Skip to main content

Cyfrifoldeb am ddiogelwch nwy

  • Os oes gennych offer nwy yn eich cartref rhent, mae’n rhaid bod eich landlord wedi darparu Cofnod Diogelwch Nwy a larwm carbon monocsid
  • Os nad yw’ch landlord yn cydymffurfio â rheolau diogelwch nwy efallai y bydd yn fwy anodd iddynt eich troi allan

Mae gan landlordiaid, deiliaid contract a pherchen-feddianwyr i gyd gyfrifoldebau cyfreithiol o ran diogelwch nwy.

Pa gyfrifoldebau sydd gennyf os wyf yn rhentu?

Caniatáu mynediad

Mae dyletswydd gyfreithiol ar landlordiaid i gael archwiliad blynyddol o’r holl offer nwy yn eu heiddo. Os ydych yn ddeiliad contract, rhaid i chi ganiatáu mynediad i osodwr nwy cofrestredig i’ch llety er mwyn cynnal gwiriadau diogelwch ac, os oes angen, gwaith atgyweirio. Dylai eich landlord roi rhybudd digonol i chi o’r archwiliad diogelwch nwy.

Bod yn ymwybodol o ddiogelwch nwy

Os yw unrhyw un o’r offer nwy yn eich cartref yn perthyn i chi, dylech drefnu i osodwr nwy cofrestredig eu gwirio bob blwyddyn hefyd.

Mewn argyfwng

Ffoniwch y Gwasanaeth Argyfwng Nwy Cenedlaethol ar unwaith ar 0800 111 999 os ydych yn arogli nwy neu’n meddwl bod nwy yn gollwng.

I gael gwybodaeth am ddiogelwch nwy, ffoniwch Linell Gyngor Diogelwch Nwy rhad ac am ddim HSE ar 0800 300 363.

Peidiwch â defnyddio unrhyw offer nwy rydych chi’n gwybod neu’n amau eu bod yn anniogel. Os bydd nwy yn gollwng, dylech geisio atal unrhyw nwy rhag dianc ymhellach, er enghraifft trwy ddiffodd y cyflenwad nwy.

Pa gyfrifoldebau sydd gan landlordiaid?

Cofnodion diogelwch nwy

Rhaid i bob landlord gael cofnod diogelwch nwy dilys ar gyfer yr offer nwy yn yr eiddo y maent yn ei rentu. Rhaid darparu copi o’r cofnod i ddeiliad y contract. Bydd y cofnod yn rhestru’r holl gyfarpar, gan gynnwys y rhai y mae deiliad y contract yn berchen arnynt, er mai dim ond am y cyfarpar y maent yn berchen arnynt y mae landlordiaid yn gyfrifol. Cyn i chi symud i lety ar rent, dylech bob amser ofyn am gael gweld copi o’r cofnod diogelwch nwy cyfredol.

Mae cofnodion diogelwch nwy yn ddilys am 12 mis a dim ond peiriannydd ‘Gas Safe’ cofrestredig all eu cyhoeddi. Er mwyn rhoi cofnod diogelwch nwy, rhaid i’r peiriannydd nwy gynnal gwiriad diogelwch nwy.

Trwsio problemau

Os bydd y peiriannydd nwy yn nodi unrhyw broblemau sy’n effeithio ar ddiogelwch nwy, mae’n rhaid i’r landlord eu trwsio. Bydd y peiriannydd nwy yn cymryd y camau priodol i wneud y gosodiad yn ddiogel, a all gynnwys datgysylltu offer diffygiol. Gallant hefyd ofyn i’r darparwr nwy dorri’r cyflenwad i’r eiddo os oes angen.

Cadw cofnodion

Rhaid i’ch landlord gadw cofnod o ddyddiad y gwiriad diogelwch, unrhyw broblemau a amlygwyd ganddo ac unrhyw waith a wnaethpwyd i drwsio’r problemau hyn. Dylai eich landlord roi copi o’r cofnod hwn i chi o fewn 28 diwrnod i’r gwiriad diogelwch.

Larymau carbon monocsid

Os ydych yn ddeiliad contract diogel neu safonol a bod gan eich cartref offer nwy, olew neu danwydd solet, rhaid i’ch landlord ddarparu larwm carbon monocsid sy’n gweithio. Dylai eich landlord fod wedi sicrhau bod gennych larwm carbon monocsid erbyn 1 Rhagfyr 2022.

Os oes gennych offer nwy, olew neu danwydd solet ac nad yw eich landlord wedi darparu larwm carbon monocsid, mae eich cartref yn cael ei ddosbarthu fel un nad yw’n ffit i fyw ynddo. Os ydych yn y sefyllfa hon a bod eich landlord yn gwrthod darparu larwm carbon monocsid , darganfyddwch beth allwch chi ei wneud yma.

Beth os nad yw landlord yn cydymffurfio?

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) sy’n gyfrifol am orfodi diogelwch nwy. Dylech gysylltu â’r HSE os yw’ch landlord:

  • heb roi cofnod diogelwch nwy dilys i chi, neu
  • yn gwrthod gadael i chi weld cofnodion o wiriadau diogelwch, neu
  • ddim yn gwneud unrhyw waith sydd ei angen.

Mae methu â dilyn gofynion diogelwch nwy yn drosedd a gall yr HSE roi rhybudd ffurfiol a gall erlyn eich landlord. Os caiff ei ddyfarnu’n euog, gall y landlord gael dirwy neu hyd yn oed ddedfryd o garchar.

Gallwch ffonio llinell gymorth HSE ar 0845 345 0055 neu 0800 300 363 neu gysylltu â’ch swyddfa agosaf – mae manylion ar gael ar wefan HSE.

Os ydych yn byw mewn tŷ neu fflat sy’n cael ei feddiannu gan fwy na dwy aelwyd (tŷ amlfeddiannaeth neu HMO), mae gan eich cyngor lleol hefyd bwerau i sicrhau bod eich landlord yn cydymffurfio â’r rheolau ar ddiogelwch nwy.

A all fy landlord fy nhroi allan os nad yw wedi cydymffurfio?

Os oes gennych gontract meddiannaeth safonol ni all eich landlord roi hysbysiad troi allan ‘dim bai’ i chi os nad yw wedi darparu’r Cofnod Diogelwch Nwy a larwm carbon monocsid. Fodd bynnag, efallai y byddant yn dal yn gallu eich troi allan os ydych wedi torri eich contract.

Mae deiliaid contract safonol yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu troi allan er mwyn dial. Os bydd eich landlord yn rhoi hysbysiad troi allan ‘dim bai’ i chi oherwydd eich bod wedi gofyn iddo gydymffurfio â’r rheolau diogelwch nwy uchod, mynnwch help. Gall cynghorydd helpu i egluro’r amddiffyniad sydd gennych rhag cael eich troi allan yn ddialgar a beth allwch chi ei wneud i’w atal.

Os ydych yn ddeiliad contract diogel dim ond os ydych wedi torri’r contract mewn rhyw ffordd y gall eich landlord eich troi allan.

Os gwnaethoch symud i mewn cyn 1 Rhagfyr 2022 efallai y bydd rheolau gwahanol ynghylch sut y gallwch gael eich troi allan. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein cyngor ar droi allan deiliaid contract wedi’u trosi.

Beth yw fy nghyfrifoldebau os ydw i’n berchen ar fy nghartref?

Cael gwiriadau diogelwch nwy

Os ydych yn berchen ar eich cartref, dylech drefnu i wiriad diogelwch nwy gael ei gynnal unwaith y flwyddyn – nid yw hyn yn ofyniad cyfreithiol oni bai bod gennych letywyr neu denantiaid, ond fe’i hargymhellir.

Bod yn ymwybodol o ddiogelwch nwy

Os ydych yn amau bod unrhyw offer nwy yn eich cartref yn ddiffygiol, peidiwch â’u defnyddio. Ffoniwch beiriannydd nwy cofrestredig cyn gynted â phosibl. Os bydd y peiriannydd nwy yn datgysylltu unrhyw offer, ni ddylech eu hailgysylltu nes bod unrhyw ddiffygion wedi’u cywiro.

Os felly, rydych chi’n torri’r gyfraith.

Datganiad Diogelwch

Os ydych yn gosod neu gyfnewid peiriant nwy, bydd y gosodwr nwy cofrestredig yn rhoi hysbysiad o’r enw Datganiad Diogelwch i chi. Cadwch hwn yn rhywle diogel, gan y bydd ei angen arnoch pan fyddwch yn dod i werthu eich cartref yn y dyfodol, i brofi bod y gwaith wedi’i wneud yn iawn gan beiriannydd cofrestredig.

Cofiwch – peidiwch byth â cheisio trwsio unrhyw beth yn ymwneud â nwy eich hun, mae’n beryglus ac yn debygol o fod yn anghyfreithlon.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Tachwedd 5, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.