Skip to main content

Rhoi gwybod am waith atgyweirio a chaniatáu mynediad os oes gennych chi landlord preifat

  • Dylid rhoi gwybod i’ch landlord am waith atgyweirio sydd angen ei wneud cyn gynted â phosibl
  • Rhaid i’ch landlord roi 24 awr o rybudd i chi os yw am fynd i mewn i’ch cartref ar gyfer archwiliadau neu atgyweiriadau
  • Dylech gael cyfeiriad y gallwch ei ddefnyddio i roi gwybod am atgyweiriadau

Os ydych yn rhentu gan landlord preifat rhaid i chi roi gwybod iddynt am unrhyw waith atgyweirio sydd angen ei wneud. Dylai eich landlord roi o leiaf 24 awr o rybudd yn ysgrifenedig i chi cyn iddo ddod i’ch cartref i wneud atgyweiriadau neu i archwilio’r hyn sydd angen ei wneud.

Sut mae rhoi gwybod am atgyweiriadau?

Rhowch wybod i’ch landlord (neu asiant eich landlord) am bob problem atgyweirio cyn gynted â phosibl. Peidiwch ag aros nes bod y broblem wedi mynd yn ddrwg iawn – efallai y bydd yn costio mwy i’w atgywierio.

Mae’n debyg mai un o delerau atodol eich contract meddiannaeth yw bod yn rhaid i chi roi gwybod am waith atgyweirio, felly os na fyddwch yn ei wneud, efallai y bydd eich landlord yn ceisio tynnu arian o’ch blaendal pan fyddwch yn gadael.

Gallwch roi gwybod am atgyweiriadau yn bersonol, dros y ffôn neu drwy neges destun. Dylech bob amser ddilyn hyn i fyny gyda llythyr neu e-bost yn cadarnhau’r manylion. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dyddio unrhyw lythyrau a chadwch gopïau.

Defnyddiwch ac addaswch ein llythyr enghreifftiol R1. Gallwch hefyd ddod o hyd i amrywiaeth o lythyrau templed ar ein tudalen adnoddau rhad ac am ddim.

Beth os nad wyf yn gwybod pwy yw’r landlord?

Mae’n ofyniad cyfreithiol eich bod yn cael cyfeiriad ar gyfer y landlord neu ei asiant y gallwch anfon gohebiaeth ato. Mae hyn yn cynnwys adrodd am atgyweiriadau. Os na fyddwch yn derbyn hwn efallai y bydd eich landlord yn atebol i dalu iawndal i chi, ac efallai y bydd yn ei chael hi’n anoddach eich troi allan.

Os nad oes gennych gyfeiriad y landlord neu’r asiant, gofynnwch i’r person sy’n casglu’ch rhent (e.e. yr asiant gosod) ddarparu’r manylion.

Gallwch hefyd ddod o hyd i enw perchennog eich eiddo trwy wneud chwiliad Google neu drwy chwilio gwybodaeth y Gofrestrfa Tir yma, ond bydd yn rhaid i chi dalu ffi fechan am y gwasanaeth hwn.

Pa mor gyflym y dylid gwneud atgyweiriadau?

Mae hyn yn dibynnu ar y math o atgyweiriadau sydd eu hangen. Nid oes unrhyw derfynau amser penodol, ond dylid eu cyflawni o fewn amser rhesymol. Dylid gwneud atgyweiriadau penodol, megis draeniau wedi’u blocio neu broblemau gyda nwy, ar fyrder.

Ffoniwch y rhif brys Nwy 0800 111 999 ar unwaith os oes nwy yn gollwng neu os byddwch yn sylwi ar unrhyw arwyddion o wenwyn carbon monocsid.

Oes rhaid i mi adael i’r landlord ddod i mewn?

Dylech ganiatáu mynediad i’ch landlord i’r eiddo fel y gallant asesu pa atgyweiriadau sydd eu hangen ac i wneud y gwaith. Dylent roi rhybudd rhesymol i chi o leiaf 24 awr cyn dod draw, oni bai ei fod yn argyfwng.

Cofiwch mai dim ond y rhannau o’ch cartref y mae angen gwneud gwaith atgyweirio arnynt y mae gan landlordiaid yr hawl i ddod i mewn iddynt. Os oes angen iddynt drwsio sinc y gegin, er enghraifft, nid yw’n golygu y gallant edrych o amgylch gweddill eich cartref heb eich caniatâd. Os ydynt yn defnyddio atgyweiriadau fel esgus i edrych o gwmpas neu ddod draw drwy’r amser, gallant fod yn euog o aflonyddu, sy’n drosedd ddifrifol.

Er y dylai eich landlord drefnu’r atgyweiriadau, efallai y bydd yn gofyn i chi fod gartref i osod unrhyw gontractwyr i mewn.

Beth os ydyn nhw am ddod i mewn i wneud gwelliannau?

Nid oes gan eich landlord yr hawl i ddod i mewn i’ch cartref i wneud gwelliannau, oni bai bod hyn wedi’i nodi’n benodol yn eich contract meddiannaeth. Bydd yn rhaid iddynt gael eich caniatâd cyn dod mewn i’ch cartref. Os ydynt am wneud eich cartref yn fwy dymunol, efallai y byddai o fudd i chi gytuno. Fodd bynnag, cofiwch y gallai fod yn anoddach sicrhau bod eich cartref yn cael ei ailaddurno wedyn ac efallai y bydd eich landlord am gynyddu eich rhent hefyd.

Cadw cofnodion

Os bydd eich landlord yn gwrthod gwneud atgyweiriadau, efallai y bydd angen i chi gymryd camau pellach. Mae’n bwysig cadw cofnodion bob amser o’r atgyweiriadau sydd eu hangen, a’r hyn yr ydych wedi’i wneud i gael eich landlord i’w gwneud.

Lawrlwythwch ein taflen ffeithiau diffyg atgyweirio i gael rhagor o wybodaeth am ba fath o dystiolaeth y bydd angen i chi ei chasglu. Gallwch hefyd ddefnyddio ein taflen ffeithiau Amserlen o ddiffyg atgyweirio i gofnodi’r diffyg atgyweirio.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Tachwedd 4, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.