Gwneud cais i fyw a gweithio yn y DU os ydych yn ddinesydd yr UE/AEE
Os oeddech yn byw yn y DU ar 31 Rhagfyr 2020 ac rydych yn:
- Dinesydd yr Undeb Ewropeaidd (UE).
- dinesydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), neu a
- dinesydd Swisaidd
mae rheolau newydd yn golygu bod yn rhaid i chi wneud cais am statws cyn-sefydlog neu sefydlog os ydych am barhau i fyw a gweithio yn y DU.
Gelwir y cynllun i wneud cais am statws cyn-sefydlog neu sefydlog yn Gynllun Setliad yr UE (EUSS).
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i’r EUSS oedd 30 Mehefin 2021. Os gwnaethoch fethu’r dyddiad cau dylech wneud cais o hyd, gan roi rhesymau pam yr oeddech yn hwyr.
Os na fyddwch yn gwneud cais i’r EUSS ni fyddwch yn gallu cael cymorth gan y cyngor gyda budd-daliadau tai neu hawlio budd-daliadau.
Sut mae gwneud cais i’r EUSS?
Gallwch wneud cais i Gynllun Setliad yr UE (EUSS) ar wefan Gov.uk.
Mae’n rhad ac am ddim i wneud cais.
Beth os cyrhaeddais y DU am y tro cyntaf ar neu ar ôl 1 Ionawr 2021?
Os nad oeddech yn byw yn y DU cyn 31 Rhagfyr 2020, neu wedi dod i mewn i’r DU am y tro cyntaf ar neu ar ôl 1 Ionawr 2020, byddwch yn destun rheolaeth fewnfudo ac mae’r rheolau ynghylch eich cymhwysedd i gael cymorth gyda thai yn wahanol.
Ble gallaf gael mwy o help?
Dysgwch fwy am yr EUSS yma.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Tachwedd 10, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.