- Mae’n ofyniad cyfreithiol i’ch landlord ddarparu contract meddiannaeth ysgrifenedig
- Efallai y byddwch yn gallu hawlio iawndal os na fyddwch yn derbyn contract meddiannaeth ysgrifenedig
- Ni all eich landlord roi hysbysiad troi allan ‘dim bai’ i chi os na chawsoch gontract ysgrifenedig
Mae gan y rhan fwyaf o bobl sy’n rhentu eu cartrefi gontract diogel neu safonol.
Os oes gennych un o’r mathau hyn o gontractau, rhaid rhoi contract ysgrifenedig i chi.
Gallai eich landlord wynebu cosbau os nad ydynt yn darparu contract ysgrifenedig.
Os nad oes gennych gontract meddiannaeth diogel neu safonol, nid yw’r wybodaeth ar y dudalen hon yn berthnasol i chi. Darllenwch ein cyngor yma i gael gwybodaeth am fathau eraill o gytundebau rhentu.
Pa wybodaeth ddylai fod yn fy nghontract ysgrifenedig?
Rhaid i bob contract meddiannaeth ysgrifenedig gynnwys y materion allweddol, y telerau sylfaenol, y telerau atodol a’r telerau ychwanegol o’r contract.
- Materion allweddol
Mae materion allweddol contract meddiannaeth yn cynnwys:
- enwau’r landlord a deiliad y contract,
- cyfeiriad yr eiddo
- cyfeiriad y landlord neu’r asiant (gellir darparu’r rhain ar wahân)
- swm y rhent sy’n ddyledus a pha mor aml
- a yw’n gontract tymor penodol neu’n gontract cyfnodol
Telerau Sylfaenol
Mae telerau sylfaenol yn agweddau pwysig iawn ar y contract ac maent yn cynnwys:
- sut y gellir eich troi allan
- cyfrifoldebau’r landlord i gadw’r eiddo’n addas i fyw ynddo
- cyfrifoldebau’r landlord i atgyweirio pethau penodol
- sut mae’n rhaid i’r landlord ddelio â blaendal
Gallwch ddarllen mwy am delerau sylfaenol yma.
Telerau Atodol
Mae telerau atodol yn ymdrin â materion cyffredin o ddydd i ddydd, ac yn cynnwys:
- sut a phryd y dylech roi gwybod am atgyweiriadau
- beth sydd angen i chi ei wneud os byddwch yn newid darparwr cyfleustodau
- y gofyniad i’r landlord ddarparu rhestr eiddo
Gallwch ddarllen mwy am delerau atodol yma.
Telerau Ychwanegol
Mae telerau ychwanegol yn cyfeirio at unrhyw beth arall y cytunir arno. Dylai’r telerau hyn fod yn deg yn unol â chyfraith defnyddwyr. Gallai telerau ychwanegol gynnwys:
- a allwch chi gadw anifeiliaid anwes
- unrhyw beth arall sy’n benodol i’r eiddo fel parcio.
Contractau meddiannaeth model
Mae ‘contract model’ ar gyfer pob un o’r prif fathau o gontract meddiannaeth; diogel, safonol cyfnodol a safonol tymor penodol. Gellir gweld y contractau model ar wefan llywodraeth Cymru yma.
A ellir newid neu hepgor telerau?
Gellir newid rhai rhannau o’r contractau model ond nid pob un.
Mae rheolau ynghylch:
- pa delerau y gellir eu newid neu eu hepgor,
- a oes angen cytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract, a
- y weithdrefn y mae’n rhaid i’r landlord ei dilyn.
Telerau sylfaenol
Dim ond os ydych chi’n cytuno ac yn meddwl bod y newid yn eich rhoi mewn gwell sefyllfa y gellir newid neu hepgor telerau sylfaenol.
Ni ellir newid na hepgor rhai telerau sylfaenol. Er enghraifft, ni all eich landlord newid y telerau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’ch blaendal gael ei ddiogelu. Bydd y telerau hyn yn berthnasol hyd yn oed os ydych chi a’r landlord yn cytuno i’w newid neu eu tynnu.
Os ydych chi a’r landlord yn cytuno ar dynnu unrhyw delerau sylfaenol, rhaid nodi hyn yn glir yn y contract.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am sut mae telerau sylfaenol yn gweithio yma.
Telerau atodol
Gall y landlord gynnig contract i chi sy’n newid neu’n hepgor y telerau atodol sydd yn y contractau model. Os caiff teler atodol ei hepgor, rhaid nodi’r term hwn yn glir yn eich contract ysgrifenedig.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut mae telerau atodol yma.
Pryd ddylwn i dderbyn y contract ysgrifenedig?
Rhaid i’ch landlord roi contract meddiannaeth ysgrifenedig i chi o fewn 14 diwrnod i ddyddiad cychwyn eich contract.
Ni ellir codi ffi arnoch i gael y contract ysgrifenedig ond gall eich landlord ofyn am ffi resymol am gopïau pellach.
Os oes gennych gontract wedi’i drawsnewid, mae gan eich landlord tan 1 Mehefin 2023 i roi contract ysgrifenedig i chi. Os nad ydych yn siŵr pa fath o gytundeb sydd gennych, ceisiwch gymorth.
Beth os na fyddaf yn derbyn fy nghontract meddiannaeth ysgrifenedig?
Os nad yw’ch landlord yn rhoi contract ysgrifenedig i chi, gallwch gymryd camau yn y llys sirol.
Gall y llys orchymyn i’r landlord ddarparu’r contract ysgrifenedig neu wneud ‘datganiad’ o delerau’r contractau.
Os byddant yn gwneud datganiad, bydd y contract yr un fath â chontract model llywodraeth Cymru oni bai eich bod yn hysbysu’r llys eich bod wedi cytuno i newid neu ddileu unrhyw delerau.
Beth os yw fy nghontract meddiannaeth ysgrifenedig yn anghyflawn neu’n anghywir?
Os yw’ch landlord yn rhoi contract ysgrifenedig i chi yr ydych yn credu ei fod yn anghyflawn neu’n anghywir, gallwch gymryd camau yn y llys sirol.
Gall y llys orchymyn i’r landlord ddarparu contract ysgrifenedig cyflawn a chywir neu wneud datganiad o delerau’r contract.
Os cafodd telerau sylfaenol neu atodol eu gadael allan, yna bydd telerau contract model llywodraeth Cymru yn…
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Awst 28, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.