Skip to main content

Diffyg atgyweirio sy’n effeithio ar iechyd os oes gennych chi landlord preifat

  • Dylai landlordiaid preifat sicrhau nad yw eich cartref yn risg i’ch iechyd a diogelwch
  • Efallai y byddwch yn gallu cymryd camau llys i gael eich landlord i gael gwared ar y peryglon yn eich cartref
  • Os oes gennych gontract meddiannaeth safonol, ni all eich landlord eich troi allan am ofyn am waith neu atgyweiriadau

Safonau iechyd a diogelwch ar gyfer cartrefi rhent

Rhaid i bob cartref sy’n cael ei rentu fodloni safonau iechyd a diogelwch penodol. Dylai eich cartref hefyd fod yn ffit i fyw ynddo. Os oes gennych chi landlord cymunedol, cliciwch yma.

Gall y cyngor archwilio’ch cartref a defnyddio’r System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS) i asesu a oes risgiau. Gallant gymryd camau yn erbyn landlordiaid os nodir risgiau.

Beth yw’r HHSRS?

Mae’r HHSRS yn asesu diffygion yn eich cartref a sut y gallent effeithio ar eich iechyd a diogelwch. Mae’r HHSRS yn ystyried pa mor debygol yw hi y byddai perygl yn digwydd a pha mor ddifrifol fyddai’r canlyniad. Os yw’r asesiad yn dangos nad yw’ch cartref yn ddiogel, gall y cyngor gymryd camau yn erbyn eich landlord.

Mae’r HHSRS yn edrych ar lawer o bethau gwahanol, gan gynnwys:

Mae’n ymdrin â phroblemau mewn ardaloedd cymunedol a mannau awyr agored yn ogystal â phroblemau y tu mewn i’r tŷ.

Os ydych chi’n byw mewn tŷ amlfeddiannaeth (HMO), mae yna hefyd gyfyngiadau ar nifer y bobl sy’n gallu byw yn yr eiddo. Mae nifer y bobl a ganiateir yn dibynnu ar nifer a lleoliad y cyfleusterau coginio, ymolchi a thoiled. Os ydych yn byw mewn HMO ac yn meddwl nad yw unrhyw un o’r cyfleusterau hyn yn ddigonol, mynnwch gymorth cyn gynted ag y gallwch. Gall eich cartref fod yn beryglus.

Beth ddylwn i ei wneud yn gyntaf?

Yn gyntaf, dylech feddwl a yw’r landlord yn debygol o geisio eich troi allan. Os ydych yn ddeiliad contract safonol ni all eich landlord eich troi allan er mwyn osgoi gwneud gwaith neu atgyweiriadau. Gelwir hyn yn ‘droi allan dialgar’. Fodd bynnag, os ydych yn feddiannydd gyda diogelwch sylfaenol neu’n feddiannydd eithriedig, meddyliwch yn ofalus am sut yr ydych yn codi’r mater gyda’ch landlord oherwydd gallwch gael eich troi allan yn hawdd.

Yn ail, dylech roi gwybod am unrhyw broblemau i’ch landlord yn ysgrifenedig, a chaniatáu amser rhesymol iddynt gael eu trwsio. Bydd yr amser sydd ei angen yn dibynnu ar frys y broblem. Os na fydd y landlord yn gwneud dim, gallech anfon ail lythyr, yn rhybuddio y byddwch yn cysylltu ag adran iechyd yr amgylchedd os na chaiff y gwaith atgyweirio ei wneud erbyn terfyn amser penodol.

Beth all y cyngor ei wneud os oes peryglon yn fy nghartref?

Os na fydd eich landlord yn ymateb neu’n delio â’r problemau, gallwch ofyn i adran iechyd yr amgylchedd y cyngor ddod allan i archwilio’ch cartref.

Dylai’r arolygiad ddigwydd yn gyflym os oes risg difrifol o niwed i chi neu’ch teulu. Efallai y bydd yn rhaid i chi aros yn hirach am archwiliad ar adegau prysur o’r flwyddyn neu os yw’r problemau diffyg atgyweirio yn llai brys.

Os bydd y cyngor yn penderfynu bod eich cartref yn cynnwys perygl difrifol, mae’n rhaid iddo weithredu.

Gallant wneud hyn trwy:

  • cghoeddi hysbysiad ymwybyddiaeth o beryglon – mae hyn yn rhybuddio’r landlord fod y cyngor yn ymwybodol o’r broblem
  • roi hysbysiad gwella i’ch landlord, gorchymyn y landlord i wneud atgyweiriadau neu welliannau penodol erbyn amser penodol
  • orchymyn cau’r cyfan neu ran o adeilad neu gyfyngu ar nifer y bobl sy’n byw yn yr eiddo
  • gymryd camau brys, gwneud y gwaith atgyweirio eu hunain ac adennill y costau gan y landlord
  • wneud gorchymyn i ddymchwel yr eiddo
  • brynu’r eiddo gan y landlord o dan y rheolau prynu gorfodol.

Os bydd y cyngor yn nodi mân broblemau atgyweirio yn eich tŷ, nid oes rhaid iddynt weithredu. Fodd bynnag, gallant benderfynu gorfodi’r gwelliannau, er mwyn osgoi problemau yn y dyfodol.

Beth os na fydd tîm iechyd yr amgylchedd yn fy helpu?

Os na fydd adran iechyd yr amgylchedd yn gweithredu, efallai y byddwch yn gallu:

Mynnwch help gan Shelter Cymru os ydych chi’n ystyried gwneud unrhyw un o’r pethau hyn.

Beth os oes rhaid i mi symud allan?

Os oes rhaid i chi symud allan o’ch cartref oherwydd nad yw bellach yn ddiogel i chi fyw yno neu ei fod yn cael ei ddymchwel, gallwch wneud cais digartrefedd i adran dai’r cyngor. Os nad oes gennych unrhyw le arall i fynd, efallai y bydd dyletswydd arnynt i’ch ailgartrefu.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 10, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.