Skip to main content

Andy Clennell

Trysorydd

Mae Andy yn Gyfrifydd Siartredig profiadol gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn y sector gwasanaethau ariannol.

Treuliodd Andy y flwyddyn ddiwethaf fel Prif Swyddog Ariannol is-adran Post Masnach Grŵp Cyfnewidfa Stoc Llundain (LSEG), yn dilyn caffael Quantile Technologies yn 2022, cwmni technoleg o Lundain sy’n darparu gwasanaethau i’r farchnad deilliadau ariannol, lle’r oedd yn Brif Swyddog Ariannol. .

Cyn hyn treuliodd Andy dros 15 mlynedd yn y banc buddsoddi Americanaidd JPMorganChase, mewn amrywiol swyddi cyfrifeg, rheoleiddio a gweithredol, yn bennaf yn Llundain. Cymhwysodd Andy yn wreiddiol gyda Deloitte lle dechreuodd ei yrfa fel archwiliwr.

Mae Andy yn Gymro balch ac yn siaradwr Cymraeg rhugl, gyda diddordeb arbennig mewn chwaraeon, yn enwedig rygbi Cymru.

Ein pobl

Andy Clennell