Celf dros gartrefi

Mae celf wastad wedi bod yn sbardun i weithredu a newid cymdeithasol. Gyda chefnogaeth rhai artistiaid gwych ledled Cymru, llwyddwyd i godi dros £4000 yn Arwerthiant Celf Shelter Cymru 2021, gan helpu i sicrhau nad oes yn rhaid i unrhyw un yng Nghymru wynebu’r argyfwng tai ar ei ben ei hun.
Mae g39 yn gartref i oriel gelf a chymuned greadigol fwyaf Cymru sy’n cael ei redeg gan arlunwyr ar gyfer y celfyddydau gweledol. Wedi’i sefydlu yng Nghaerdydd, daeth g39 yn elusen yn 2019 ac mae’n pontio rhwng cymunedau, y cyhoedd ac artistiaid. Mae artistiaid wrth galon gweithgareddau g39. O breswyliadau i hyfforddiant a mentora, cyfarfodydd anffurfiol, neu wireddu’r arddangosfeydd mwyaf uchelgeisiol – ein nod yw annog a galluogi pawb sydd ag uchelgais i ddilyn ymarfer celf weledol.
Ar gyfer 2023 rydym yn gyffrous iawn i fedru gweithio’n agos gyda g39 yng Nghaerdydd. Bydd yr holl waith a roddwyd yn cael ei arddangos yn y gofod am dri diwrnod cyn y digwyddiad fel rhan o’u tymor thema cymunedol, ‘Commonplace’. Bydd arwerthiant ar-lein, a bydd y manylion a rhestr o’r gweithiau’n dilyn yn nes at yr amser.
Sut allwch chi roi cynnig?
Bydd ocsiwn ar-lein yn digwydd yn fyw ar y noson. Hyd yn oed yn well, byddwn yn agor y bidio ar-lein cyn y digwyddiad hefyd, i roi cyfle gwell i bawb i fedru prynu’r gwaith celf y maent â’i bryd arno.
Byddwch yn gallu cael mynediad i’r arwerthiant drwy ddolen ar y dudalen hon.
Neu os hoffech fynychu’r noson yn bersonol bydd nifer cyfyngedig o docynnau ar gael ar gyfer y digwyddiad unigryw hwn ar sail y cyntaf i’r felin.

Pete Fowler ‘Up here’ – rhodd 2021

Seren Bell ‘Flock’ – rhodd 2021
Mae cartref yn fwy na phedair wal a tho
Mae’n rywle i ffynnu. Cartref yw popeth.

MAE CARTREF YN HAWL DYNOL.
Rydym yn bodoli i amddiffyn yr hawl i gartref diogel yng Nghymru a brwydro yn erbyn yr effaith ddinistriol mae’r argyfwng tai ar yn ei gael ar bobl a chymdeithas.
Rydyn ni’n gwneud hyn gyda chyngor, cefnogaeth ac ymgyrchoedd – a dydyn ni byth yn rhoi’r ffidil yn y to.
Y llynedd, helpodd Shelter Cymru dros 16,547 o bobl drwy ein gwasanaethau, gan gynnwys 5,525 o aelwydydd â phlant dibynnol. Byddwn bob amser yn ymladd dros gartref, a thros bawb sydd heb un. Ond fedrwn ni ddim gwneud hyn hebddoch chi. Helpwch ni i gadw ein gwasanaethau cyngor rhad ac am ddim ar agor i bawb yng Nghymru sydd angen ein cymorth.
Credwn mai cartref yw popeth.
Sefwch gyda ni. Ymunwch â’r frwydr.