Oes awydd arnoch i gynnal cwis? Beth am wneud ras rwystrau? Neu drefnu gig? Mae yna gymaint o ffyrdd hwyliog o godi arian.
Y llynedd, helpon ni dros 22,000 o bobl oedd yn wynebu digartrefedd a thrafferthion tai yng Nghymru. Mae gweithgareddau codi arian gan ein cefnogwyr gwych yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl sydd mewn angen tai.
Meddai cleient Shelter Cymru, Amanda Lawrence: “Cartref, i ni, yw sefydlogrwydd a diogelwch – ein hafan. Roedd ein gweithiwr achos yn hyfryd ac roeddem yn ymddiried ynddi i’n helpu.”
P’un a ydych chi’n mwynhau pobi, gemau bwrdd, boreau coffi, pêl-droed, carioci, gwau, barddoniaeth, rhedeg, nofio, ioga, neu rywbeth arall, dyma rai syniadau, adnoddau ac awgrymiadau i’ch rhoi ar ben ffordd.
Gallwch lawrlwytho ein pecyn codi arian yma:
Mae ein tîm Codi Arian yma i’ch helpu
Tîm Codi Arian: [email protected]
Neil Davies, Codwr Arian Rhanbarthol, De Cymru: [email protected]
Frankie Mairs, Codwr Arian Rhanbarthol, Gogledd Cymru: [email protected]
Ble mae’ch arian yn mynd
Drwy gynnal digwyddiad codi arian, rydych chi’n helpu i amddiffyn yr hawl i gartref diogel ac yn brwydro yn erbyn effaith ddinistriol yr argyfwng tai ar bobl a chymdeithas.
Darganfyddwch mwy am yr hyn a wnawn
Diolch am ymuno â’r frwydr dros gartref. Pob lwc a mwynhewch y codi arian!