Skip to main content

Cyfrifoldebau am ddiogelwch tân

  • Os ydych yn rhentu eich cartref, mae’n ofyniad cyfreithiol fel arfer bod eich landlord wedi gosod larymau mwg
  • Os nad yw’ch landlord yn cydymffurfio â rheolau diogelwch tân efallai y bydd yn fwy anodd iddo eich troi allan

Cyfrifoldeb am ddiogelwch tân

Os ydych yn rhentu eich cartref ac mae gennych gontract meddiannaeth diogel neu safonol, dylai eich landlord sicrhau bod eich cartref yn bodloni rhwymedigaethau diogelwch tân penodol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau nad oes unrhyw beryglon tân yn eich cartref. Os ydych yn byw mewn tŷ amlfeddiannaeth (HMO), mae gan eich landlord gyfrifoldebau ychwanegol hefyd.

Cyfrifoldebau’r landlord

Mae gan landlordiaid rwymedigaethau diogelwch tân penodol, gan gynnwys:

  • Peryglon

Dylai eich landlord sicrhau nad oes unrhyw beryglon yn eich cartref, gan gynnwys peryglon tân. Gall eich cyngor lleol asesu peryglon posibl, gan ddefnyddio’r System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS).

  • Diogelwch trydanol

Mae’n ofynnol i’ch landlord sicrhau:

  • bod y gosodiadau trydanol yn eich cartref yn cael eu profi bob pum mlynedd
  • eich bod yn cael yr adroddiad cyflwr trydanol o fewn 14 diwrnod i’ch contract meddiannaeth gychwyn
  • bod gosodiadau trydanol yn yr eiddo yn ddiogel pan fydd eich contract meddiannaeth yn dechrau
  • bod gosodiadau trydanol yn cael eu cynnal a’u cadw mewn cyflwr diogel drwy gydol eich contract
  • bod unrhyw offer a ddarperir yn ddiogel a bod arwydd y Safon Diogelwch Prydeinig arno.

Dysgwch fwy am ddiogelwch trydanol yn y cartref yma.

Diogelwch nwy

Rhaid i’ch landlord sicrhau bod y cyflenwad nwy a’r offer yn eich cartref:

  • mewn cyflwr diogel
  • yn cael eu gosod neu eu hatgyweirio gan beiriannydd cofrestredig Gas Safe
  • yn cael gwiriad diogelwch nwy bob 12 mis gan beiriannydd sydd wedi’i gofrestru â Gas Safe
  • eich bod yn cael yr adroddiad diogelwch nwy o fewn 14 diwrnod i’ch contract meddiannaeth gychwyn

Synwyryddion carbon monocsid

Rhaid i’ch landlord hefyd ddarparu synwyryddion carbon monocsid lle mae offer nwy, glo neu danau coed yn eich cartref.

Dysgwch fwy am ddiogelwch nwy yn y cartref.

Larymau mwg

Mae’n rhaid i’ch landlord sicrhau bod larymau mwg wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad ar bob llawr yn eich cartref. Rhaid cysylltu pob larwm â’r lleill, felly os bydd un larwm mwg yn canu bydd yr holl larymau mwg yn eich cartref yn canu.

Os symudoch chi i’ch cartref cyn 1 Rhagfyr 2022, rhaid i’ch landlord osod larymau mwg erbyn 1 Rhagfyr 2023.

Os yw’ch landlord wedi methu â chydymffurfio â’r gofynion uchod, efallai na fydd eich cartref yn ffit i fyw ynddo. Dysgwch beth mae hyn yn ei olygu a beth allwch chi ei wneud yma.

Cyfyngiadau ar droi allan os nad yw’ch landlord yn gosod larymau mwg

Os nad yw’ch landlord wedi gosod larymau mwg yna efallai na fydd yn gallu rhoi hysbysiad troi allan ‘dim bai’ i chi. Darganfyddwch fwy yn ein tudalennau Troi Allan.

Os ydych wedi derbyn hysbysiad gan eich landlord, mynnwch help ar frys.

HMOs a diogelwch tân

Efallai y cewch eich diogelu gan gyfreithiau diogelwch tân ychwanegol os ydych yn byw mewn tŷ amlfeddiannaeth (HMO). Gallai HMO fod yn:

  • hostel.
  • tŷ wedi’i rannu’n ystafelloedd gwely ar wahân.
  • rhannu  tŷ neu fflat.
  • gwely a brecwast neu westy nad yw ar gyfer gwyliau yn unig.

Rhagofalon tân

Yn ogystal â’r gofynion uchod, mae’n rhaid i landlordiaid HMO sicrhau bod rhagofalon tân digonol (gan gynnwys larymau, diffoddwyr a blancedi tân) a llwybrau dianc rhag tân. Dylai fod o leiaf un diffoddwr tân ar bob llawr a blanced dân ym mhob cegin a rennir. Mae’n rhaid gwirio’r rhain o bryd i’w gilydd a rhaid darparu’r math cywir o ddiffoddwr. Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod sut i ddefnyddio’r flanced dân a’r diffoddwr tân mewn argyfwng.

Dull o ddianc

Dylai fod gan dai amlfeddiannaeth lwybr dianc a all wrthsefyll tân, mwg a mygdarth yn ddigon hir i bawb ei adael (fel arfer o leiaf 30 munud). Gallai hyn fod yn ddihangfa dân allanol, neu risiau mewnol, coridorau neu lwybrau cerdded sydd wedi’u hadeiladu’n arbennig neu wedi’u trin i wrthsefyll tân. Rhaid i’r holl waliau, nenfydau, lloriau a pharwydydd ar hyd y llwybr dianc allu gwrthsefyll tân. Rhaid i’r holl ddrysau sy’n arwain at y llwybr dianc allu gwrthsefyll tân a rhaid iddynt gau’n awtomatig.

Ardaloedd cymunedol mewn blociau o fflatiau a rhai HMOs

Os ydych yn rhentu neu’n berchen ar lety hunangynhwysol mewn bloc neu os ydych yn rhentu ystafell wely mewn HMO, yna mae’n rhaid i’r ‘person cyfrifol’ gynnal asesiad risg tân. Y landlord, asiant rheoli neu berchennog yw hwn fel arfer, ond gallai fod yn gyflogwr os ydych chi neu bobl eraill yn gweithio yn yr adeilad. Nid yw’r asesiad risg yn cynnwys y tu mewn i’ch cartref ond dylai gynnwys ardaloedd cymunedol yr adeilad. Dylai:

  • rhoi sylw arbennig i breswylwyr â risg uwch (e.e. pobl anabl)
  • sicrhau bod llwybrau dianc ac allanfeydd brys yn ddigonol ac yn cael eu cadw’n glir
  • asesu’r risg sy’n ymwneud â strwythur, ffenestri a waliau allanol yr adeilad, gan gynnwys unrhyw beth sydd ynghlwm megis cladin a balconïau
  • asesu’r risg sy’n gysylltiedig â drysau o ardaloedd cymunedol yn yr adeilad i mewn i’ch cartref (h.y. drws y fflat neu’r ystafell wely)

Mae’r gyfraith yn mynnu bod y ‘person cyfrifol’ yn darparu gwybodaeth i breswylwyr, gan gynnwys y risgiau tân a nodwyd gan yr asesiad ac unrhyw fesurau a gymerwyd i atal neu amddiffyn preswylwyr e.e. llwybrau dianc brys.

Os ydych yn byw yn y mathau hyn o lety ond heb dderbyn y wybodaeth hon, cysylltwch â’ch cyngor lleol neu wasanaeth tân ac achub.

Beth allaf ei wneud os nad yw fy landlord yn cydymffurfio?

Os nad ydych yn meddwl bod eich llety rhent yn ddiogel rhag tân, dylech bob amser geisio trafod gyda’ch landlord fel cam cyntaf. Efallai y byddant yn barod i roi rhagofalon diogelwch tân i chi, megis larwm mwg, diffoddwr tân, neu ganfodydd carbon monocsid os byddwch yn gofyn amdanynt.

Os nad ydynt yn gwneud unrhyw beth o hyd, cysylltwch ag adran iechyd yr amgylchedd eich cyngor lleol. Os bydd eu harchwiliad yn canfod perygl tân, gall y cyngor gymryd camau yn erbyn eich landlord. Gall y cyngor:

  • ysgrifennu at y landlord neu’r asiant rheoli, gan nodi beth sydd angen ei wneud
  • cyflwyno hysbysiad cyfreithiol yn dweud wrth y landlord neu’r rheolwr bod yn rhaid iddynt wneud rhai pethau
  • trefnu i wneud unrhyw atgyweiriadau angenrheidiol ac yna cael yr arian yn ôl gan y landlord.

Mewn rhai amgylchiadau, gallant hyd yn oed erlyn y landlord.

Os oes gan eich landlord drwydded yng Nghymru yna cysylltwch â Rhentu Doeth Cymru a all ymchwilio ac, mewn rhai amgylchiadau, dirymu ei drwydded.

Os na fydd eich landlord yn cynnal gwiriadau diogelwch nwy gallwch gwyno i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

Beth am ddodrefn?

Dylai unrhyw ddodrefn clustogog a ddarperir gan eich landlord allu gwrthsefyll tân. Mae hyn yn cynnwys:

  • soffas a chadeiriau breichiau
  • gwelyau, pen gwelyau a matresi
  • clustogau.

Dylai fod symbol ar eich dodrefn i ddatgan ei fod yn gwrthsefyll tân. Os nad ydynt ac na fydd eich landlord yn eu newid, cysylltwch â’ch cyngor lleol neu swyddfa safonau masnach. Gallant gymryd camau yn erbyn eich landlord.

Chi sy’n gyfrifol am gyflwr eich dodrefn eich hun.

Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Dysgwch fwy gan Gov.uk neu’r Gwasanaeth Tân am ddiogelwch tân yn y cartref.

Os cewch eich anafu mewn tân neu os caiff eich eiddo ei ddifrodi, efallai y bydd gennych yr hawl i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn eich landlord, neu unrhyw un sy’n uniongyrchol gyfrifol am waith esgeulus. Cofiwch fod yna derfynau amser – er enghraifft, os ydych am erlyn eich landlord am esgeulustod, rhaid i chi ddechrau’r weithred o fewn tair blynedd i gael eich anafu. Mynnwch help os ydych chi yn y sefyllfa hon.

Os ydych wedi colli eich cartref mewn tân, dylech gysylltu â’ch cyngor lleol a gofyn am gael gwneud cais digartrefedd. Dylech gael eich ystyried yn ddigartref a bod gennych hawl, o leiaf, i lety brys. Os cewch eich gwneud yn ddigartref o ganlyniad i dân, byddwch mewn angen blaenoriaethol.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 10, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.