Dewch yn ymchwilydd cymheiriaid gyda Shelter Cymru
Rôl ymchwilydd cymheiriaid yw siarad â phobl sydd wedi mynd trwy neu sy’n mynd trwy brofiadau tebyg iddyn nhw. Mae’n rhoi cyfle i bobl gael eu straeon wedi’u clywed a siarad am bethau gyda rhywun sy’n gallu deall yn iawn.
Mae gan ymchwilwyr cymheiriaid y cyfle i gyfrannu at ymchwil sy’n tynnu sylw at y problemau y mae pobl sydd mewn angen tai yn eu hwynebu. Gallai hyn yn ei dro arwain at newidiadau cadarnhaol mewn gwasanaethau tai. Mae’n rôl hanfodol, mae angen arbenigwyr arnom trwy brofiad!
Mae ymchwilwyr cymheiriaid yn cael eu talu am eu gwaith, ac yn cael eu cyflogi ar sail achlysurol. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant ymchwil achrededig am ddim
Rydym am recriwtio ymchwilwyr cymheiriaid sydd â phrofiad o:
- Gwneud cais am dai cymdeithasol gyda’u Awdurdod Lleol neu Gymdeithasau Tai
- Digartrefedd / cael eich bygwth â digartrefedd
- Byw mewn hosteli, llety dros dro neu lety â chymorth
Edrychwch ar y Cwestiynau Cyffredin isod am ragor o wybodaeth, neu i gael rhagor o wybodaeth am ein hymchwil, edrychwch ar ein tudalen polisi ac ymchwil.