MAE CYMRU YNG NGHANOL ARGYFWNG TAI.
Argyfwng sy’n gweld bron i 11,000 o bobl yn ddigartref ac yn gaeth mewn llety dros dro, rhentwyr preifat yn wynebu rhenti sy’n gynyddol anfforddiadwy, a 170,000 o bobl yn gaeth ar restrau aros am gartref cymdeithasol. Does dim ateb cyflym ond allwn ni ddim parhau fel yr ydym, gan wylio’r argyfwng tai yn dinistrio cymunedau ledled Cymru.
Gall digartrefedd ddigwydd i unrhyw un. Boed yn rhywun rydych chi’n ei adnabod, rhywun rydych chi’n gweithio gydag ef, eich cwsmeriaid, neu hyd yn oed chi’ch hun, gall gwybod beth i’w wneud – a sut i gael y cymorth cywir ar yr amser iawn – wneud gwahaniaeth sy’n newid bywyd.
Mae FFRINDIAU, a gefnogir gan HSBC UK, yn weithdy 30 munud wedi’i gynllunio i roi’r wybodaeth a’r hyder i chi a’ch rhwydwaith i weld arwyddion cynnar tai gwael a digartrefedd a chymryd camau cadarnhaol.
Drwy ddod yn rhan o FFRINDIAU, byddwch chi’n dysgu:
- sut i adnabod yr arwyddion rhybuddio
- ble i ddod o hyd i gymorth, cyngor a chefnogaeth hanfodol
- sut i gael sgyrsiau cefnogol gyda phobl a allai fod yn ei chael hi’n anodd
- sut allwch chi wneud gwahaniaeth
Mae’r hyfforddiant byr hwn ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw grŵp neu sefydliad yng Nghymru sydd eisiau dysgu mwy am y broblem a dod yn rhan o’r ateb. Gyda’n gilydd, fel FFRINDIAU, gallwn greu dyfodol gwell i bobl sy’n byw mewn tai gwael, sydd mewn perygl o golli eu cartref neu sydd efallai eisoes yn profi digartrefedd.
Cartref yw popeth. Helpwch ni i’w amddiffyn.
E-bostiwch [email protected] i holi am sesiwn yn eich ardal chi.