Ymunwch â cherddwyr ledled y wlad ar eu taith i roi terfyn ar ddigartrefedd
Cerdded dros Gartref yw’r digwyddiad cerdded DIY sy’n mynd i’r afael â digartrefedd
Bob 23 munud, mae person arall yng Nghymru yn cysylltu â ni am help.
Ymunwch â cherddwyr ledled y wlad i gymryd camau er mwyn codi arian a’n helpu i roi rhywle cynnes a diogel i deuluoedd alw’n gartref.
Dewch â’ch ffrindiau a’ch teulu ynghyd, dewiswch bellter a llwybr sy’n addas i chi, a mwynhewch ddiwrnod yn yr awyr agored gyda’ch gilydd.
Sut i Gerdded dros Gartref
1. Dewiswch ddyddiad a llwybr
Cerddwch mor bell ag yr hoffech ei wneud, yn lle bynnag a phryd bynnag y mynnwch.
2. Estynnwch wahoddiad i’ch cerddwyr
Cerddwch gyda’ch ffrindiau, eich teulu, eich cydweithwyr neu hyd yn oed jyst gyda’ch ci.
3. Dechreuwch godi arian
Mae gennym adnoddau a chyngor arbennig i helpu i wneud y broses o godi arian yn un hawdd.
4. Cerdded Gartref
Dechreuwch gerdded a mwynhewch!
Cofrestrwch yma
Sut bydd eich taith gerdded yn helpu i roi terfyn ar ddigartrefedd
Rydym yn brwydro am ddyfodol lle bydd gan bawb gartref diogel.
Llynedd, gwnaethom helpu 22,513 o bobl oedd angen cartref. Ond mae llawer mwy o bobl sydd ddim yn gwybod lle i droi i gael help. Pobl sy’n byw mewn cartrefi anniogel neu anaddas. Pobl heb le parhaol i’w alw’n gartref.
Gall eich taith gerdded roi help a chyngor sydd wir eu hangen i’r rhai sydd eu hangen fwyaf.
£10 y mis
Gallai rhodd o £10 y mis ein helpu i ateb chwe galwad frys y flwyddyn ar ein llinell gymorth, yn aml y man galw cyntaf i bobl sydd angen cartref.
£25
Gallai un rhodd o £25 ddarparu sesiwn cymorth un i un, a rhoi’r cymorth sydd ei angen ar rywun er mwyn cael, a chadw, cartref
E-bost: [email protected]
Ffoniwch: 01792 483003