Gall problemau gyda chydletywyr fod yn anodd eu datrys. Mae’r hyn y gallwch ei wneud fel arfer yn dibynnu ar beth yw’r broblem ac enw pwy y mae’r contract ynddo.
Allwch chi gytuno ar ateb?
Y cam cyntaf tuag at ddatrys unrhyw broblem gyda’ch cyd-letywyr yw trafod y sefyllfa. Sicrhewch fod pob person yn ei gwneud yn glir beth mae ef/hi ei eisiau – efallai y gallwch ddod i gyfaddawd boddhaol cyn i’r broblem fynd yn rhy ddifrifol. Meddyliwch am wahodd person diduedd o’r tu allan i’ch cartref i helpu i drafod.
Mae llawer o broblemau mewn llety a rennir yn ymwneud â phethau cyffredin fel y golchi llestri, maint y gerddoriaeth neu ysmygu mewn mannau a rennir. Yn y sefyllfaoedd hyn, os nad yw siarad yn helpu, efallai mai’r unig opsiynau fydd goddef y sefyllfa neu symud allan.
Allwch chi ofyn i’r landlord am help?
Os nad yw siarad yn datrys y broblem efallai y byddai’n werth gofyn i’ch landlord am help. Mewn rhai achosion efallai y bydd yn gallu cymryd camau yn erbyn y bobl sy’n gyfrifol, er na allwch eu gorfodi i wneud hyn. Mae’r hyn y gall eich landlord ei wneud yn dibynnu ar y math o gontract sydd gennych a’r broblem benodol yn eich cartref.
Beth am achosion eithafol?
Mewn achosion eithafol iawn efallai y gallwch gael help gan y cyngor neu’r heddlu. Mae hyn ond yn debygol o fod yn bosibl mewn sefyllfaoedd lle:
- mae deiliad contract arall wedi eich bygwth â thrais
- mae’r sŵn neu’r difrod a achosir mor ddifrifol fel ei fod wedi dod yn niwsans difrifol
- mae aflonyddu hiliol neu rywiol.
Os ydych mewn unrhyw un o’r sefyllfaoedd hyn, mynnwch help ar unwaith.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Hydref 2, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.