Ymwadiad
Ni fyddwn yn goddef unrhyw fath o gasineb neu wahaniaethu. Os ydych chi’n sarhaus tuag at ein staff neu’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu, neu os ydych chi’n ymddwyn yn afresymol, gall hyn olygu ein bod ni’n dod â’r gwe-sgwrs i ben a thynnu ein gwasanaeth yn ôl.
Oherwydd ein gwerthoedd fel sefydliad, ni fyddwn yn rhoi unrhyw gyngor i landlordiaid nac unrhyw un sy’n ceisio gwneud person arall yn ddigartref. Efallai y bydd cyngor arall ar gael i chi gan Rhentu Doeth Cymru, Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid neu eich Awdurdod Lleol.
Mae ein gwasanaeth Gwe-sgwrs i ddarparu cyngor i gleientiaid newydd yn unig. Os oes gennych chi achos agored gyda ni neu os ydych chi wedi ceisio cyngor gennym ni ar yr un mater o’r blaen, cysylltwch â’ch swyddfa Shelter Cymru leol
Ein gwasanaeth gwe-sgwrs rhad ac am ddim
Sgwrsiwch â chynghorydd tai arbenigol ar-lein.
Mae ein cynghorwyr ar gael i sgwrsio 9yb – 4yp o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Beth i’w ddisgwyl yn ystod y sgwrs
Mae’r rhan fwyaf o sgyrsiau fel arfer yn cymryd tua 20 munud, ond gallant fod yn fyrrach neu’n hirach yn dibynnu ar eich problem.
Sicrhewch fod gennych unrhyw waith papur, gwybodaeth neu fanylion perthnasol wrth law.
Cyn sgwrsio â ni, rydym yn argymell rhoi cynnig ar ein tudalennau cyngor tai i weld a allwch ddod o hyd i’r wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani.
Os ydych mewn angen brys
Os nad yw ein hymgynghorwyr tai arbenigol ar gael i sgwrsio ar hyn o bryd ac os na allwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano ar ein tudalennau cyngor tai, rhowch gynnig ar ein llinell gymorth tai brys.
Os ydych mewn perygl uniongyrchol
Ffoniwch 999 am help os ydych mewn perygl o drais.
Os ydych yn teimlo’n isel iawn ac angen siarad, gallwch ffonio’r Samariaid am ddim ar 116 123, cysylltwch â’r C.A.L.L. llinell gymorth iechyd meddwl i Gymru (testun neu ffôn) neu ewch i stayingsafe.net.
Mae Llinell Gymorth Digartrefedd Ieuenctid Llamau ar gael i gefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu sy’n profi digartrefedd. Os ydych rhwng 16-24 oed a heb le diogel i aros, mae Llinell Gymorth Digartrefedd Ieuenctid Llamau ar agor drwy’r nos, o 5yp tan 9yb a thrwy gydol y penwythnos o 5yp nos Wener tan 9yb fore Llun. 0800 0 495 495, Pwyswch opsiwn 1 yn rhad ac am ddim i gael cymorth a chyngor ar sut i gadw’n ddiogel a chael gafael ar gymorth.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Hydref 16, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.