Skip to main content

Pleidleisiwch dros gartref

MAE CYMRU YNG NGHANOL ARGYFWNG TAI

Argyfwng sy’n gweld bron i 11,000 o bobl yn ddigartref ac yn gaeth mewn llety dros dro, rhentwyr preifat yn wynebu rhenti sy’n gynyddol anfforddiadwy, a 170,000 o bobl yn gaeth ar restrau aros am gartref cymdeithasol.

Does dim ateb cyflym ond allwn ni ddim parhau fel yr ydym, gan wylio’r argyfwng tai yn dinistrio cymunedau ledled Cymru.

Llofnodwch ein haddewid i roi gwybod i bob ymgeisydd yn etholiad nesaf Senedd Cymru fod yn rhaid i gartrefi fod yn flaenoriaeth. Mae newid yn bosibl. Mae dod â’r argyfwng tai i ben yn bosibl. Mae angen gwleidyddion arnom a fydd yn gweithredu.

Mae ein gweithred ymgyrch Etholiad y Senedd i anfon e-bost at eich ymgeiswyr bellach wedi dod i ben. Gyda’ch cefnogaeth, anfonwyd bron i 1500 o e-byst at ymgeiswyr ledled Cymru yn ystod y cyfnod etholiad hwn.

AILADEILADU EIN SYSTEM DAI SYDD WEDI TORRI

Mae’r argyfwng tai yng Nghymru wedi’i seilio ar ddegawdau o fethiant i flaenoriaethu cartrefi a digartrefedd yn ein gwleidyddiaeth. Os yw dod â’r argyfwng tai i ben yn flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru, yna gallwn newid hyn o’r diwedd.

DARLLENWCH EIN MANIFFESTO

Edrychwch ar yr argyfwng tai yn eich ardal

Dewiswch eich ardal leol o’r ddewislen i weld sut mae’r argyfwng tai yn effeithio ar ble rydych chi’n byw.

Adnoddau

Byddwch yn barod pan fydd ymgeiswyr gwleidyddol yn curo ar eich drws gyda chwestiynau am yr argyfwng tai – a’r hyn y gallant ei wneud i roi terfyn arno

CWESTIYNAU I YMGEISWYR