Mae B&Q wedi cefnogi Shelter Cymru ers 2017. Mae’r bartneriaeth yn seiliedig ar y gred gyffredin y dylai pawb gael cartref sy’n gwneud iddynt deimlo’n dda yn ei gylch.
Ers lansio’r bartneriaeth, mae cydweithwyr a chwsmeriaid wedi codi arian hanfodol i gefnogi ein brwydr dros gartref. Mae gweithgareddau yn cynnwys penwythnosau codi arian yn y siopau, yn ogystal â chymryd rhan yn ein digwyddiadau.
Mae’r cwmni DIY a gwelliannau i’r cartref hefyd yn gwerthu cardiau Nadolig a chynnyrch eraill Shelter Cymru, yn y siopau ac ar-lein.
Yn ogystal â hyn, mae staff B&Q wedi defnyddio eu harbenigedd i roi cymorth ymarferol i’r rhai hynny sydd mewn angen. Mae hyn yn cynnwys y prosiect ‘Good Homes’ – gan helpu i drawsnewid adeiladau yn gartrefi.
Mae’r bartneriaeth eithriadol hon wedi galluogi Shelter Cymru i ddarparu cymorth hanfodol i bobl sy’n wynebu digartrefedd ar draws Cymru. Diolch B&Q!