Rydyn ni’n falch iawn eich bod yn ystyried ymuno â’r tîm yn Shelter Cymru.
Rydyn ni’n deall yr effaith ddinistriol y mae’r argyfwng tai yn ei hachosi ac yn gweithio ochr yn ochr â phobl bob dydd er mwyn delio â’r effaith niweidiol y mae’n ei chael ar eu bywydau.
Ar hyn o bryd rydyn ni’n cyflogi gweithlu cyflogedig o dros 100 o bobl ledled Cymru a nifer cynyddol o wirfoddolwyr. Gyda’r mathau o wasanaethau a chefnogaeth rydyn ni’n eu cynnig a’n hagenda ymgyrchu a lobïo, mae ein swyddi yn gyfle i wirfoddoli neu i ddilyn gyrfa mewn maes heriol ond un sy’n rhoi llawer o foddhad.
Fe welwch fod pobl ymhob rhan o Shelter Cymru yn credu’n angerddol yn yr hyn maen nhw’n ei wneud, yn gwerthfawrogi ein credoau a’n gwerthoedd, ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Rydyn ni’n credu mai cartref yw popeth, a dydyn ni byth yn rhoi’r gorau iddi.
Mae pobl yn teimlo bod gweithio i Shelter Cymru yn fwy na dim ond swydd. Maen nhw’n rhan o dîm clos sy’n darparu cymorth i’r rhai sydd ei angen, ac sy’n ymdrechu’n gyson i gyflawni newid.
Felly dewch i ymuno â’r frwydr am gartref a dod yn rhan o dîm Shelter Cymru!
-
Swyddi gwag cyfredol
Dewch i weithio yn Shelter Cymru a brwydro dros gartrefi o ddydd i ddydd.
-
Gwirfoddoli
Dysgwch sut y gallwch chi ymuno â’r frwydr dros gartrefi gyda’n hystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli.
-
Wedi defnyddio ein gwasanaethau?
Rydyn ni eisiau clywed am eich profiad chi er mwyn helpu i wella gwasanaethau i’r bobl sydd eu hangen yn y dyfodol.
-
Ymchwil cymheiriaid
Mae ein hymchwilwyr cymheiriaid yn siarad â phobl sydd wedi mynd trwy brofiadau tebyg iddyn nhw er mwyn rhoi cyfle i bobl sicrhau bod eu straeon yn cael eu clywed.
Manteision allweddol
Ni fyddai unrhyw beth a gyflawnwn yn bosibl heb ddoniau a gwaith caled pawb sy’n cael eu cyflogi gan Shelter Cymru; ein staff yw un o’n hasedau mwyaf. O ran recriwtio a chadw staff, byddwn yn darparu lefel uchel o gefnogaeth i chi, amgylchedd gwaith croesawgar, a phecyn rhagorol o fuddion fel y manylir isod.
Os oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch, cysylltwch â’r tîm Adnoddau Dynol drwy e-bost neu ar 02920 556120