Skip to main content

Troi allan gan landlord preifat

Dolenni cyflym troi allan gan landlord preifat:
  1. Troi allan deiliaid contract safonol cyfnodol
  2. Troi allan deiliaid contract safonol tymor penodol
  3. Achos llys

Rhaid i landlordiaid preifat ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol i droi allan deiliaid contract. Weithiau mae angen rheswm cyfreithiol arnynt (a elwir yn ‘sail’) i’ch troi allan ond mewn llawer o achosion nid ydynt.

Os symudwyd i mewn i’ch cyn 1 Rhagfyr 2022 nid yw’r wybodaeth ar y dudalen hon yn berthnasol i chi. Gweler ein cyngor am gontractau meddiannaeth wedi’u trosi a throi allan.

Mae’r rheolau ar droi allan yn wahanol yn dibynnu ar ba fath o gytundeb rhentu sydd gennych. Mae gan y rhan fwyaf o bobl sy’n rhentu gan landlord preifat gontract safonol cyfnodol neu gontract safonol tymor penodol, ond mae rhai eithriadau i hyn. Dysgwch fwy yn Rhentu gan landlord preifat.

Mewn rhai sefyllfaoedd, mae rheolau gwahanol ynghylch sut y gellir dod â chontract safonol tymor penodol i ben hyd yn oed os symudoch i mewn ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2022. Er enghraifft, os ydych chi’n byw yn eich cartref fel rhan o’ch swydd, neu os ydych chi’n fyfyriwr a’ch landlord yn brifysgol, efallai mai dim ond rhybudd o 2 fis y bydd yn rhaid i’ch landlord ei roi. Gallwch ddysgu mwy am yr eithriadau hyn yma.

Os cewch hysbysiad neu os yw’ch landlord wedi cychwyn achos llys, dylech gael cymorth ar unwaith gan gynghorydd. Efallai y byddwch chi’n gallu atal neu ohirio’r troi allan. Hyd yn oed os yw’r beiliaid ar y ffordd, nid yw byth yn rhy hwyr i gael cymorth.

Ydych chi o dan 25 oed?

Os ydych chi o dan 25 oed, ac yn poeni am gael eich troi allan, edrychwch ar ein tudalen gyngor Troi Allan, a luniwyd yn benodol ar gyfer pobl ifanc.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Hydref 5, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.