CARTREF YW POPETH. HELPWCH NI I’W AMDDIFFYN DRWY ADAEL RHODD YN EICH EWYLLYS.
Rydym yn wynebu argyfwng tai. Mae’n effeithio ar 1 o bob 3 o bobl sy’n byw yng Nghymru. Gallwch chi ein helpu i newid pethau er gwell drwy adael rhodd i ni yn eich ewyllys.
Mae cynnwys rhodd yn eich ewyllys yn un o’r ffyrdd mwyaf arwyddocaol y gallwch gefnogi ein hymdrechion i helpu pobl sy’n wynebu neu’n profi digartrefedd yng Nghymru.
Ar ôl gofalu am eich teulu a’ch ffrindiau, gall hyd yn oed swm bach gael effaith enfawr ar y gwaith rydym yn ei wneud yma yn Shelter Cymru.
Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu system dai decach am genedlaethau i ddod.
Gallai rhodd yn eich ewyllys ein helpu i…
- Frwydro dros hawliau tai gwell yng Nghymru.
- Sicrhau bod ein gwasanaethau cymorth ar gael i bawb sydd ein hangen.
- Codi ymwybyddiaeth o’n hachos fel bod pobl yn gwybod ein bod yma i helpu.
![]()
Dwi wedi gweld o brofiad yr effaith mae Shelter Cymru yn ei gael wrth wella tynged pobl sydd mewn angen tai yng Nghymru. Os fedraf i wneud fy ran, waeth pa mor fychan, i helpu rhywun sydd yn wynebu’r hunllef o golli cartref….pam na fyddwn yn gwneud hynny? Dwi’n gadael rhodd yn fy ewyllys i Shelter Cymru oherwydd mae angen eu help ar lawer iawn mwy o bobl. Mae’n rhaid i’w gwaith hanfodol barhau ”
– Diane, cefnogwraig Shelter Cymru.
Sut i adael rhodd
Mae cofio am Shelter Cymru yn eich ewyllys yn symlach nag yr ydych chi’n meddwl – y cyfan sy’n rhaid gwneud yw rhoi gwybod i’ch cyfreithiwr fod gennych ddiddordeb mewn gadael rhodd i Shelter Cymru yn eich ewyllys a darparu’r manylion canlynol iddynt:
Enw’r Elusen: Welsh Housing Aid Limited T/A Shelter Cymru
Cyfeiriad: Shelter Cymru, 25 Heol Walter, Abertawe, SA1 5NN
Rhif Elusen Cofrestredig: 515902
Gallwch ymweld â gwefan Law Society i ddod o hyd i gyfreithiwr yn eich ardal leol a fydd yn gallu eich cynghori ar adael rhoddion i elusennau wrth wneud ewyllys.
Cynnig Ysgrifennu Ewyllys Rhad ac Am Ddim
Rydym wedi creu partneriaeth gyda Farewill i gynnig gwasanaeth ysgrifennu ewyllys am ddim. Mae hyn yn gyfle gwych i sicrhau bod eich dymuniadau’n cael eu dogfennu’n glir a’ch bod yn gofalu am eich anwyliaid. Er y byddem yn ddiolchgar pe baech yn ystyried cynnwys Shelter Cymru yn eich ewyllys, nid oes unrhyw rwymedigaeth i wneud hynny wrth ddefnyddio’r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn.
Os hoffech wybod mwy, neu os oes gennych gwestiynau am adael rhodd yn eich ewyllys, cysylltwch â Francesca ar 07976 738805 neu e-bostiwch ni at [email protected]
Os ydych eisoes wedi ein cynnwys yn eich ewyllys – diolch. Os ydych yn hapus i wneud hynny, rhowch wybod i ni fel y gallwn ddiolch i chi.
