Mae asiantaethau gosod yn gweithredu ar ran landlordiaid.
Beth mae asiantaethau gosod yn ei wneud?
Mae yna wahanol fathau o asiantaethau gosod tai. Mae rhai yn dod o hyd i ddeiliaid contract ar gyfer eiddo yn unig (gelwir y rhain yn aml yn asiantaethau llety). Mae eraill yn rheoli eiddo ar ran landlordiaid ac mae’n bosibl na fydd gan ddeiliaid contract byth unrhyw gysylltiad uniongyrchol â’r landlord.
Mae asiantaethau gosod yn aml yn:
- dod o hyd i ddeiliaid contract
- casglu rhent
- rheoli’r eiddo
- trefnu atgyweiriadau
- darparu contractau meddiannaeth a rhestrau eiddo.
Dewis asiantaeth gosod tai
Gwirio bod gan yr asiantaeth drwydded Rhentu Doeth Cymru
Rhaid i asiantaethau gosod tai yng Nghymru gael eu trwyddedu o dan gynllun Rhentu Doeth Cymru. Peidiwch â bod ofn gofyn i’r asiantaeth a oes ganddynt drwydded. Os felly, rhaid iddynt gadw at ofynion Cod Ymarfer a gallant wynebu cosbau os nad ydynt yn cydymffurfio. Gallwch wirio i weld a oes gan asiantaeth drwydded yma. Gweler ein tudalennau ar gofrestru landlordiaid a thrwyddedu am ragor o wybodaeth.
Gwirio bod yr asiantaeth yn aelod o gynllun gwneud iawn
Mae Rhentu Doeth Cymru yn mynnu bod asiantaethau gosod eiddo yn perthyn i gynllun gwneud iawn. Os ydych yn ddeiliad contract a bod gennych gŵyn am asiantaeth gosod eiddo, gallwch godi’r gŵyn i gynlluniau gwneud iawn asiantaeth gosod eiddo. Fel arfer mae’n ofynnol eich bod wedi codi’r gŵyn gyda’r asiantaeth gosod tai yn gyntaf. Mae dau gynllun swyddogol:
- Yr Ombwdsmon Eiddo (TPO) – gallwch wirio a yw asiantaeth yn aelod yma
- Cynllun Gwneud Iawn am Gamweddau Eiddo (PRS) – gallwch wirio a yw asiantaeth yn aelod yma
- Gwirio bod gan yr asiantaeth gynllun Diogelu Arian Cleient (CMP)
Mae Rhentu Doeth Cymru hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod gan asiantaethau gynllun Diogelu Arian Cleient (CMP) os yw’r asiantaeth yn trin arian gan unrhyw un o’u ‘cleientiaid’ (mae hyn yn golygu landlordiaid a deiliaid contract). Mae cynlluniau CMP yn sicrhau bod deiliaid contract yn cael eu digolledu os na all yr asiantaeth dalu arian sy’n ddyledus ganddynt, e.e. os yw’r asiantaeth yn mynd i’r wal a dylai fod wedi ad-dalu’ch blaendal. Mae nifer o gynlluniau CMP, gan gynnwys Safeagent ac Propertymark.
Gwirio a yw’r asiantaeth yn aelod o gorff proffesiynol arall
Mae amrywiaeth o gyrff proffesiynol eraill yn bodoli i helpu, a rhoi arweiniad i, asiantaethau gosod. Mae yna nifer o gyrff proffesiynol, gan gynnwys PropertyMark, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) a Chymdeithas Asiantaethau Gosod y DU (UKALA). Fel arfer mae gan y cyrff proffesiynol hyn god ymddygiad y dylai asiantaeth gadw ato, ac maent fel arfer yn rhestru aelodau ar eu gwefannau.
Beth arall ddylwn i ofyn i’r asiantaeth gosod tai?
Cyn cytuno i gymryd llety gan asiantaeth gosod tai darganfyddwch:
- beth mae’r asiantaeth yn ei wneud ar ran y landlord (e.e. a fydd yn rheoli’r eiddo?)
- pa fath o gontract meddiannaeth y maent yn ei gynnig
- am ba mor hir mae’r landlord eisiau rhentu’r eiddo
- pa gostau y bydd yn rhaid i chi eu talu cyn i chi symud i mewn
- faint yw’r rhent a pha mor aml y caiff ei dalu
- sut mae’r asiantaeth eisiau i’r rhent gael ei dalu.
A all asiantaethau gosod tai godi tâl?
Mae ffioedd gosod tai yng Nghymru wedi eu gwahardd. Mae hyn yn golygu ei bod yn drosedd i landlordiaid ac asiantaethau gosod tai godi tâl arnynt. Darganfyddwch yma pa ffioedd sy’n cael eu gwahardd a beth allwch chi ei wneud os codir ffi waharddedig arnoch.
Dylai asiantaethau gosod eiddo nodi unrhyw gostau y byddai angen i chi eu talu er mwyn dechrau rhentu eiddo, gan gynnwys y blaendal cadw, blaendal diogelwch a faint yw’r rhent.
Polisïau ‘Dim DSS’
Mae’n fater o wahaniaethu i asiantaeth gosod eiddo wrthod rhentu i chi oherwydd eich bod ar fudd-daliadau neu fod ganddynt bolisi ‘dim DSS’. Os bydd hyn yn digwydd i chi, defnyddiwch ein pecyn cymorth Herio DSS Gwahaniaethu i ddarganfod beth allwch chi ei wneud.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 2, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.