Skip to main content

Pobl hŷn : dolenni defnyddiol

Age Cymru

Cyngor, gwybodaeth a gwasanaethau i bobl hŷn. Mae gan Age Cymru linell wybodaeth sef 0300 303 44 98 (Llun – Gwener 9am – 4pm, codir tâl am alwadau ar gyfradd leol), sy’n cynnig cyngor am ddim ar ystod eang o faterion. Maen nhw hefyd yn cyhoeddi cyfres o daflenni ffeithiau, sydd ar gael am ddim ar-lein, sy’n ymdrin â phynciau fel dod o hyd i lety a thalu amdano.

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn gweithio i amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn yng Nghymru. Mae’n darparu ystod o gymorth a gwybodaeth.

Gofal a Thrwsio Cymru

Elusen genedlaethol sy’n gweithio i sicrhau bod gan bob person hŷn gartref sy’n ddiogel ac yn briodol i’w anghenion. Gallwch ddarganfod sut i gael help gan eich Gofal a Thrwsio lleol drwy ffonio 02920 107580 neu edrych yma.

Cwnsler Llety’r Henoed

Os oes angen cymorth neu ofal arnoch gartref, neu os ydych chi’n meddwl symud, nod y  wefan hon  yw darparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ystyried eich holl opsiynau a dod i’ch penderfyniadau eich hun. Os hoffech help, bydd yn eich tywys i’r gwasanaeth cyngor mwyaf priodol.

Which? Elderly Care

Fel sefydliad nid-er-elw, mae Which? yn darparu gwybodaeth annibynnol, glir a gwybodus am bwnc gofal henoed ynghyd â mynediad at ddarparwyr gwasanaethau lleol ledled y DU.

Mae’r wybodaeth ar wefan Which? Later Life Care wedi’i darparu ar gyfer perthnasau a ffrindiau pobl sydd angen cyngor gofal. Mae’r cynnwys yn canolbwyntio ar ariannu gofal, opsiynau tai ac anghenion pobl hŷn, megis delio â phroblemau cof a chael mynediad at ofal a chymorth awdurdodau lleol a’r GIG.

SignHealth Social Care:

Rydyn ni’n darparu gwasanaethau gofal arbenigol i gefnogi pobl fyddar i fyw bywydau llawn ac annibynnol mewn cartrefi preswyl, byw â chymorth a thrwy wasanaethau allgymorth Gofal Cymdeithasol – SignHealth

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Tachwedd 6, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.