Skip to main content

Caniatâd y landlord

  • Os yw eich contract yn caniatáu ichi wneud rhywbeth gyda chaniatâd y landlord, ni all y landlord wrthod heb reswm da
  • Mae rheolau ynghylch y weithdrefn y dylech chi a’r landlord ei dilyn pan fyddwch chi’n gofyn am ganiatâd y landlord
  • Gallwch ofyn i’r llys benderfynu a ydych chi’n credu bod penderfyniad y landlord yn afresymol

Mae rhai telerau contract yn caniatáu ichi wneud rhywbeth gyda chytundeb eich landlord. Cyfeirir at hyn fel ‘caniatâd y landlord’. Er enghraifft, gallai eich contract ddweud eich bod yn cael is-osod ystafell, ond dim ond os yw eich landlord yn rhoi caniatâd.

Mae rhai telerau sy’n gofyn am ganiatâd yn delerau sylfaenol, fel eich hawl i ychwanegu cyd-ddeiliad contract. Mae hyn yn golygu na all eich landlord newid y teler hwn na’i adael allan o’r contract heb eich cytundeb ac oni bai ei fod yn eich rhoi mewn sefyllfa well.

Sut ydw i’n gofyn am ganiatâd fy landlord?

Mae gweithdrefn arbennig y dylech ei dilyn i ofyn am ganiatâd:

Cam 1: Cais ysgrifenedig

Gwnewch gais ysgrifenedig i’r landlord. Darparwch gymaint o wybodaeth ag y gallwch i gefnogi eich cais.

Cam 2: Rhoi rhagor o wybodaeth

Mae gan eich landlord 14 diwrnod i ofyn am unrhyw wybodaeth bellach a allai eu helpu i wneud penderfyniad ynghylch eich cais.

Cam 3: Penderfyniad

Mae gan eich landlord 1 mis o ddyddiad eich cais ysgrifenedig i roi neu wrthod eu caniatâd.

Os gofynnodd eich landlord am ragor o wybodaeth, yna rhaid iddynt roi neu wrthod caniatâd ar y diwrnod y byddwch yn darparu’r wybodaeth.

Dylech gael gwybod am benderfyniad y landlord yn ysgrifenedig. Os na chewch y penderfyniad yn ysgrifenedig, yna rhoddir caniatâd yn ddiofyn.

Cydsyniad gydag amodau

Os yw eich landlord yn cytuno i’ch cais ond gydag amodau, rhaid rhoi’r amodau yn ysgrifenedig pan gewch wybod am y penderfyniad. Os na chewch wybod am yr amodau yn ysgrifenedig, yna rhoddir caniatâd heb amodau yn ddiofyn.

Datganiad ysgrifenedig o resymau

Os yw eich landlord yn gwrthod rhoi caniatâd neu’n cytuno ag amodau yn unig, gallwch ofyn i’r landlord roi’r rhesymau dros eu penderfyniad i chi yn ysgrifenedig. Rhaid rhoi hyn o fewn 1 mis i chi ofyn.

Mae fy landlord wedi gwrthod fy nghais. A yw hyn yn deg?

Ni chaniateir i’ch landlord wrthod caniatâd heb reswm da. Ni ddylent ddweud y byddant ond yn rhoi caniatâd ar amodau os yw’r amodau hynny’n afresymol.

Os yw’ch landlord wedi gwrthod rhoi caniatâd, neu wedi gosod amodau afresymol ar roi caniatâd, gallwch wneud cais i’r llys sirol i benderfynu a ddylid caniatáu eich cais.

Gall mynd i’r llys fod yn gostus ac yn gymhleth, felly mae bob amser yn syniad da cael cymorth os ydych chi’n ei ystyried.

Beth all fy landlord ei ystyried?

Mae nifer o bethau y gall eich landlord eu hystyried wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatâd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • a yw hysbysiad wedi’i roi i ddod â’r contract i ben
  • maint ac addasrwydd yr eiddo
  • a fyddai’r eiddo’n orlawn
  • y goblygiadau ariannol iddyn nhw eu hunain, chi a deiliaid contract eraill
  • a wnaethoch chi ddarparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani

Rwyf am ychwanegu deiliad contract ar y cyd

Dylai eich contract roi’r hawl i chi ychwanegu deiliad contract ar y cyd gyda chydsyniad y landlord. Mae hwn yn derm sylfaenol ym mhob contract meddiannaeth. Os ydych chi wedi gofyn i ychwanegu rhywun fel deiliad contract ar y cyd, gall eich landlord ystyried:

  • a ydych chi wedi torri unrhyw delerau contract
  • a yw’r deiliad contract ar y cyd arfaethedig yn addas
  • natur eich perthynas â’r deiliad contract ar y cyd arfaethedig
  • pwy allai fod â hawl i gymryd drosodd y contract os rhoddir caniatâd

Nid yw hon yn rhestr lawn o bethau y gall eich landlord eu hystyried. Fodd bynnag, ni all eich landlord wrthod caniatâd heb reswm da. Os ydych chi’n ansicr, ceisiwch gymorth.

Rwyf am drosglwyddo fy nghontract meddiannaeth i olynydd posibl

Os oes gennych gontract diogel mae gennych yr hawl i drosglwyddo eich contract i rywun a allai gymryd drosodd eich contract pe byddech chi’n marw (‘olynydd posibl’). Mae hwn yn derm sylfaenol mewn contractau diogel ond dim ond gyda chaniatâd y landlord y gellir ei wneud. Gall eich landlord ystyried:

  • a ydych chi wedi torri unrhyw delerau contract
  • pwy fyddai â hawl i gymryd drosodd y contract yn y dyfodol
  • pa mor hir y gallai’r contract barhau.

Nid yw hon yn rhestr lawn o bethau y gall eich landlord eu hystyried. Ni all eich landlord wrthod caniatâd heb reswm da. Os ydych chi’n ansicr, ceisiwch gymorth.

Rwyf am gyfnewid fy nghartref gyda deiliad contract diogel arall

Os ydych chi’n ddeiliad contract diogel, mae’n derm sylfaenol o’ch contract y gallwch chi gyfnewid eich cartref gyda deiliad contract diogel arall gyda chaniatâd eich landlord. Gelwir hyn yn ‘gyfnewid cydfuddiannol’ neu’n ‘gyfnewid cartrefi’. Am ragor o wybodaeth am gyfnewid cydfuddiannol gweler yma.

Gall eich landlord ystyried:

  • os yw’r eiddo o’r maint cywir ar gyfer anghenion yr aelwyd rydych chi am gyfnewid â hi
  • os yw’r eiddo’n addas ar gyfer yr aelwyd rydych chi am gyfnewid â hi (e.e. ar gyfer anghenion symudedd pobl yn yr aelwyd honno)
  • os ydych chi’n torri eich contract

Nid yw hon yn rhestr lawn o bethau y gall eich landlord eu hystyried. Ni all eich landlord wrthod caniatâd heb reswm da. Bydd cyfnewidiadau cydfuddiannol hefyd yn dibynnu ar broses gwneud penderfyniadau landlordiaid eraill sy’n gysylltiedig. Os ydych chi’n ansicr, ceisiwch gymorth.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 30, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.