Skip to main content

Dwyn achos llys os na fydd eich landlord yn gwneud atgyweiriadau

  • Os nad yw’ch landlord yn gwneud atgyweiriadau neu’n eu gwneud yn wael, efallai y gallwch fynd â nhw i’r llys.
  • Efallai y gallwch gael Cymorth Cyfreithiol i helpu gyda ffioedd cyfreithiwr a llys
  • Os oes gennych gontract meddiannaeth safonol, ni all eich landlord eich troi allan am ofyn am waith neu atgyweiriadau

Beth all y llys ei wneud?

Gallwch ddwyn achos llys os ydych wedi gofyn i’ch landlord wneud atgyweiriadau ond nad ydynt yn cael eu gwneud o fewn cyfnod rhesymol.

Gallwch ofyn i’r llys orchymyn eich landlord i:

  • wneud y gwaith atgyweirio sydd ei angen
  • dalu iawndal i chi.

Mewn sefyllfaoedd brys weithiau mae’n bosibl i’r llys orchymyn bod eich landlord yn gwneud gwaith atgyweirio ar unwaith, trwy wneud gwaharddeb.

Fodd bynnag, gall achos llys fod yn gymhleth ac weithiau’n araf. Gall fod yn ddrud hefyd, oni bai bod gennych hawl i gymorth cyfreithiol.

Dylai achos llys fod yn ddewis olaf. Dim ond os ydych wedi rhoi cynnig ar opsiynau eraill y dylech ei ystyried.

Meddyliwch yn ofalus bob amser cyn dechrau achos llys os oes gennych chi landlord preifat. Os ydych yn ddeiliad contract safonol ni all eich landlord eich troi allan er mwyn osgoi gwneud gwaith neu atgyweiriadau. Fodd bynnag, os ydych yn feddiannydd gyda diogelwch sylfaenol neu’n breswylydd eithriedig, gallwch gael eich troi allan yn hawdd.

Beth mae’n ei gostio?

Ffioedd llys

Fel arfer mae’n rhaid i chi dalu ffioedd llys i gymryd camau cyfreithiol. Gellir lleihau neu hepgor ffioedd os ydych yn hawlio budd-daliadau neu os oes gennych incwm isel.

Dysgwch fwy am ffioedd llys ar Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM.

Ffioedd arbenigol

Efallai y bydd angen i chi dalu am:

  • adroddiad arbenigwr i ddweud wrth y llys am gyflwr eich cartref
  • adroddiad meddygol os effeithiwyd ar eich iechyd.

Gall cyfreithiwr drefnu’r rhain i chi.

Os byddwch yn ennill eich achos, gallwch hawlio’r costau hyn yn ôl gan eich landlord.

Cymorth cyfreithiol

Os ydych ar incwm isel efallai y gall cymorth cyfreithiol eich helpu gyda’ch ffioedd.

Dim ond cymorth cyfreithiol y gallwch ei gael:

  • i orchymyn eich landlord i wneud gwaith atgyweirio sy’n eich rhoi chi neu eraill yn eich cartref mewn perygl
  • os yw’ch landlord wedi dechrau’r broses troi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent a bod eich amddiffyniad yn cynnwys na wnaethpwyd atgyweiriadau. Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio iawndal os yw hyn yn wir.

Gallwch wirio a allwch gael cymorth cyfreithiol ar wefan Gov.uk.

Dewisiadau eraill yn lle mynd i’r llys

Gall achos llys fod yn gymhleth ac yn gostus, felly efallai y byddai’n well rhoi cynnig ar opsiynau eraill yn gyntaf.

Os yw’ch landlord yn defnyddio asiant gosod eiddo i reoli eich contract meddiannaeth, mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid iddo fod yn aelod o gynllun iawndal cymeradwy.

Mae’n bosibl na fydd cynlluniau iawndal asiant gosod eiddo yn gallu dyfarnu iawndal ariannol. Os bydd yn gwneud hynny, mae’n debyg na fydd yn gymaint o iawndal ag y byddai llys yn ei ddyfarnu i chi os bydd eich hawliad llys yn llwyddiannus. Fodd bynnag, maent yn rhad ac am ddim i’w defnyddio ac mae’n debygol y bydd llai o risg a straen. Cliciwch yma i ddarganfod mwy.

Ble ydw i’n dechrau?

Argymhellir eich bod yn ceisio cymorth gan gyfreithiwr. Os na allwch gael cymorth gyda chostau cyfreithiol, efallai bod opsiynau eraill ar gael i chi, fel cytundeb ‘dim ennill, dim tâl’. Darllenwch ganllaw’r ‘Solicitors Regulation Authority’ ar gytundebau ‘dim ennill, dim tâl’ yma.

Os gellir delio â’ch achos yn y llys hawliadau bach, efallai y gallwch gynrychioli eich hun; fodd bynnag, cofiwch y gall camau cyfreithiol fod yn broses hir ac yn un gymhleth iawn. Hyd yn oed os byddwch yn ennill, efallai y bydd angen i chi ddychwelyd i’r llys os nad yw eich landlord yn talu’r iawndal a orchmynnwyd gan y llys.

Ffoniwch linell gymorth ‘Civil Legal Advice’ ar 0345 345 4 345 neu cysylltwch â Shelter Cymru i gael cyngor cychwynnol.

Paratoi ar gyfer eich achos

  1. Rhoi gwybod am atgyweiriadau

Cyn i chi ddechrau achos llys, rhaid i chi roi gwybod i’ch landlord am yr atgyweiriadau. Gallwch lawrlwytho ein llythyrau templed o’r dudalen adnoddau rhad ac am ddim.

Nid oes rhaid i chi roi gwybod am broblemau atgyweirio os ydynt mewn ardaloedd cymunedol, fel cynteddau a rennir neu’r lifft, ond mae bob amser yn well rhoi gwybod i’r landlord.

2. Casglu tystiolaeth

Bydd angen tystiolaeth arnoch i gefnogi’ch hawliad, megis:

  • ffotograffau o’r pethau sydd angen eu trwsio
  • eich eiddo sydd wedi’i effeithio (fel dillad wedi’u difrodi gan leithder), neu ffotograffau ohonynt. Gweithiwch allan faint yw eu gwerth
  • copïau o unrhyw lythyrau neu e-byst y byddwch yn eu hanfon at eich landlord, ac unrhyw ymateb a gawsoch ganddynt
  • nodiadau o unrhyw sgyrsiau a gewch gyda’ch landlord. Cynhwyswch ddyddiadau, a’r hyn y cytunwyd arno
  • copïau o unrhyw nodiadau meddyg neu adroddiadau ysbyty sy’n dangos bod y broblem wedi effeithio ar eich iechyd
  • derbynebau am unrhyw arian sydd angen i chi ei wario oherwydd y broblem atgyweirio (e.e. os oes rhaid i chi gael dillad neu ddodrefn newydd oherwydd llwydni)
  • copïau o’ch biliau ynni os ydych wedi gorfod gwario mwy ee oherwydd diffygion yn eich system wresogi.

3. Mynnwch adroddiad arbenigwr

Mae’n bosibl y bydd y llys angen adroddiad gan arbenigwyr fel swyddog iechyd yr amgylchedd neu syrfëwr. Gallwch ddod o hyd i syrfewyr yn eich ardal trwy wefan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. Os yw’n bosibl, dylech geisio cytuno i benodi syrfëwr gyda’ch landlord.

Defnyddiwch ein llythyr cyfarwyddyd enghreifftiol i’w anfon at syrfëwr, ond cofiwch y bydd adroddiad syrfëwr yn costio arian i chi.

Darganfyddwch faint y bydd yn ei gostio cyn trefnu i syrfëwr wneud yn siŵr y gallwch ei fforddio. Mewn rhai sefyllfaoedd efallai y byddwch yn gallu cael cymorth cyfreithiol i helpu i dalu’r costau.

4. Cadw cofnodion

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cofnodion o fanylion pwysig eich cais. Mae’n bwysig defnyddio fformat clir wrth gyflwyno dogfennau i’r llys. Defnyddiwch ein templedi isod:

A oes angen i mi rybuddio’r landlord cyn i mi ddechrau achos llys?

Oes. Mae gweithdrefn arbennig y mae’n rhaid ei dilyn ym mhob achos o ddiffyg atgyweirio. Gelwir hyn yn Brotocol Cyn-Gweithredu ar gyfer Achosion Trwsio Tai. Cyn i chi ddechrau achos llys, rhaid i chi anfon llythyr yn cynnwys manylion penodol at eich landlord. Gelwir y llythyr hwn yn ‘lythyr hawlio’. Gall cynghorydd eich helpu i baratoi’r llythyr hwn, neu gallwch addasu ein sampl o lythyr cais, R5.

Rhaid i’ch llythyr:

  • esbonio beth yw’r broblem o ddiffyg atgyweirio
  • nodi manylion pryd y gwnaethoch roi gwybod i’ch landlord am y broblem yn flaenorol (bydd angen i chi ddangos i’r llys eich bod eisoes wedi anfon ‘llythyr hysbysu cynnar’ at eich landlord yn nodi manylion y diffyg atgyweirio) – Defnyddiwch ein templed llythyr enghreifftiol ar gyfer hysbysu’n gynnar (R4).
  • rhowch 20 diwrnod gwaith i’ch landlord ddatrys y broblem – oni bai bod yr atgyweiriad yn un brys
  • datgan os na fydd eich landlord yn datrys y broblem o fewn yr amser hwnnw, rydych yn bwriadu cymryd camau llys.

Os, ar ôl i’r 20 diwrnod gwaith ddod i ben, nad yw’ch landlord wedi unioni’r broblem o hyd, gallwch ddechrau hawliad yn y llys sirol.

Sut gall gorchymyn llys helpu?

Bydd y llys yn edrych ar yr holl dystiolaeth yr ydych chi a’ch landlord wedi’i darparu er mwyn penderfynu a ddylai eich landlord wneud y gwaith atgyweirio ac, os felly, beth sydd angen ei wneud yn ei gylch.

Gallech ofyn i’r llys:

  • wneud gwaharddeb, gan orchymyn eich landlord i wneud atgyweiriadau penodol erbyn amser penodol
  • wneud datganiad y gallwch chi wneud y gwaith atgyweirio eich hun a thynnu’r gost o rent yn y dyfodol ac na fydd y landlord yn gallu eich troi allan oherwydd ôl-ddyledion.

Mewn sefyllfaoedd o argyfwng (e.e. os yw’n beryglus byw yn yr eiddo) gall y llys orchymyn eich landlord i wneud y gwaith ar unwaith. Gall y llys hefyd benderfynu y dylai eich landlord dalu iawndal i chi.

Beth os nad yw’r landlord yn cydymffurfio?

Gallai landlord nad yw’n gwneud y gwaith a nodir mewn gorchymyn llys gael ei ddirwyo neu hyd yn oed ei garcharu. Mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi fynd yn ôl i’r llys i gymryd camau pellach, ond ni ddylech orfod dechrau’r broses gyfan eto.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Tachwedd 5, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.