfniad pris drwy ebostio: [email protected]

Llyfrgell Polisi ac Ymchwil

Lawrlwythwch ein testunau Polisi ac Ymchwil diweddaraf.

“Gwnaethom dendro am brosiect ymchwil i ganfod disgwyliadau dinasyddion o wasanaethau gwybodaeth a chyngor.

Gwerthuswyd cais Shelter Cymru fel un eithriadol yn nhermau ansawdd. Wrth gyflwyno’r prosiect roedd yn rhaid i Shelter Cymru weithio’n bennaf yn ôl eu mympwy eu hunain. Cyflwynwyd bob cam o’r ymchwil yn brydlon a mae ansawdd yr adroddiad terfynol yn anhygoel.

Roeddem yn falch o gyflwyno’r adroddiad fel rhan o gais i Lywodraeth Cymru. Byddwn yn falch o weithio gyda Shelter Cymru yn y dyfodol. Gallaf argymell eu gwaith yn ddi-gwestiwn gan eu bod yn cynnig gwerth gwych am arian.”

Paul SwannFforwm Darparwyr Cyngor Annibynnol

Archif

Edrychwch ar bapurau brîffio ac adroddiadau polisi ac ymchwil o’r gorffennol.

Ymddiheurwn na allwn bob amser ddarparu adroddiadau yn y Gymraeg.