Skip to main content

Cyfrifoldebau am atgyweiriadau os oes gennych chi landlord preifat

  • Cyfrifoldebau am atgyweiriadau os oes gennych chi landlord preifat
  • Mae landlordiaid yn gyfrifol am y rhan fwyaf o atgyweiriadau mawr
  • Mae’n debyg mai chi sy’n gyfrifol am unrhyw ddifrod rydych chi’n ei achosi

Dylech wirio telerau atodol ac ychwanegol eich contract i ganfod beth rydych yn gyfrifol amdano

Cyfrifoldebau am atgyweiriadau

Landlordiaid preifat sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o atgyweiriadau mawr. Os ydych chi’n rhentu gan landlord preifat, fel arfer dim ond am fân waith cynnal a chadw rydych chi’n gyfrifol amdano, ac am unioni unrhyw ddifrod rydych chi neu’ch ymwelwyr wedi’i achosi. Efallai y bydd eich cytundeb rhentu yn dweud bod gennych chi gyfrifoldebau eraill, ond nid yw hyn bob amser yn eich rhwymo.

Lawrlwythwch ein ffeithlen diffyg atgyweirio i gael rhagor o wybodaeth.

Am beth ydw i’n gyfrifol?

Fel deiliad contract, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’ch cartref mewn ffordd gyfrifol. Mae hyn yn cynnwys;

  • ei gadw yn weddol lân
  • peidio â difrodi’r eiddo, a sicrhau nad yw eich gwesteion yn gwneud hynny ychwaith
  • gwneud mân waith cynnal a chadw (ee newid bylbiau golau)
  • defnyddio’r gwres yn iawn (ee peidio â rhwystro ffliwiau neu awyru).

Os byddwch yn achosi unrhyw ddifrod i’r eiddo neu’r dodrefn, hyd yn oed os yw’n ddamweiniol, mae’n debyg y bydd eich landlord yn gallu codi tâl arnoch amdano. Gall eich landlord gadw eich blaendal (neu o leiaf rhan ohono) i dalu am unrhyw waith atgyweirio neu gyfnewid. Efallai y bydd gennych rai cyfrifoldebau ychwanegol i wneud atgyweiriadau os yw eich contract meddiannaeth yn dweud hynny. Gwiriwch beth mae’n ei ddweud, ond cofiwch, ni waeth beth mae’n ei ddweud, mae eich landlord bob amser yn gyfrifol am rai pethau (gweler isod).

Os yw eich landlord yn ceisio cadw eich blaendal ar gyfer atgyweiriadau neu ddifrod, yna gweler ein tudalennau cyngor ar flaendaliadau.

Am beth mae fy landlord yn gyfrifol?

Os yw eich contract meddiannaeth am lai na 7 mlynedd, mae eich landlord bob amser yn gyfrifol am atgyweiriadau i:

  • strwythur a thu allan yr adeilad – megis y waliau, to, drysau allanol a ffenestri
  • sinciau, baddonau, toiledau a gosodiadau glanweithiol eraill, gan gynnwys pibellau a draeniau
  • gwres a dŵr poeth
  • holl offer nwy, pibellau, ffliwiau ac awyru
  • gwifrau trydanol.

Mae eich landlord hefyd yn gyfrifol am unioni unrhyw ddifrod i addurniadau mewnol a achoswyd gan yr adfeiliad neu tra bod atgyweiriadau y maent yn gyfrifol amdanynt yn cael eu gwneud.

Mae gan landlordiaid rai cyfrifoldebau ychwanegol dros ddiogelwch nwy, trydanol a thân yn eich cartref.

Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod eich cartref yn ffit i fyw ynddo ac yn rhydd o unrhyw beryglon a allai effeithio ar iechyd a diogelwch unrhyw un yn eich cartref.

A oes ots beth mae fy nghontract meddiannaeth yn ei ddweud?

Os yw eich contract yn dweud eich bod yn gyfrifol am rywbeth nad yw’n gyfrifoldeb cyfreithiol ar eich landlord (e.e. cynnal a chadw’r ardd) yna mae’n debyg ei fod yn ddilys. Fodd bynnag, ni all landlordiaid fynd allan o’u cyfrifoldebau cyfreithiol ni waeth beth mae’r contract yn ei ddweud. Er enghraifft, os oes term ychwanegol sy’n dweud mai chi sy’n gyfrifol am atgyweirio’r gwresogi, mae’n debyg na ellir ei orfodi gan fod y rhain yn bethau sy’n gyfrifoldeb cyfreithiol y landlord yn awtomatig.

Dylai’r rhan fwyaf o bobl sy’n rhentu gan landlord preifat gael contract meddiannaeth ysgrifenedig. Os nad oes gennych gytundeb ysgrifenedig, neu os nad yw’n dweud pwy sy’n gyfrifol am bethau penodol, mae gan eich landlord gyfrifoldebau cyfreithiol o hyd (fel y nodir uchod).

Efallai y bydd eich landlord yn gyfrifol am adnewyddu neu atgyweirio unrhyw eitemau neu offer eraill sy’n ddiffygiol ac a ddarparwyd ar ddechrau eich contract. Fodd bynnag, bydd llawer yn dibynnu ar yr hyn y cytunwyd arno ar ddechrau’r contract. Gwiriwch eich contract gan y gallai hyn egluro a yw eich landlord yn gyfrifol.

Beth am leithder?

Gallai unrhyw un o’r 3 math cyffredin o leithder effeithio ar eich cartref:

  • anwedd
  • lleithder treiddiol
  • lleithder yn codi.

Nid yw bob amser yn hawdd gweithio allan pwy sy’n gyfrifol am ddatrys problemau gyda lleithder, oherwydd yn aml mae’n anodd canfod yr achos. Fodd bynnag, mae landlordiaid fel arfer yn gyfrifol am wneud atgyweiriadau os yw’r lleithder o ganlyniad i:

  • pibellau’n gollwng
  • nam strwythurol (fel to yn gollwng neu wal wedi cracio)
  • cwrs gwrthleithder presennol nad yw’n gweithio mwyach (os nad oedd un i ddechrau, nid yw’ch landlord yn atebol).

Mae anwedd yn aml yn cael ei achosi gan ddiffyg awyru, diffyg inswleiddio, neu wres annigonol. Os felly, rhaid i’r landlord gymryd camau i unioni’r broblem, er enghraifft, drwy wella’r gwresogi neu’r awyru yn yr eiddo. Cofiwch y gall anwedd hefyd gael ei achosi gan sychu dillad dan do neu beidio â defnyddio systemau gwresogi yn iawn. Os yw hyn yn wir, mae’n debyg nad yw’ch landlord yn gyfrifol.

Gallwch gysylltu ag iechyd yr amgylchedd neu’r tîm safonau tai yn y cyngor os nad yw’ch landlord yn trwsio’r broblem lleithder. Gallant archwilio’r eiddo a chymryd camau yn erbyn y landlord os ydynt yn meddwl bod lleithder a/neu lwydni’n tyfu yn achosi perygl.

Beth am ardaloedd cymunedol?

Cyfrifoldeb y landlord fel arfer yw cynteddau, grisiau a lifftiau. Os oes fflatiau eraill yn yr adeilad nad yw eich landlord yn berchen arnynt, mae’n debyg ei fod yn rhannu’r cyfrifoldeb am ardaloedd cyffredin gyda’r perchnogion eraill.

Beth am erddi?

Os nad yw eich contract meddiannaeth yn dweud bod yn rhaid i chi gynnal yr ardd yna nid eich cyfrifoldeb chi fydd hynny. Fodd bynnag, os na chrybwyllir yr ardd o gwbl efallai na fydd hynny’n gyfrifoldeb ar unrhyw un.

Beth am addurno a gwaith arall?

Dylech wirio telerau atodol ac ychwanegol eich contract meddiannaeth i weld beth mae’n ei ddweud am addurno a gwaith arall. Mae deiliaid contract fel arfer yn gyfrifol am fân swyddi, oni bai eu bod yn cael eu hachosi gan adfeiliad neu leithder sy’n gyfrifoldeb y landlord, neu oherwydd traul arferol. Ni ddylai fod yn rhaid i chi ailaddurno cyn i chi adael oni bai bod eich contract yn dweud hynny neu eich bod wedi difrodi’r addurniad. Yn y sefyllfaoedd hyn, mae’n debyg na fydd yn rhaid i’r landlord ailaddurno’r naill na’r llall.

Os ydych am ailaddurno neu wneud gwaith arall (e.e. gosod dysgl loeren), mynnwch gytundeb y landlord yn gyntaf. Cofiwch efallai na fyddwch chi’n gallu gwneud yn union yr hyn rydych chi ei eisiau.

Mae deiliaid contract yn gyfrifol am beidio â difrodi’r eiddo, ond mae traul arferol i’w ddisgwyl. Ni ddylai landlordiaid gadw eich blaendal, na disgwyl i chi dalu am bethau sydd wedi treulio o ddefnydd arferol. Gweler ein tudalennau am ragor o gyngor.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 10, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.