Skip to main content

Gwirfoddoli gyda ni

Hoffech chi helpu gyda chasgliad bwced yn eich archfarchnad leol? Neu gefnogi rhedwyr Tîm Shelter Cymru yn Hanner Marathon Caerdydd? Rydym yn ddiolchgar iawn i’n gwirfoddolwyr gwych, sy’n cefnogi’r frwydr dros gartref ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl sydd angen cartref ledled Cymru. Rydym yn bodoli er mwyn amddiffyn yr hawl i gael cartref diogel, ond allwn ni ddim gwneud hynny hebddoch chi. Beth bynnag fo’ch diddordebau a’ch argaeledd, mae gennym gyfleoedd gwirfoddoli sy’n addas ar eich cyfer.

Cyfleoedd presennol

  • Casgliadau bwced
    Mae ein tîm Codi Arian yn trefnu casgliadau bwced mewn archfarchnadoedd a chanolfannau siopa ledled Cymru yn rheolaidd. Mae’r rhain yn werthfawr iawn ar gyfer casglu arian, yn ogystal â mynd allan i’n cymunedau lleol i ledaenu’r neges am ein brwydr dros gartref. Os gallech roi ychydig o oriau i’n helpu â chasgliad bwced, hoffem glywed gennych.

    E-bostiwch: [email protected]

    15 Mai: Morrisons (Glyn Ebwy)
    15 Mai: Asda (Bae Cinmel)
    23 a 24 : Morrisons Baglan (Abertawe)
    12 Mehefin: Morrisons (Glyn Ebwy)
    3 Gorffennaf: Asda (Bae Cinmel)
    9 Gorffennaf: Asda (Wrecsam)
    9 Gorffennaf: Morrisons (Rogerstone)
    17 Gorffennaf: Morrisons (Glyn Ebwy)
    7fed Tachwedd: Tesco (yr Wyddgrug)

  • Shelter Cymru Team Members

    Digwyddiadau
    Mae gennym lawer o ddigwyddiadau cyffrous ar y gweill eleni. Efallai yr hoffech helpu i ddosbarthu pice ar y maen i feicwyr yn ein Castles & Cathedrals. Neu ymuno â ni mewn man cefnogi ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd. Os ydych chi’n mwynhau awyrgylch digwyddiadau, byddai’n wych petaech yn ymuno â ni. Dyma rai cyfleoedd sydd gennym ar y gweill yn fuan.

    E-bostiwch: [email protected]

    24 Mai: 10k Y Drenewydd (Y Drenewydd)
    7 Mehefin: Hanner Marathon Abertawe (Abertawe)
    4 Hydref: Hanner Marathon Caerdydd (Caerdydd)
    24 Hydref: Marathon Eryri (Eryri)

  • Daliwch Sylw
    A oes gennych brofiad uniongyrchol o ddigartrefedd? Os felly, byddai ein tîm Daliwch Sylw yn gwerthfawrogi eich mewnbwn yn fawr iawn. Mae Daliwch Sylw yn brosiect sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr y gwasanaeth, gyda’r nod o wella gwasanaethau tai a digartrefedd ledled Cymru. Rydym am roi llais i’r bobl hynny sydd wedi cael profiad o ddigartrefedd neu dai. Cysylltwch â ni os byddech yn gyfforddus i rannu eich profiadau er mwyn ein helpu i newid y system er gwell.

    E-bostiwch y Cydlynydd Profiadau Uniongyrchol: [email protected]

  • Rhaglen Llwybrau
    Mae gwasanaeth ffôn, e-bost a gwe-sgwrs Shelter Cymru – Shelter Cymru Fyw – yn hanfodol o ran galluogi pobl i frwydro dros gartref ac rydym yn chwilio am bobl i ymuno â’n hachos. Bwriad y rhaglen hon yw eich hyfforddi hyd at lefel cyflogaeth wrth ymgymryd â’ch rôl wirfoddol. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth werthfawr o’n tîm Cynghori ac yn cael hyfforddiant a mentoriaeth i’ch helpu i wneud cais am gyfleoedd swyddi yn y dyfodol.

    Ewch i’r dudalen Rhaglen Llwybrau Gwirfoddoli i gael rhagor o wybodaeth.

  • Cydlynydd tuniau casglu
    Rydym mor ddiolchgar bob tro mae cefnogwr yn gollwng ceiniog, neu bunt, neu hyd yn oed nodyn i mewn i un o’n tuniau casglu. Rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr i ofalu am y tuniau casglu hyn, sy’n ffynhonnell bwysig o’n hincwm codi arian, ac sy’n ein galluogi i barhau â’n gwaith o helpu miloedd o bobl sy’n wynebu digartrefedd yng Nghymru bob blwyddyn. Rydym yn bwriadu rhoi tuniau casglu mewn tafarndai, bwytai a siopau ledled Cymru. Mae hon yn rôl hyblyg iawn, yn ddelfrydol i gyd-fynd ag ymrwymiadau teulu a gwaith. Pe gallech reoli ychydig o duniau yn unig, byddech chi’n gwneud gwahaniaeth enfawr.

    Rydym yn chwilio am gydlynwyr tuniau casglu yn yr ardaloedd canlynol: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Bro Morgannwg, Torfaen, Wrecsam.

    I gael gwybod mwy, e-bostiwch: [email protected]

Holly a’i merch Ola yn gwirfoddoli mewn casgliad bwced yn Asda ym Mhentwyn, Caerdydd

Cwestiynau Cyffredin