Skip to main content

Heriau seiclo

People cycling

Castell & Chadeirlan

Dechreuodd ein digwyddiad seiclo Castell & Chadeirlan am y tro cyntaf yn 2013 ac mae wedi dod yn uchafbwynt poblogaidd yn ein calendr codi arian. Rydym yn cymryd hoe yn 2024, ar ôl dathlu dengmlwyddiant y digwyddiad gyda chwrs heriol 80 milltir y llynedd. Ond byddwn yn ôl yn 2025, felly gwyliwch y gofod hwn. Os ydych chi wrth eich bodd yn seiclo ac eisiau herio’ch hun ar lwybr anhygoel o amgylch De Cymru, a’r cyfan tra’n codi arian ar gyfer pobl sy’n wynebu ac yn profi digartrefedd, dyma’r digwyddiad i chi. Mwy o fanylion i ddilyn yn fuan iawn…

Dydd Sul 13 Gorffennaf 2025
Ar werth ym mis Ionawr 2025
Cysylltwch â [email protected] am ragor o wybodaeth

Ewch ar eich beic i yrru’r frwydr dros gartref

Mother and son

MAE CARTREF YN HAWL DYNOL.

Rydym yn bodoli i amddiffyn yr hawl i gartref diogel yng Nghymru ac i frwydro yn erbyn yr effaith andwyol mae’r argyfwng tai yn ei gael ar bobl a chymdeithas.

Gwnawn hyn gyda chyngor, cymorth ac ymgyrchoedd – a dydyn ni byth yn rhoi’r ffidil yn y to.

Llynedd helpodd Shelter Cymru 22,513 o bobl drwy ein gwasanaethau, yn cynnwys 6,898 o blant. Byddwn bob amser yn brwydro dros gartref, a dros bawb sydd heb un. Ond allwn ni ddim gwneud hyn hebddoch chi. Helpwch ni i gadw ein gwasanaethau cynghori ar agor i bawb yng Nghymru sydd angen ein help.

Credwn mai cartref yw popeth.

Sefwch gyda ni. Ymunwch a’r frwydr.