Polisi Preifatrwydd
Yn Shelter Cymru, rydyn ni wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd.
Mae Shelter Cymru yn helpu degau o filoedd o bobl yng Nghymru bob blwyddyn – pobl sy’n cael trafferth gyda thai gwael neu ddigartrefedd – drwy ddarparu cyngor, cymorth a gwasanaethau cyfreithiol. Rydyn ni’n codi arian i wneud yn siŵr bod gennym ddigon o adnoddau i fod yno pan fydd pobl ein hangen ac rydyn ni’n ymgyrchu i wneud yn siŵr y bydd amser yn dod, rhyw ddydd, pan na fydd neb yn gorfod troi atom am help.
Wrth wneud hyn, rydyn ni’n prosesu data personol am bobl sy’n derbyn cyngor, arweiniad neu wasanaethau cymorth tai gennym – neu’n rhoi cymorth i ni drwy roddion, cymryd rhan mewn ymgyrchoedd, archebu cyrsiau neu wirfoddoli/gweithio gyda ni. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd chi ac rydyn ni’n cymryd y cyfrifoldeb hwn yn ddifrifol iawn. Felly, rydyn ni’n gofalu ei fod yn cael ei ddiogelu.
Mae’r Polisi hwn yn esbonio pryd a pham rydyn ni’n casglu gwybodaeth bersonol am bobl, sut rydyn ni’n ei defnyddio, o dan ba amodau y gallwn ni ei datgelu i eraill a sut rydyn ni’n ei chadw’n ddiogel. Paratowyd y Polisi hwn i fod mor gynhwysfawr â phosibl, ond nid yw’n cynnwys rhestr gynhwysfawr o bob agwedd ar ein prosesau casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, byddem yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad pellach am ein harferion.
Efallai y byddwn yn newid y Polisi hwn o bryd i’w gilydd felly edrychwch ar y dudalen hon o bryd i’w gilydd i sicrhau eich bod yn hapus ag unrhyw newidiadau.
Dylid anfon unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Polisi hwn a’n harferion preifatrwydd drwy e- ein Swyddog Diogelu Data ([email protected]) neu yn ysgrifenedig i’n Prif Swyddfa:
Swyddog Diogelu Data
Shelter Cymru
Uned 3, Tŷ Davies, Parc Menter Ffordd Phoenix, Abertawe, SA7 9LA
Fel arall, gallwch ffonio ein Prif Swyddfa ar 01792 469400.
Pwy ydyn ni?
Ni yw Shelter Cymru; elusen pobl a chartrefi Cymru sy’n ymroddedig i helpu’r rhai sy’n byw mewn tai gwael neu’n wynebu digartrefedd. Mae Shelter Cymru yn elusen gofrestredig (rhif 515902) ac yn gwmni cofrestredig (rhif 01830262). Y cyfeiriad cofrestredig yw Welsh Housing Aid Ltd T/A Shelter Cymru, Uned 3, Tŷ Davies, Parc Menter Ffordd Phoenix, Abertawe, SA7 9LA. Mae Shelter Cymru yn elusen annibynnol yng Nghymru ac nid yw’n rhan o Shelter England na Shelter Scotland.
Sut ydyn ni’n casglu gwybodaeth gennych chi?
Rydyn ni’n derbyn cael gwybodaeth amdanoch chi pan fyddwch chi’n defnyddio ein gwasanaethau, pan fyddwch chi’n cysylltu â ni gydag ymholiad, pan fyddwch chi’n gwneud cyfraniad ariannol, os ydych chi’n cofrestru i dderbyn gwybodaeth gennym ni/cofrestru ar gyfer gwasanaeth penodol neu os ydych chi’n gwneud cais am swydd gyda ni (gan gynnwys rôl wirfoddol).
Pa fath o wybodaeth sy’n cael ei chasglu oddi wrthych?
Gallai’r wybodaeth bersonol a gasglwn gynnwys eich enw, eich cyfeiriad a manylion cyswllt cyffredinol eraill. Os ydych chi’n ddefnyddiwr gwasanaeth, efallai y bydd angen i ni gofnodi gwybodaeth am eich amgylchiadau er mwyn rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi. Os ydych chi’n cyfrannu rhodd ariannol ar-lein neu’n prynu cynnyrch gennym ni, nid yw gwybodaeth eich cerdyn yn cael ei chadw gennym ni. Mae’n cael ei chasglu gan ein proseswyr talu trydydd parti, sy’n arbenigo mewn dal a phrosesu trafodion cardiau credyd/debyd ar-lein diogel, fel yr eglurir isod.
Sut mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?
Efallai y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth i:
- brosesu rhodd rydych chi wedi’i wneud;
- prosesu archebion rydych chi wedi’u cyflwyno;
- cyflawni ein rhwymedigaethau sy’n deillio o unrhyw gontractau a wnaed gennych chi a ni (gan gynnwys darparu gwasanaeth);
- delio â cheisiadau mewn cystadleuaeth;
- ceisio eich barn neu sylwadau ar y gwasanaethau a ddarparwn;
- eich hysbysu am newidiadau i’n gwasanaethau;
- anfon cyfathrebiadau yr ydych wedi gofyn amdanyn nhw ac a allai fod o ddiddordeb i chi. Gall y rhain gynnwys gwybodaeth am ymgyrchoedd, apeliadau, gweithgareddau codi arian eraill, diweddariadau ar ein gwaith a gwybodaeth gyffredinol am ein helusen;
- prosesu cais am swydd/i fod yn wirfoddolwr.
Rydyn ni’n adolygu ein cyfnodau cadw ar gyfer gwybodaeth bersonol yn rheolaidd. Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni gadw rhai mathau o wybodaeth er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau statudol (er enghraifft casglu Rhodd Cymorth). Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol ar ein systemau cyhyd ag sy’n angenrheidiol ar gyfer y gweithgaredd perthnasol, neu cyhyd ag y nodir mewn unrhyw gontract perthnasol sydd gennych gyda ni.
Pwy sydd â mynediad at eich gwybodaeth?
Ni fyddwn byth yn gwerthu nac yn rhentu eich gwybodaeth i drydydd partïon. Yn yr un modd, ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth â thrydydd partïon at ddibenion marchnata.
Darparwyr Gwasanaeth Trydydd Parti sy’n gweithio ar ein rhan: Efallai y byddwn yn trosglwyddo’ch gwybodaeth i ddarparwyr gwasanaeth trydydd parti a sefydliadau cysylltiedig eraill at ddibenion cwblhau tasgau a darparu gwasanaethau i chi ar ein rhan (er enghraifft i brosesu rhoddion ac anfon negeseuon e-bost atoch). Fodd bynnag, pan fyddwn yn defnyddio darparwyr gwasanaeth trydydd parti, dim ond yr wybodaeth bersonol sy’n angenrheidiol ar gyfer darparu’r gwasanaeth y byddwn yn ei ddatgelu ac mae gennym gontract ar waith sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r darparwyr gadw’ch gwybodaeth yn ddiogel a pheidio â’i defnyddio at eu dibenion marchnata uniongyrchol eu hunain. Gallwch fod yn dawel eich meddwl na fyddwn yn rhyddhau eich gwybodaeth i drydydd partïon i’w defnyddio at eu dibenion eu hunain oni bai ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith, er enghraifft, trwy orchymyn llys neu at ddibenion atal twyll neu droseddau eraill.
Pan fyddwch chi’n defnyddio ein tudalennau rhoddion ar-lein diogel, mae eich rhodd yn cael ei brosesu gan brosesydd talu trydydd parti, sy’n arbenigo mewn dal a phrosesu trafodion cardiau credyd/debyd ar-lein yn ddiogel. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â thrafodion diogel, cysylltwch â ni.
Efallai y byddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti os ydyn ni o dan ddyletswydd i ddatgelu neu rannu eich data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol neu i orfodi neu gymhwyso ein telerau defnyddio neu i amddiffyn hawliau, eiddo neu ddiogelwch ein cefnogwyr a’n defnyddwyr gwasanaethau. Fodd bynnag, byddwn yn cymryd camau gyda’r nod o sicrhau bod eich hawliau preifatrwydd yn parhau i gael eu diogelu.
Eich dewisiadau
Mae gennych ddewis ynghylch a ydych chi’n dymuno derbyn gwybodaeth gennym ni ai peidio. Os nad ydych chi am dderbyn cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol gennym am y gwaith hanfodol rydyn ni’n ei wneud i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru, gallwch ddewis gwneud hynny drwy dicio’r blychau perthnasol sydd ar y ffurflen yr ydyn ni’n ei defnyddio i gasglu eich gwybodaeth.
Ni fyddwn yn cysylltu â chi at ddibenion marchnata trwy e-bost, ffôn neu neges destun oni bai eich bod wedi rhoi eich caniatâd ymlaen llaw. Ni fyddwn yn cysylltu â chi at ddibenion marchnata drwy’r post os ydych wedi nodi nad ydych chi am i ni gysylltu â chi. Gallwch newid eich dewisiadau marchnata ar unrhyw adeg trwy e-bostio [email protected] neu ffonio 01792 469400.
Sut y gallwch gael mynediad at eich gwybodaeth a’i diweddaru
Mae cywirdeb eich gwybodaeth yn bwysig i ni. Rydyn ni’n gweithio ar ffyrdd i’w gwneud hi’n haws i chi adolygu a chywiro’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi. Yn y cyfamser, os byddwch yn newid cyfeiriad e-bost, neu os yw unrhyw wybodaeth arall sydd gennym yn anghywir neu wedi dyddio, e-bostiwch [email protected], neu ysgrifennu atom yn:
Swyddog Diogelu Data
Shelter Cymru
Uned 3, Tŷ Davies, Parc Menter Ffordd Phoenix,
Abertawe,
SA7 9LA
Fel arall, gallwch ffonio ein Prif Swyddfa ar 01792 469400.
Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth y mae Shelter Cymru yn ei dal amdanoch chi.
Rhagofalon diogelwch ar waith i amddiffyn colli, camddefnyddio neu newid eich gwybodaeth
Pan fyddwch chi’n rhoi gwybodaeth bersonol i ni, rydyn ni’n cymryd camau i sicrhau ei bod yn cael ei thrin yn ddiogel. Mae unrhyw wybodaeth sensitif rydych chi’n ei rhoi i ni trwy ein gwefan (fel manylion cerdyn credyd neu ddebyd) yn cael ei hamgryptio a’i diogelu. Pan fyddwch ar dudalen rhoddion ddiogel, bydd eicon clo yn ymddangos ar waelod porwyr gwe fel Microsoft Internet Explorer.
Mae manylion nad ydynt yn rhai sensitif (eich cyfeiriad e-bost etc) rydych chi’n eu rhoi i ni ar ein gwefan yn cael eu trosglwyddo dros y Rhyngrwyd heb unrhyw ddiogelu penodol, ac ni ellir byth warantu eu bod yn 100% diogel. O ganlyniad, er ein bod yn ymdrechu i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol, ni allwn warantu diogelwch unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei throsglwyddo i ni ac rydych chi’n gwneud hynny ar eich risg eich hun.
Unwaith y byddwn yn derbyn eich gwybodaeth, boed yn ysgrifenedig, ar-lein neu dros y ffôn, rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i sicrhau ei diogelwch ar ein systemau.
Proffilio
Efallai y byddwn yn dadansoddi eich gwybodaeth bersonol i greu proffil o’ch diddordebau a’ch dewisiadau fel y gallwn gysylltu â chi gyda gwybodaeth yr ydyn ni’n credu a allai fod yn berthnasol neu o ddiddordeb i chi ar sail ‘buddiant dilys’.
Dolenni i wefannau eraill
Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill sy’n cael eu rhedeg gan sefydliadau eraill. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i’n gwefan ni yn unig felly rydyn ni’n eich annog i ddarllen y datganiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill rydych chi’n ymweld â nhw. Ni allwn fod yn gyfrifol am bolisïau ac arferion preifatrwydd gwefannau eraill hyd yn oed os byddwch yn eu cyrchu gan ddefnyddio dolenni o’n gwefan ni.
Yn ogystal, os gwnaethoch gyrraedd ein gwefan wrth ddilyn dolen trydydd parti, ni allwn fod yn gyfrifol am bolisïau ac arferion preifatrwydd perchnogion a gweithredwyr y safle trydydd parti hwnnw ac rydyn ni’n argymell eich bod yn gwirio polisi’r safle trydydd parti hwnnw.
16 neu iau
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd plant 16 oed neu iau. Os ydych chi’n 16 oed neu’n iau, gofynnwch am ganiatâd eich rhiant/gwarcheidwad ymlaen llaw pryd bynnag y byddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol i ni.
Adolygiad o’r Polisi hwn
Adolygwyd y Polisi hwn ddiwethaf ym mis Ebrill 2025.
Cwcis
Mae cwci yn ffeil ddata fach sy’n cael ei lawrlwytho o wefan i’ch cyfrifiadur, er mwyn gwneud y wefan yn haws i’w defnyddio mewn nifer o ffyrdd: gall storio manylion rydych chi’n eu cyflwyno ar y wefan, fel eich gosodiadau personol, eich lleoliad, neu’r hyn sydd gennych mewn basged siopa etc, ac mae hynny’n gallu golygu nad oes angen i chi gofnodi gwybodaeth fwy nag unwaith.
Nid yw defnyddio cwcis yn caniatáu inni adnabod defnyddwyr yn bersonol
Mae gwefan Shelter Cymru yn defnyddio nifer fach o gwcis i roi gwell darlun cyffredinol i ni o sut mae pobl yn rhyngweithio â’r wefan, a sut y gallwn wella ein gwasanaethau i’n cleientiaid a’n cefnogwyr.
Isod mae manylion y cwcis a ddefnyddiwn, a’u pwrpas.
Dadansoddiad o’r wefan
Mae Shelter Cymru yn defnyddio Google Analytics i olrhain sut mae pobl yn defnyddio’r wefan, fel y gallwn gael gwell dealltwriaeth o anghenion ein hymwelwyr a nodi meysydd lle gallwn wneud gwelliannau. Mae’r wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu trwy’r broses hon yn gwbl ddienw, ac ni ellir adnabod ymwelwyr â’r wefan. Dyma’r cwcis canlynol a osodwyd at y diben hwn:
_utma
_utmb
_utmc
_utmv
_utmz
is.returning
Storio gwybodaeth yn ystod eich ymweliad
Ar adegau penodol pan fyddwch ar wefan Shelter Cymru, efallai y byddwch yn cyflwyno gwybodaeth yr hoffech i’r wefan ei chofio yn ystod eich ymweliad. Er enghraifft, pan fyddwch chi’n ychwanegu rhywbeth at eich basged siopa, ac yna’n parhau i bori ar dudalennau eraill; neu pan fyddwch chi’n mewnbynnu eich cyfeiriad e-bost a’i fod yn cael ei basio i dudalen arall.
Dyma’r cwcis a osodwyd at y diben hwn:
cookiesAccepted
sq-active-remote-session
sq_system_session
backToLocation
Offer rhannu a chwcis safleoedd cyfryngau cymdeithasol
Rydyn ni wedi defnyddio offer rhannu ar y wefan hon er mwyn eich galluogi i rannu gwybodaeth a gweithredoedd gydag eraill ar eich rhwydweithiau cymdeithasol fel Facebook a Twitter. Pan fyddwch chi’n gwneud hyn, bydd y wefan yn gosod cwci. Nid yw Shelter yn rheoli’r cyfleuster hwn, a dylech wirio gwefan y trydydd parti perthnasol am wybodaeth am eu polisi cwcis.
Rheoli a dileu cwcis ar eich cyfrifiadur
Mae pob porwr yn caniatáu ichi reoli pa gwcis rydych chi’n eu derbyn, eu gwrthod a’u dileu. Fel arfer, gallwch ddod o hyd i’r rheolaethau hyn o dan y ddewislen Dewisiadau/Preferences neu Offer/Tools. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am osodiadau porwyr unigol yn http://www.aboutcookies.org.
Os byddwch yn dewis peidio â derbyn cwcis o wefan Shelter Cymru, ni fydd rhai adrannau yn gweithio’n iawn (e.e. Cyngor drwy e-bost).
Cadw eich preifatrwydd
Mae peth o’r wybodaeth ar ein gwefan yn ymwneud â materion sensitif. Os hoffech dynnu manylion y tudalennau rydych chi wedi edrych arnyn nhw ar ein gwefan o’ch cyfrifiadur, gallwch glirio eich hanes pori. I wneud hyn, dewiswch Offer/Tools o’r bar llywio uchaf ar eich porwr, dewiswch Dewisiadau Rhyngrwyd/Internet options, a chlicio ar Clirio Hanes/Clear History. Fel arall, cyfeiriwch at y cyfarwyddiadau ar gyfer eich porwr yn y ddewislen Help.
Storio eich gwybodaeth
Mae gwybodaeth bersonol rydych chi’n ei chyflwyno ar wefan Shelter Cymru yn cael ei storio ar weinyddion diogel. Weithiau, er mwyn cwblhau eich cais fel yr amlinellir uchod, efallai y bydd angen i ni drosglwyddo gwybodaeth bersonol rydych chi’n ei chyflwyno i ni i wledydd neu awdurdodaethau y tu allan i’r AEE nad ydynt yn darparu’r un lefel o ddiogelu data. Mewn achosion o’r fath, byddwn yn sicrhau bod contract yn cael ei roi ar waith i sicrhau bod eich manylion yn cael eu diogelu. Ni fyddwn byth yn gwerthu nac yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall ar wahân i Shelter Cymru.
Gwefannau allanol
Mae gwefan Shelter Cymru yn cynnwys dolenni i wefannau allanol nad ydynt yn eiddo i ni nac yn cael eu rheoli gennym ni. Ni allwn fod yn gyfrifol am gynnwys na phreifatrwydd unrhyw wefannau allanol.
Newid eich manylion
Os bydd eich manylion personol yn newid, helpwch i gadw ein cofnodion ni’n gyfredol drwy ffonio 08000 495 495, neu defnyddiwch y ffurflen gyswllt hon.
Cyrchu eich gwybodaeth
Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth yr ydyn ni’n ei dal amdanoch o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. I ofyn am gopi, cysylltwch â ni ar 08000 495 495, neu defnyddiwch y ffurflen gyswllt hon.