Skip to main content

Mike Theodoulou

Cadeirydd

Mike yw Prif Swyddog Gweithredol Foothold Cymru, elusen cyfiawnder cymdeithasol yng Ngorllewin Cymru. Mae’n arweinydd profiadol ac yn Gyfarwyddwr anweithredol. Dechreuodd ei yrfa yn gweithio i frocer stoc yng Nghyfnewidfa Stoc Llundain cyn ymuno â llywodraeth leol a gweithio i nifer o Gymdeithasau Tai yn Llundain, gan ddod yn Ddirprwy Brif Weithredwr Cymdeithas Tai Cymunedol yn 28 oed. Aeth Mike ymlaen i arwain Cymdeithas Tai Eglwysi Paddington (Genesis bellach) drwy gyfnod o ehangu a newid, gan arwain ar nifer o fentrau newydd i frwydro yn erbyn digartrefedd.

Yng Nghymru, roedd Mike yn aelod o Bwyllgor Rheoli’r rhaglen sy’n darparu cronfeydd strwythurol Amcan Un yr UE lle bu’n gadeirydd y Pwyllgor Monitro yn ogystal â’r bartneriaeth a sefydlodd Banc Datblygu Cymru. Am wyth mlynedd, bu’n aelod o Fwrdd y Loteri Fawr yng Nghymru gan gadeirio nifer o bwyllgorau cyllido, a chynrychiolodd Gymru ar Bwyllgor Ariannu’r DU.

Ar hyn o bryd mae Mike yn aelod o Banel Cronfa Grant Busnes Cymdeithasol WCVA. Mae’n gadeirydd yr ‘Alternative Learning Company Limited’ ac fel cynghorydd tref mae’n Gadeirydd Un Llais Cymru, corff cynrychioliadol yr holl Gynghorau Tref a Chymuned. Mae Mike hefyd yn aelod o Gyngor Partneriaeth Gweinidogol Cymru.

Ein pobl

Mike Theodoulou