Sleidio dros Shelter Cymru

Ydych chi’n chwilio am antur llawn cyffro? Ydych chi am gefnogi un o elusennau blaenllaw Cymru ym maes tai a chartrefedd? Unwaith eto, mae Shelter Cymru yn cynnal digwyddiad codi arian yn ZipWorld yn Bethesda ar Mehefin 25ain 2016 ac yn chwilio am bobol mentrus sy’n fodlon cael eu noddi i “Sleidio dros Shelter Cymru”.

Yn dilyn llwyddiant y llynedd mae Shelter Cymru wedi penderfynu gwneud Sleidio dros Shelter Cymru yn ddigwyddiad blynyddol i godi arian i gynorthwyo gwaith yr elusen  sy’n gweithio’n ddyddiol gyda phobol i atal digartrefedd a chartrefedd gwael.  Y weiren sip “Velocity” ym Methesda yw’r weiren hiraf yn Ewrop a’r cyflymaf yn y byd.

Rydym wedi penderfynu cynnal Sleidio dros Shelter Cymru eto eleni yn dilyn llwyddiant llynedd pan llwyddom i godi dros £5,000 i gefnogi ein gwaith o geisio atal digartrefedd a chartrefedd gwael yng Nghymru.  Byddem wrth ein bodd petai digwyddiad eleni yn fwy o beth eto ac felly rydym yn galw ar unrhywun sydd yn hoffi her anturus i arwyddo ar gyfer hyn heddiw.

Mae’r weiren sip “Velocity” yn 500 troedfedd o uchder ac mae’r daith yn cynnwys golygfeydd godidog o Chwarel y Penrhyn ac arfordir Gogledd Cymru.  Mae’n cynnwys cyflymder o dros 100 milltir yr awr, ac mae wedi cael ei ddisgrifio fel “y peth agosaf at hedfan”.

Dywed Sue Holloway, fu’n rhan o’r digwyddiad llynedd fel aelod o dîm Gwasanaethau Cyhoeddus Northgate:

“Rydym eisiau helpu i fynd i’r afael â digartrefedd ble bynnag rydym yn gweithio, felly roedd hyn yn ffordd wych i fi a’r tîm yn Wrecsam i fod yn rhan o’r digwyddiad.  Cawsom ddiwrnod anhygoel ac roedd gwybod y byddai Shelter Cymru yn defnyddio’r arian a godwyd at achos da yn ei gwneud hi’n haws cymryd y naid!”

Mae disgwyl i unrhywun sydd am gymryd rhan yn Sleidio dros Shelter Cymru dalu ffi cofrestru o £30 a chodi o leiaf £120 mewn arian nawdd.  Dylent gysylltu â Claire Pilsbury ar 01978 317910 neu ebostio [email protected] am fwy o wybodaeth.