Ailddehongli ymddygiad gwrthgymdeithasol

Gan Jonathan Clode – Cydlynydd Prosiect Atal Digartrefedd

Bydd y term ‘ymddygiad gwrthgymdeithasol’ yn gyfarwydd i’r rhan fwyaf o bobl. Mae’n debyg y bydd yn creu darlun o bobl ifanc yn  dychryn cymdogaethau sy’n dawel fel arall, ac agweddau swnllyd, meddw, di-hid sy’n amharu ar bobl ystyriol sy’n parchu’r gyfraith. Ond mater o ganfyddiad yw hyn i gyd, ac un sy’n aml yn cael ei waethygu gan bryderon cymdeithasol y mae’r cyfryngau yn rhy barod o lawer i’w tanio. Gall label ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn stigma sy’n tynnu rhywun i lawr, yn glynu wrth rywun, ac i rai, gall arwain atynt yn cael eu troi allan o’u cartrefi.

Mae ein hadroddiad newydd yn Shelter Cymru, Ailddehongli Ymddygiad Gwrthgymdeithasol: adolygiad o arferion da atal digartrefedd yng Nghymru, yn dadlau ei bod hi’n bryd dechrau cwestiynu’r diffiniadau ymbarél rydyn ni’n eu cymhwyso mor ddifeddwl i ymddygiad gwrthgymdeithasol ac, yn hytrach, ein bod ni’n edrych ar y mater mewn dull llawer mwy amlweddog, sy’n ceisio cydnabod a diwallu anghenion cymorth y rhai a ystyrir yn ‘wrthgymdeithasol’ go iawn.

Yn anffodus mae diwedd pandemig Covid 19 wedi gweld gwaharddebau a chamau meddiant yn dychwelyd ymhlith landlordiaid, preifat a chymdeithasol.

Yn 2022, gwelodd gwaith achos cyfreithiol Shelter Cymru ddeg ar hugain o achosion tai cymdeithasol lle ceisiwyd meddiant am faterion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yn bryderus ddigon, mewn dros hanner yr achosion hyn, roedd gan y tenant neu aelod o’i deulu anghenion cymorth yn ymwneud ag iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, dioddef trais domestig, yn ogystal â niwroamrywiaeth.

Nid mater tai yn unig yw ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond mae’n  amlwg bod gan gymorth tai priodol rôl bwysig i’w chwarae wrth ei atal ac ymateb iddo. Mae landlordiaid cymdeithasol wedi cymryd camau breision i ddarparu cymorth i’w tenantiaid, felly pam mae yna achosion o hyd lle mae pobl yn colli eu cartrefi?

Dros y blynyddoedd diwethaf mae dealltwriaeth o effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a mabwysiadu arferion sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma ac ymddygiad adferol wedi dod yn fwy cyffredin; canfu ein hymchwil fod llawer o landlordiaid cymdeithasol yn mabwysiadu’r ffyrdd cyfannol hyn o weithio. Ond mae angen i landlordiaid a darparwyr gwasanaethau gael gwell adnoddau a chanllawiau cenedlaethol sydd wedi’u diweddaru i’w helpu i sicrhau bod arferion da yn cael eu mabwysiadu’n fwy cyson ledled y wlad. Dydy Safon Rheoli Tai Cymru ar gyfer mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ddim wedi cael ei adolygu ers 2014 a does dim unrhyw rwymedigaeth ar landlordiaid i’w dilyn y tu hwnt i gyngor ynghylch arferion gorau. Rydyn ni’n dilyn yr un egwyddor bron i ddeng mlynedd yn ddiweddarach: llai o orfodaeth, mwy o atal – syniad gwych!

Canfu tystiolaeth o’n gwaith achos fod achosion mwy heriol a chymhleth yn parhau i lithro drwy’r rhwyd. Awgrymodd ein trafodaethau gyda landlordiaid a rhanddeiliaid fod hyn yn wir oherwydd bod arferion yn cael eu harwain gan brosesau, bod ymgysylltu â staff yn amhriodol neu’n annigonol, ac nad yw anghenion cymorth y cyflawnwr honedig yn cael eu nodi.

Yn ogystal â darparu gwasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â thai, mae ad-drefnu swyddogaethau rheoli tai hefyd yn cefnogi rhai landlordiaid cymdeithasol i fabwysiadu dull mwy effeithiol. Mae llai o ffocws ar dimau a swyddogion ymddygiad gwrthgymdeithasol penodol a mwy o bwyslais ar rolau sy’n canolbwyntio mwy ar gymorth ac sydd â llwythi achosion llai, wedi galluogi staff i gefnogi achwynwyr ac adeiladu gwell perthynas rhwng staff a thenantiaid – rhywbeth y mae’r model adferol i gefnogi pobl yn ei roi wrth wraidd ei ideoleg. Mae’r syniad bod angen i chi feithrin perthynas â rhywun os ydych chi’n awyddus i geisio ei helpu bob amser wedi bod yn sail i’r syniad sylfaenol hwnnw o wasanaeth cymorth ystyrlon.

Fodd bynnag, nid yw staff cymorth tai yn weithwyr proffesiynol iechyd meddwl hyfforddedig, ac mae diffyg mynediad amserol at wasanaethau iechyd meddwl yn broblem gynyddol o hyd, o ystyried y gyfran uchel o bobl sydd wedi’u cyhuddo o ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd hefyd yn profi problemau iechyd meddwl. Rhaid nodi’n glir y cysylltiad rhwng ymddygiad gwrthgymdeithasol ac iechyd meddwl. Nid yw mwyafrif helaeth y bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol; fodd bynnag, ymhlith y bobl sy’n cael eu cyhuddo o ymddygiad gwrthgymdeithasol fe ddaethon ni o hyd i gydberthynas uchel ag angen cymorth iechyd meddwl heb ei ddiwallu. Mae hyn yn golygu bod problemau o ran cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn cyfrannu at ddigartrefedd y gellir ei osgoi.

Mae hefyd yn bwysig ein bod yn cydnabod bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn aml yn ymateb straen i amgylcheddau gwenwynig neu brofiadau anodd yn y gorffennol. Mae atal llwyddiannus yn golygu deall amgylchiadau  unigryw pobl a’r ysgogiadau hyn er mwyn eu hatal rhag cyrraedd y pwynt ymateb straen. Mae’r math hwn o waith yn seiliedig ar berthynas, mae’n  canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn ddwys o ran cymorth, ond profwyd ei fod yn sicrhau canlyniadau da yn gyson i’r unigolion dan sylw. O safbwynt busnes gall hefyd gynorthwyo landlordiaid drwy leihau costau llys.

Mae gweithio mewn partneriaeth ystyrlon yn allweddol i sicrhau bod gan bobl siawns dda o gynnal eu tenantiaethau, o ddyrannu a chofrestru tenantiaeth, i ddarparu ymyriadau priodol ac amserol os bydd pethau’n dechrau mynd o chwith. Mae yna rai enghreifftiau gwych o wasanaethau cymunedol yn gweithio gyda’i gilydd, ac i lawer ohonynt mae elfennau cyffredin sy’n cyfrannu at eu llwyddiant. Mae hyn yn golygu cymryd yr amser i ddeall yr heriau a’r cyfyngiadau y mae pob gwasanaeth yn eu hwynebu, treulio llai o amser yn symud pobl o un lle i’r llall, a chadw un llygad ar y sefyllfa bresennol a’r llall ar ymhellach i’r dyfodol, er mwyn sicrhau nad yw pobl yn cael eu gadael ar ôl.

Mae’r term ‘ymddygiad gwrthgymdeithasol’ ynddo’i hun yn broblematig. Mae’n derm sy’n rhy hawdd ei roi ar nifer o ymddygiadau, gyda phob un ohonynt yn amrywio’n fawr o ran sut maen nhw’n cyflwyno a’u hachosion gwaelodol. Efallai y byddwn yn cydnabod y potensial ynom ein hunain ar gyfer nodweddion ymddygiad gwrthgymdeithasol, y rhai sy’n aml yn cael eu hanwybyddu oherwydd y ffordd maen nhw’n ymddangos: mae’n benwythnos braf, mae’r haul wedi machlud, rydyn ni’n cwrdd fel criw bach dethol, siawns nad oes gan unrhyw un fan hyn waith yfory, beth am agor y drydedd botel yna o Marlborough sauvignon blanc a dod ag Alexa allan i’r ardd… gwrthgymdeithasol! Meddai pwy?

Mae labelu rhywun fel cyflawnwr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn arwain at farnu rhywun ar unwaith a all gael goblygiadau niweidiol mewn perthynas â sut mae’r person hwnnw’n cael ei ystyried, yn enwedig ymhlith y gwasanaethau cymorth. Pe baem efallai’n hepgor y term ‘ymddygiad gwrthgymdeithasol’, hwyrach y gallem wneud asesiad mwy ystyriol o’r materion penodol sy’n cael eu cyflwyno. Gallai hefyd arwain at y math o ymagwedd lle byddai unigolyn yn derbyn cymorth ar sail ei angen ar y pryd, yn hytrach nag ymateb i honiad o ymddygiad.

Mae persbectif yn bwysig, ac i rai pobl gall ddiffinio eu bywydau. Drwy ail-ddehongli ymddygiad gwrthgymdeithasol fel symptom o anghenion cymorth heb ei ddiwallu, gallwn roi gwell llais i denantiaid tai cymdeithasol, llais sy’n aml ddim ond yn cael ei geisio pan fydd rhywbeth wedi mynd o’i le, gan sicrhau ei fod yn cael ei glywed ar adeg sy’n ei rymuso i fod, ac i aros, yn rhan o gymuned, mewn cartref sefydlog gyda mynediad at y cymorth sydd ei angen arno. Drwy wneud hyn, gallwn adeiladu tuag at gymunedau cryfach a mwy cynhwysol ledled Cymru.

Gallwch ddarllen ein hadroddiad ar ymddygiad gwrthgymdeithasol yma

Am ragor o wybodaeth am yr adroddiad hwn neu am ein gwaith ymchwil ehangach i atal digartrefedd yng Nghymru, e-bostiwch [email protected]