Skip to main content

Cyfrannu

Gallai £25 ddarparu sesiwn gynghori
un wrth un, gan roi’r gefnogaeth
sydd ei angen i rywun i ddod o hyd i,
a chadw, cartref.
Cyfrannu unwaithCyfrannu yn fisolGallai £10 y mis ein helpu i ateb chwe
galwad frys bob blwyddyn i’n llinell
gymorth, yn aml y man cyswllt cyntaf
i bobl sydd angen cartref.
Cyfrannu unwaithCyfrannu yn fisol

Tra bydd digartrefedd yn bodoli,
NI FYDDWN YN RHOI’R GORAU IDDI…

Ers bron i 45 mlynedd, rydym wedi bod yn brwydro dros GARTREF. Mae’n hawl ddynol, ac ni fyddwn yn rhoi’r gorau iddi nes bod gan bawb yng Nghymru fynediad at le diogel, sicr, addas a gwirioneddol fforddiadwy i’w alw’n ‘gartref’.

Nid tasg fach yw hon, ond rydym wedi ymrwymo i’w chyflawni. Ni allwn barhau i fod yno i’r holl bobl sydd ein hangen heb eich cefnogaeth.

Ond mae ein gwaith ymhell o fod ar ben…

Cartref yw’r lle rydym yn gwreiddio, yn teimlo’n sefydlog ac yn edrych tuag at ddyfodol disgleiriach, llawn gobaith. Mae ein cydweithwyr yn gweithio’n ddiflino i ddarparu cyngor a chefnogaeth am ddim, cyfrinachol ac annibynnol i unrhyw un y mae ei gartref mewn perygl, mewn cyflwr gwael neu os yw cartref yn rhywbeth y mae person ei angen, ond nad oes ganddo.

Ffoniodd Rachel ein llinell gymorth frys pan oedd dan fygythiad o ddigartrefedd ynghyd â’i dau blentyn ifanc. Fel llawer o bobl yng Nghymru, roedd Rachel wedi syrthio ar ei hôl hi gyda’i rhent. Roedd y posibilrwydd o golli ei chartref yn achosi pryder difrifol iddi.

Mae Abi yn Weithiwr Achos yn Shelter Cymru. Fel ein holl gydweithwyr, mae hi’n angerddol ac yn ymroddedig i helpu pobl i ddod o hyd i gartref – a’i gadw.

Gwnaeth Abi gefnogi Rachel drwy gysylltu â thrydydd partïon perthnasol ar ei rhan, gan ddileu’r straen amlwg o ddelio â bygythiad digartrefedd ar ei phen ei hun. Hefyd, daeth Abi o hyd i grantiau oedd ar gael, a ffyrdd eraill y gallai Rachel wella sefyllfa ariannol ei theulu. Cliriwyd yr ôl-ddyledion rhent ac roedd Rachel a’i phlant yn gallu aros yn eu cartref, gan wybod eu bod yn gallu fforddio eu costau byw o ddydd i ddydd yn well yn y dyfodol – diolch i gymorth Abi.

“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi am wrando a’m helpu i a fy nwy ferch pan oedd pawb arall yn fy ngweld fel astudiaeth, swydd, neu rif.

Fe wnaethoch chi ein trin mor garedig ac rydych chi wedi llwyddo i’n helpu i gadw ein cartref o fewn pythefnos …. Rydw i wedi llwyddo i ddechrau cysgu a chael fy archwaeth nôl, mae’r merched yn hapusach, rydyn ni hyd yn oed wedi bod yn codi’n gynnar yn mynd i glwb brecwast yn yr ysgol, o ddweud wrth eu ffrindiau ein bod ni’n gadael i adael iddyn nhw gael tri ffrind i gysgu dros nos y penwythnos hwn a dechrau mwynhau ein cartref eto.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at greu mwy o atgofion yma nawr! Diolch yn fawr iawn i chi am bopeth rydych chi wedi’i wneud i ni.”
-Rachel

Yn anffodus, nid yw stori Rachel yn unigryw. Bob dydd, mae ein gweithwyr achos ledled Cymru yn cefnogi pobl sy’n wynebu heriau tebyg; pobl y mae eu bywydau wedi cael eu troi wyneb i waered gan y perygl o fod yn ddigartref.

Ni ddylai fod fel hyn.

Dyna pam na fyddwn yn rhoi’r gorau i weithio nes bod gan bawb yng Nghymru le diogel i’w alw’n gartref. Ond ni allwn ei wneud heb eich cefnogaeth barhaus. Gyda’n gilydd, gallwn fod yno i bobl pan fyddant ein hangen fwyaf.

Y llynedd, fe wnaethom helpu 20,820 o bobl drwy ein gwasanaethau cyngor a chymorth. Mae hyn yn cyfateb i lenwi’r Utilita Arena yng Nghaerdydd bron i 3 gwaith. Mae ein gweithwyr achos yn gweithio’n galed i helpu pawb sydd ein hangen ni, ond rydym yng nghanol argyfwng tai, ac mae angen ein cymorth ar lawer mwy o bobl.

Mae rhoddion rheolaidd yn ein helpu i gynllunio ar gyfer ein dyfodol, diogelu ein gwasanaethau cymorth a sicrhau y gall pobl sydd ag angen tai gael mynediad at y cymorth cywir ar yr amser iawn. Drwy roi’n rheolaidd, pa bynnag swm y gallwch ei roi, rydych yn gallu helpu pobl i ddod o hyd i gartref – a’i gadw.

A wnewch chi ystyried rhoi rhodd misol, a’n helpu ni i fod yno i fwy o bobl fel Rachel?

Os nad rhoi’n rheolaidd yw’r opsiwn cywir i chi, gallwch chi wneud argraff o hyd gyda rhodd untro. Mae pob rhodd, beth bynnag fo’i faint, yn ein helpu ni i fod yno i bobl sydd mewn angen tai.

Ewch i sheltercymru.org.uk/donate am ragor o wybodaeth.

Cyfrannu unwaith Cyfrannu yn fisol

*Mae’r enw wedi’i newid i ddiogelu hunaniaeth
Shelter Cymru roof logo

BRWYDRO DROS GARTREF

Rydym yn bodoli i amddiffyn yr hawl i gartref diogel, oherwydd cartref yw popeth.

Sut rydych chi’n llywio’r frwydr dros gartref

Allwn ni ddim gwneud hyn hebddoch chi. Am bob £1 rydych yn cyfrannu:

  • mae 89c yn cael ei wario yn uniongyrchol ar helpu pobl drwy gyngor, cefnogaeth ac ymgyrchu
  • mae 11c yn cael ei wario ar godi arian

Er mwyn dysgu mwy am y ffordd rydym wedi helpu, ewch i’n tudalen ar effaith yma.

Am bob £1 a dderbyniwn