Dychmygwch bod rhywun yn dweud wrthych efallai na fydd y cartref sydd ei angen arnoch – nid y cartref yr ydych ei eisiau, ond y cartref sydd ei angen arnoch – yn barod am 35 mlynedd arall. Dychmygwch gael gwybod fel rhiant sengl i blentyn chwe blwydd oed na fydd y cartref a fyddai’n sicrhau sefydlogrwydd iddynt ffynnu mewn addysg ar gael nes eu bod eisoes wedi cyrraedd eu 40au.
I tua 170,000 o bobl yng Nghymru nid yw hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid iddynt ei ddychmygu, mae’n rhywbeth y mae’n rhaid iddynt fyw ag ef.
Mae Shelter Cymru – fel llawer o bobl a sefydliadau – yn credu bod mynediad at gartref diogel, sicr, addas a gwirioneddol fforddiadwy yn hawl gyffredinol. Ac i lawer o bobl ledled Cymru byddai’r hawl honno’n cael ei gwireddu orau drwy fynediad i gartref cymdeithasol. Mae’r rheswm am hynny’n syml: mae cartrefi cymdeithasol yn fforddiadwy ac yn ddiogel trwy ddyluniad.
Yn anffodus, ers degawdau, mae llywodraethau yng Nghymru a San Steffan wedi methu ag adeiladu’r cartrefi cymdeithasol sydd eu hangen arnom, ac o ganlyniad i hyn, mae’r argyfwng tai a wynebwn yn waeth o lawer nag y gallai fod wedi bod fel arall. Rydym yn gweld hyn yn nifer y bobl sy’n gaeth mewn llety dros dro, rydym yn ei weld mewn rhenti preifat yn codi’n gyflymach na chwyddiant, ac rydym yn ei weld yn y ffigurau diweddaraf ar restrau aros am gartref cymdeithasol.
Mewn gwirionedd, mewn rhestrau aros rydym yn gweld yn glir pa mor bell yr ydym o ble y mae angen inni fod. Gydag adroddiad newydd Shelter Cymru ‘Aros am Gartref’ yn defnyddio data Rhyddid Gwybodaeth i ddangos bod 94,000 o aelwydydd yng Nghymru bellach yn cael eu cynrychioli ar restrau aros. Dyna un o bob 14 yn y wlad.
Mae newid hyn yn hanfodol i ddod â’r argyfwng tai i ben. Ac, er ymhell o fod yn hawdd, nid yw’r ateb yn gymhleth. Yr hyn sydd ei angen arnom yw mwy o gartrefi cymdeithasol, wedi’u darparu drwy fwy o fuddsoddiad a mwy o flaenoriaeth wleidyddol.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwybod bod hyn yn wir, dyna pam eu bod eisoes wedi ymrwymo i darged uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi cymdeithasol (targed y bydd, yn anffodus, yn cael ei fethu) a pham eu bod yn ymrwymo’r symiau mwyaf erioed o fuddsoddiad. Rydym yn croesawu’r camau hyn, ond ni allwn esgus eu bod yn mynd yn ddigon pell.
Y llynedd, yng Nghymru, darparwyd 2,600 o gartrefi cymdeithasol newydd. Gyda 94,000 o aelwydydd yn aros mae hynny’n golygu y bydd yn cymryd 35 mlynedd i adeiladu cartrefi yr oedd eu hangen arnom ddoe. Rydyn ni’n gwybod na allwn ni newid hyn dros nos, rydyn ni’n gwybod na fydd hi’n 2026 pan fydd pawb sydd angen cartref cymdeithasol yn gallu cael un. Ond allwn ni ddim gadael iddi fod yn 2060 – a does dim rhaid i ni wneud hynny.
Mae Shelter Cymru, gan weithio gyda Sefydliad Bevan, eisoes wedi nodi rhai o’r newidiadau y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud yn awr i ddechrau troi’r llanw. Newidiadau a nodir yn ein hadroddiad ar y cyd diweddar ‘Cadw pobl allan o lety dros dro drwy hybu mynediad i gartrefi cymdeithasol’.
Er mwyn gwireddu’r newidiadau hyn mae angen i ni gynyddu’r pwysau ar wleidyddion ledled Cymru. Gallwch ein helpu trwy rannu ein postiadau ar Facebook, Instagram, X neu LinkedIn.