Sefydliadau bach sy’n cael eu rhedeg gan aelodau yw undebau credyd sy’n eich annog i gynilo a rheoli eich arian. Maent yn cynnig benthyciadau tymor byr a thymor hir ar gyfraddau fforddiadwy.
Cysylltwch â’n cynghorwyr dyled arbenigol os oes angen mwy o gyngor arnoch ar undebau credyd.
Beth yw Undeb Credyd?
Sefydliadau ariannol bach yw Undebau Credyd sy’n cynnig benthyciadau, cynilion a chyfrifon cyfredol i’w haelodau yn unig. Cânt eu rhedeg fel cwmnïau cydweithredol, a’u haelodau sy’n berchen arnynt ac yn eu rheoli.
Mae’r rhan fwyaf o Undebau Credyd yn aelodau o Gymdeithas Undebau Credyd Prydain (ABCUL).
Yn gyffredinol, mae gan aelodau Undebau Credyd rywbeth yn gyffredin, fel byw neu weithio yn yr un ardal, bod yn ddeiliaid contract gyda’r un landlord cymunedol neu’n gweithio i’r un cyflogwr. Mae gan bob Undeb Credyd ei reolau ei hun.
Gall Undebau Credyd:
- ddarparu benthyciadau cost isel i aelodau
- annog aelodau i gynilo
- annog cyllidebu
- rhoi cymorth gyda rheoli arian.
Benthyg gan Undeb Credyd
Mae Undebau Credyd yn darparu benthyciadau tymor byr, yn aml am symiau bach o arian. Nid ydynt yn codi cyfraddau llog uchel. Dywed y gyfraith fod y swm y gallant ei godi wedi’i gyfyngu i ddau y cant y mis, ond mae llawer yn codi llai na hyn.
Defnyddiwch Dod o Hyd i’ch Undeb Credyd i gysylltu ag undeb credyd a chanfod faint y gallwch ei fenthyg.
Gallai benthyciad Undeb Credyd fod yn ddewis arall fforddiadwy yn lle benthyciadau diwrnod cyflog drud neu fenthycwyr carreg drws, nad oes ganddynt unrhyw gyfyngiad ar yr hyn y gallant ei godi.
Gall Undebau Credyd gynnig benthyciad i chi os oes gennych incwm isel neu os ydych yn hawlio budd-daliadau. Nid ydynt yn gwarantu cynnig benthyciad i bawb, ond maent yn edrych yn ofalus ar eich amgylchiadau wrth benderfynu a allant wneud hynny. Mae’n bwysig i aelodau Undebau Credyd bod benthycwyr yn gallu fforddio ad-dalu’r arian y maent yn ei fenthyca.
Mae rhai Undebau Credyd hefyd yn cynnig benthyciadau a morgeisi hirdymor. Fel arfer mae angen i chi fod â hanes o gynilo gydag Undeb Credyd cyn y gallwch fenthyg.
Manteision cynilo gydag Undeb Credyd
Mae Undebau Credyd yn annog cynilo fel ffordd o helpu gyda chyllidebu eich arian. Os oes gennych rai cynilion, rydych yn llai tebygol o fod angen cymryd benthyciadau tymor byr drud.
Mae Undebau Credyd yn ceisio ei gwneud hi’n hawdd i chi gynilo trwy ganiatáu i chi osod arian mewn swyddfeydd cangen lleol, siopau lleol, trwy ddebyd uniongyrchol neu drwy ddidyniadau’n uniongyrchol o’ch cyflog, beth bynnag sydd fwyaf addas i chi.
Mae Undebau Credyd hefyd yn darparu yswiriant bywyd i aelodau sy’n cynilo gyda nhw.
Mae gan arian a gynilir mewn undebau credyd yr un amddiffyniad ariannol â chyfrifon cynilo banc.
Mae gan Undebau Credyd derfyn uchaf ar y swm y gallwch ei gynilo gyda nhw. Mae’r terfynau hyn yn amrywio’n fawr rhwng gwahanol undebau credyd felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio.
Mae Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Ariannol (FSCS) yn darparu iawndal os bydd Undeb Credyd yn methu, hyd at gyfanswm o £85,000. Mae hyn yn golygu bod yr holl arian rydych chi’n ei gynilo gydag undeb credyd wedi’i yswirio.
Mynediad i gyfrifon cyfredol
Mae rhai Undebau Credyd yn rhoi cyfrif cyfredol i aelodau.
Gallai ymuno ag Undeb Credyd helpu os na allwch agor cyfrif banc gyda banc traddodiadol, gan nad yw rhai banciau’n caniatáu ichi agor cyfrif os yw’ch incwm yn rhy isel.
Problemau ad-dalu benthyciad
Cadwch mewn cysylltiad â’ch Undeb Credyd os ydych chi’n cael trafferth talu’ch benthyciad. Efallai y gallant gynnig ad-daliadau mwy fforddiadwy i chi neu helpu gyda chyllidebu.
Ond os nad ydych yn talu, gall Undeb Credyd fynd â chi i’r llys yn yr un ffordd ag unrhyw fenthyciwr arall.
Mae eich cartref mewn perygl o gael ei adfeddiannu os nad ydych yn talu morgais gydag Undeb Credyd. Gallech golli eich cartref.
Sut i ymuno ag Undeb Credyd
Gallwch wneud cais i ymuno ag Undeb Credyd os oes gennych fond cyffredin gyda’i aelodau. Gall hyn fod drwy eich gweithle, lle rydych yn byw neu os yw rhywun yn eich teulu eisoes yn aelod.
Mae gan bob Undeb Credyd ei reolau ei hun ynghylch pwy all ymuno.
Cysylltwch ag Undebau Credyd Cymru i ddarllen mwy am Undebau Credyd. Gallwch ddefnyddio’r offeryn chwilio ‘Find your credit union’ i ddod o hyd i un yn agos atoch chi.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Tachwedd 3, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.