Skip to main content

Datganiad atebolrwydd

Datganiad Atebolrwydd 2013

Mae Shelter Cymru wedi ymrwymo i fod yn sefydliad agored ac ymatebol. Rydym am sicrhau bod:

  • Ein pwrpas a’n hamcanion a sut rydym yn mynd i’w cyflawni yn cael eu deall a bod pobl yn gallu gwneud    sylwadau arnynt a chyfrannu atynt.
  • Gall pawb weld ein bod yn cael ein rheoli a’n trefnu’n dda ac yn defnyddio ein hadnoddau’n briodol i gyflawni ein hamcanion.
  • Gall pobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau ymgysylltu â’r sefydliad, gan helpu i wella a darparu gwasanaethau, ymgyrchu a chyfrannu at ei gyfeiriad strategol.
  • Gall pobl weld ein bod yn gwrando ac yn dysgu o adborth agored ac adeiladol.

Camau Gweithredu 2013/14

Bydd cyfres o holiaduron byr ar-lein yn cael eu datblygu i fesur canfyddiadau a disgwyliadau’r cyhoedd o’r sefydliad.

  • Bydd adborth ar bob gwasanaeth gan gynnwys cyngor, digwyddiadau, hyfforddiant, cyngor ar-lein, gwefan ac ati yn cynnwys mynegai sgorio safonol fel y gallwn olrhain barn defnyddwyr a’r cyhoedd yn ei erbyn.
  • Bydd adroddiadau a diweddariadau ar adborth defnyddwyr a’r cyhoedd yn cael eu hadrodd yn rheolaidd yn fewnol yn y Cylchlythyr ac yn allanol ar y wefan. Bydd hefyd yn cael ei adrodd yn ffurfiol ddwywaith y flwyddyn i’r Bwrdd.