Partner corfforaethol i Shelter Cymru
Mae gan Shelter Cymru a Wales & West Utilities gred gyffredin y dylai cartrefi fod yn rhywle diogel a chynnes
Os ydych chi’n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd – rydych chi mewn mwy o berygl o fyw mewn llety is-safonol gyda mwy o risg o wenwyn Carbon Monocsid o hen offer ac yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi tanwydd.
Mae Shelter Cymru a Wales & West Utilities wedi ffurfio partneriaeth bwysig i helpu pobl i gadw cartref diogel a chynnes. Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth am ddiogelwch a chyfrifoldebau Carbon Monocsid o fewn y cartref, cyngor ar gynlluniau cymorth tanwydd sydd ar gael a chyngor ar ddyledion a budd-daliadau.
- Cliciwch yma i gael cyngor cymorth tanwydd
- Cliciwch yma i gael cymorth dyled a budd-daliadau
- Cliciwch yma i gael mynediad i hyfforddiant e-ddysgu am ddim am ddiogelwch Carbon Monocsid
Yn ogystal â chefnogi ein gwasanaeth cyngor rhad ac am ddim – mae Wales & West Utilities hefyd yn darparu larymau Carbon Monocsid am ddim a phecynnau cadw’n gynnes i’r bobl hynny sy’n ei chael hi’n anodd yn ystod y gaeaf. Ewch i un o’n cymorthfeydd i gael cymorth. Cliciwch yma i ddod o hyd i gymhorthfa gyngor yn eich ardal chi.
Hoffai Shelter Cymru ddiolch i Wales & West Utilities am eu cefnogaeth hael a’u hymrwymiad i helpu pobl i gadw’n ddiogel ac yn gynnes yn eu cartrefi eu hunain.
Gyda chymorth Wales & West Utilities, mae Shelter Cymru wedi cynhyrchu’r fideo cyngor hwn i helpu pobl sy’n cael trafferth gyda chost gwresogi eu cartrefi.
Cymorth gyda chostau gwresogi