Yn Shelter Cymru, credwn mai cartref yw popeth. Yn ogystal â chefnogi miloedd o bobl yng Nghymru bob blwyddyn gyda’u problemau tai, rydym yn ymgyrchu i amddiffyn yr hawl i gartref diogel a dod â’r argyfwng tai i ben.
YMUNWCH Â’R FRWYDR DROS GARTREF
Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu dyfodol tecach. Gyda’ch cymorth chi byddwn yn brwydro am fwy o hawliau ac amddiffyniadau i rentwyr, yn ymgyrchu dros fwy o dai cymdeithasol a bod yno i unrhyw un y mae’r argyfwng tai yn effeithio arnynt.
GOST LLETY DROS DRO
Wrth i gost llety dros dro yng Nghymru barhau i godi, mae’n rhoi pwysau cynyddol ar awdurdodau lleol. Ar yr un pryd, rydym yn gwybod bod ansawdd y llety a’r hyd y mae pobl yn ei dreulio yno yn niweidiol i unigolion a theuluoedd ledled Cymru gyfan. Gall ein map rhyngweithiol eich helpu i ddeall y gost a’r effaith yn eich ardal chi yn ogystal ag ar draws Cymru gyfan.
Esboniad o’r argyfwng tai
-
DIGARTREFEDD
Mae digartrefedd a’r risg o fod yn ddigartref yn brofiad trawmatig na ddylai neb orfod mynd drwyddo. Ond bob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn estyn allan at Shelter Cymru oherwydd dyma’r realiti maen nhw’n ei wynebu.
Mae digartrefedd hefyd yn dod mewn sawl ffurf, fel digartrefedd ar y stryd, syrffio soffas, a llety dros dro.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau yn briodol yn ystod y blynyddoedd diwethaf i newid pethau ac i sicrhau bod mwy o bobl sydd angen cymorth yn gallu cael mynediad ato. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod unrhyw un a fyddai’n byw ar y stryd yn cael cynnig llety dros dro yn lle hynny.
Mae llety dros dro yn darparu to i aelwydydd digartref ond mae ymhell o fod yn gartref. Mae Shelter Cymru wedi siarad â theuluoedd sy’n gaeth yn byw mewn gwestai, carafanau, a fflatiau cyfyng – mae rhai ohonynt wedi bod yn byw mewn llety dros dro am hyd at ddwy flynedd. Dro ar ôl tro mae rhieni’n poeni am iechyd a lles eu plant a sut y bydd y profiad hwn o ddigartrefedd yn effeithio arnynt am weddill eu hoes.
Ystadegau allweddol
143 o bobl yn cysgu ar y stryd yng Nghymru heddiw.
Mwy na 10,500 o bobl wedi’u dal mewn llety dros dro.
Dros £95 miliwn wedi’i wario ar lety dros dro yng Nghymru y llynedd. -
RHENTU’N BREIFAT
Dros y 25 mlynedd diwethaf mae nifer y bobl sy’n rhentu’n breifat yng Nghymru wedi ffrwydro, a dyma bellach yr ail fath mwyaf cyffredin o gartref i berson fyw ynddo.
Mae rhentu preifat hefyd yn rhan fawr o waith cynghori Shelter Cymru, gyda bron i hanner yr achosion rydyn ni’n dod ar eu traws yn uniongyrchol gysylltiedig â phroblemau gyda rhentu preifat. Mae’r problemau hyn yn rheolaidd yn cynnwys troi allan, lleithder a diffyg atgyweirio, a diffyg fforddiadwyedd.
Yn y pen draw, nid ydym yn credu bod y sector rhentu preifat yn addas at y diben ar hyn o bryd, ac mae angen newidiadau i sicrhau bod y bobl sy’n dibynnu arno yn gwybod y bydd yn darparu cartrefi diogel a fforddiadwy iddynt.
Ystadegau allweddol
Mae 17% o aelwydydd yng Nghymru yn rhentwyr preifat.
Mae rhenti wedi codi mwy na 30% yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Colli tenantiaeth rhent yw’r rheswm mwyaf cyffredin pam mae aelwyd yn dod yn ddigartref. -
CARTREFI CYMDEITHASOL
Rhaid i unrhyw ateb i’r argyfwng tai yng Nghymru gynnwys cynnydd sylweddol yn nifer y cartrefi cymdeithasol sydd ar gael.
Mae cartrefi cymdeithasol yn fforddiadwy yn ôl eu dyluniad, gyda rhenti’n gysylltiedig ag incwm lleol nid marchnadoedd tai sydd allan o reolaeth. Ond ers degawdau rydym wedi methu ag adeiladu digon o’r rhain, ac ar hyn o bryd mae 1 o bob 14 aelwyd yng Nghymru eisoes ar restr aros am gartref cymdeithasol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd ar y mater hwn, ond nid yw’n ddigon. Ni allwn ofyn i bobl aros cenhedlaeth i gael y cartref sydd ei angen arnynt heddiw.
Ystadegau allweddol
1 o bob 14 aelwyd yng Nghymru yn aros am gartref cymdeithasol.
170,000 o bobl yn aros am gartref cymdeithasol.
Bydd yn cymryd 35 mlynedd i adeiladu’r cartrefi sydd eu hangen arnom ar y cyfraddau presennol. -
HAWL I DAI DIGONOL
Ar hyn o bryd, nid yw cartref digonol yn hawl gyfreithiol yn unman yn y DU.
Ein cartrefi yw sylfeini ein bywydau. Mae angen sylfeini cryf ar bob un ohonom i’n helpu i adeiladu bywydau hapus, iach a boddhaus.
Mae’r hawl hon eisoes yn bodoli mewn cyfraith ryngwladol, o dan Erthygl 11 o Gyfamod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol, ac mae rhai gwledydd eisoes wedi rhoi’r hawl i dai digonol yn eu cyfreithiau eu hunain.
Byddai hawl i dai digonol yn sicrhau bod unrhyw lywodraeth yn cynllunio ar gyfer y tu hwnt i dymor nesaf y Senedd ac yn paratoi’r ffordd ar gyfer atebion hirdymor, cynaliadwy i’r argyfwng tai.
Mae Shelter Cymru yn credu’n gryf y byddai hawl gyfreithiol i dai digonol yn sbarduno’r newidiadau y mae angen i ni eu gweld yn ein system dai fel y gallwn adeiladu dyfodol gwell i’r genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.
Ystadegau Allwedol
Roedd 77% o bobl yng Nghymru yn cefnogi hawl gyfreithiol i dai mewn ymchwil a gynhaliwyd yn 2020.
Am bob £1 a fyddai’n cael ei gwario i wireddu hawl i dai digonol, byddai Cymru’n gweld £2.30 mewn budd..
Darllenwch ein blog
Dyma ein blog wedi’i ysgrifennu gan bobl ar draws Shelter Cymru gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth o faterion tai a digartrefedd yng Nghymru, a’n gwaith diweddaraf i ddod â’r argyfwng tai i ben
-
Stori Nazia
Mae Nazia yn fam sengl ac fe’i rhoddwyd mewn llety dros dro gyda’i thri phlentyn. Roedd lleoliad Nazia yn anaddas i’w mab ifanc ac roedd hi’n poeni bod ei orfywiogrwydd yn cynhyrfu’r cymdogion. “Rwy’n fam sengl gyda thri o blant. Arhosais am bum neu chwe wythnos. Doedd gen i ddim…
-
Stori Misty
Pan oedd Misty yn bymtheg oed, cafodd ei rhoi mewn llety dros dro mewn lloches i fenywod gyda’i mam. Roedd y lleoliad hwn yn bellter sylweddol o ysgol Misty, a oedd yn golygu bod yn rhaid iddi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd yno. Roedd hyn yn anodd i Misty, ac…
-
Stori Gemma
Mae gan Gemma ddau fab ac mae hi’n gweithio mewn proffesiwn arbenigol. Mae hi wedi bod yn byw mewn llety dros dro gyda’i mab ieuengaf ers bron i flwyddyn a hanner. Ar ôl gadael perthynas ormesol, arhosodd Gemma a’i phlant gydag aelod o’r teulu i ddechrau. Fodd bynnag, roedd yn…