Skip to main content

Cyfreithiol

Ymwadiad

Dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith sy’n ymwneud â gwledydd y Deyrnas Unedig y mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio bod y wybodaeth yn berthnasol i’r wlad rydych chi’n byw ynddi. Os ydych chi’n credu bod gennych chi broblem gyfreithiol, dylech chi gael cyngor.

Nid yw Shelter yn cynrychioli nac yn gwarantu bod y wybodaeth sydd ar gael trwy’r wefan yn gywir, yn gyflawn nac yn gyfredol. Gall pris ac argaeledd gwybodaeth newid heb rybudd.

Ni fydd Shelter Cymru yn atebol (i’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith) am unrhyw golled, difrod neu anghyfleustra sy’n codi o ganlyniad i unrhyw ddefnydd o unrhyw wybodaeth ar y wefan hon neu’r anallu i’w defnyddio.

Nid yw Shelter Cymru yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau cysylltiedig ac ni ddylid cymryd dolenni fel cymeradwyaeth o unrhyw fath. Nid oes gan Shelter Cymru unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig.

Sylwch nad yw’r negeseuon a bostiwyd ar ein byrddau trafod o reidrwydd yn adlewyrchu barn Shelter Cymru. Nid yw Shelter Cymru yn gyfrifol am eu cynnwys na’u cywirdeb. Rydym yn cadw’r hawl i eithrio defnyddwyr yn ôl ein disgresiwn llwyr, gan gynnwys y rhai sy’n cyflwyno unrhyw ddeunydd enllibus, anghyfreithlon, camdriniol neu ddeunydd sy’n gysylltiedig â hysbysebu.

Hawlfraint

Dim ond at eich defnydd personol, anfasnachol, y mae’r wefan hon ar gael. Ni chewch gopïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, postio, dosbarthu, trosglwyddo na newid mewn unrhyw ffordd y wefan hon yn gyfan gwbl nac unrhyw ran ohoni.

© 2015 Shelter Cymru Cedwir Pob Hawl.

Cyfeiriad cofrestredig: Uned 3, Tŷ Davies, Parc Menter Ffordd Phoenix, Abertawe, SA7 9LA

Wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr

Rhif elusen gofrestredig: 515902