
Beth rydyn ni'n ei wneud
Rydym ni’n helpu miloedd o bobl bob blwyddyn ledled Cymru sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng tai drwy gynnig cyngor cyfrinachol ac annibynnol ar dai yn rhad ac am ddim. Pan fydd angen, rydym ni’n herio’n adeiladol ar ran pobl i sicrhau eu bod yn cael cymorth priodol ac i wella arferion a dysgu.
Rydym ni’n gweithio gyda phobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau ar lefel gydradd. Rydym ni’n cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i helpu pobl i ddod o hyd i’r opsiynau gorau i atal digartrefedd, i ddod o hyd i gartref a’i gadw, ac i’w helpu i gymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain.
Rydym ni’n bodoli i amddiffyn yr hawl i gartref diogel ac yn brwydro’n erbyn yr effaith ddinistriol mae’r argyfwng tai yn ei gael ar bobl a chymdeithas.
Rydym ni’n gwneud hyn gydag ymgyrchoedd, cyngor a chymorth – a dydyn ni byth yn rhoi’r ffidil yn y to.
Credwn mai cartref yw popeth.
Sut rydym ni’n helpu
Cyngor tai ar-lein
Mae ein tudalennau cyngor ar-lein yn llawn o’r cyngor arbenigol diweddaraf ar y rhan fwyaf o broblemau tai. Dyma’r ffordd gyflymaf o ddod o hyd i’r cyngor sydd ei angen arnoch chi.
Gwasanaethau wyneb yn wyneb
Mae ein gwasanaethau cyngor a chymorth ledled Cymru yn rhoi cymorth unigol un i un i bobl gyda’u holl broblemau tai.
Llinell cyngor brys
Yn aml, ein llinell cyngor brys am ddim yw’r man cychwyn i bobl sy’n wynebu argyfwng tai yng Nghymru.
Cymorth cyfreithiol
Mae ein tîm o gyfreithwyr yn cynnig cyngor cyfreithiol arbenigol, yn helpu i frwydro achosion adfeddiannu a throi allan, a gallan nhw fynd i’r llys i amddiffyn pobl sydd mewn perygl o golli eu cartref.
Os ydych chi angen siarad â rhywun, byddwn ni’n gwneud ein gorau i helpu.
Rydym ni’n rhoi llais i bobl
Polisi ac ymchwil
Rydym ni’n cynnal gwaith ymchwil arloesol i’r hyn sy’n achosi’r argyfwng tai, sydd wedyn yn llywio ein gwaith ymgyrchu. Ewch i’n llyfrgell polisi ac ymchwil i weld ein cyhoeddiadau ac adroddiadau.
Ymgyrchu
Rydym ni’n ymgyrchu i roi diwedd ar yr argyfwng tai drwy herio’r Llywodraeth Cymru i gyflwyno newidiadau i ddeddfwriaeth, polisïau ac arferion a fydd yn gwella’r sefyllfa hirdymor o ran tai a digartrefedd y mae miloedd o bobl yng Nghymru yn eu hwynebu.
Y wasg a’r cyfryngau
Rydym ni’n gweithio gyda’r cyfryngau i sicrhau bod lleisiau’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng tai yn cael eu clywed bob amser. Os hoffech helpu eraill drwy rannu eich profiad o’r argyfwng tai, cysylltwch â ni heddiw.
Y llynedd, fe helpon ni filoedd o bobl yng Nghymru
Sut rydyn ni'n gwario'ch rhoddion
Allem ni ddim gwneud hyn heboch chi. Am bob £1 rydych chi’n ei rhoi…
- mae 93c yn cael ei wario’n uniongyrchol ar helpu pobl drwy roi cyngor a chymorth a thrwy ymgyrchu
- mae 7c yn cael ei wario ar godi arian
Gweithredu
Darllenwch am y ffyrdd diweddaraf y gallwch chi gyfrannu

Rhedeg am adref
Ar eich marciau, barod….i frwydro dros gartref. Gallwch redeg yn un o’n digwyddiadau rhedeg a’n helpu i roi diwedd ar yr argyfwng tai.

Ar eich beic
Bant â chi ar ein her feicio eithafol, Cestyll a Chadeirlannau. Ymunwch â’n brwydr i roi diwedd ar ddigartrefedd unwaith ac am byth.

Rhoi
Allwn ni ddim gwneud hyn heboch chi. Mae’r frwydr dros gartref yn dechrau yma, ond mae angen eich help chi arnom ni.