Skip to main content

Lluoedd arfog : dolenni defnyddiol

Gall personél y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr yng Nghymru wynebu nifer o faterion sy’n ymwneud â thai, yn enwedig wrth iddyn nhw drosglwyddo’n ôl i fywyd bob dydd. Mae’r materion hyn yn aml yn cynnwys digartrefedd, llety dros dro anaddas, cymorth annigonol ac oedi o ran blaenoriaethu gan awdurdodau lleol yn sgil adleoli.

Gall Shelter Cymru gynnig ystod o gymorth, cyngor a gwybodaeth am wahanol fathau o dai, sut i wneud cais a’ch hawliau tai.

Dod o hyd i le i fyw – Shelter Cymru

Tai ar gyfer pobl ag anghenion arbennig – Shelter Cymru

Llety â chymorth – Shelter Cymru

Rhentu preifat – Shelter Cymru

Cael addasiadau – Shelter Cymru

Isod mae ambell i ddolen ddefnyddiol arall a allai fod o ddefnydd ac o help i chi ac sy’n benodol ar gyfer personél y lluoedd arfog a chyn-filwyr

ALABARÉ

Mae ALABARÉ yn elusen ar gyfer cyn-filwyr digartref sy’n darparu llety diogel â chymorth i gyn-filwyr Lluoedd Arfog Prydain sy’n ddigartref neu mewn perygl o fynd yn ddigartref. Mae’r cartrefi hyn wedi’u lleoli ledled Cymru a Lloegr, ac maen nhw’n cynnig ystafelloedd preifat, mannau cymunedol, a chynlluniau cymorth wedi’u teilwra i’r unigolyn. Mae cyn-filwyr yn derbyn cymorth gydag iechyd meddwl, cyflogaeth, cyllid, ac opsiynau tai yn y dyfodol – sy’n eu grymuso i ailadeiladu eu bywydau a symud tuag at annibyniaeth mewn amgylchedd sefydlog, llawn parch. Gallwch edrych ar wefan yr elusen yma

Blind Veterans UK

Mae Blind Veterans UK yn darparu cymorth a chefnogaeth i gyn-filwyr sydd wedi colli eu golwg. Mae’r help sydd ar gael yn amrywio o adsefydlu a hyfforddi i gyngor ymarferol, a chefnogaeth emosiynol.

Change Step Wales

Mae Change Step Wales yn darparu cymorth amrywiol i gyn-filwyr yng Nghymru — gan gynnwys gwasanaethau pwrpasol i’r rhai mewn argyfwng, cyn-filwyr hŷn, a phobl ag anghenion iechyd meddwl ac anghenion yn ymwneud â chamddefnyddio sylweddau. Ffoniwch 0300 777 2259, e-bostiwch [email protected] neu cysylltwch â nhw trwy eu gwefan neu sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Cyngor ar Bopeth – Caerdydd a’r Fro

Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu ystod eang o wybodaeth a chyngor i bobl ar-lein, dros y ffôn, ac wyneb yn wyneb, a hynny am ddim. Mae’r meysydd cyngor yn cynnwys Budd-daliadau, Cyflogaeth, Dyled ac arian, Hawliau Defnyddwyr, Tai, Teulu, y Gyfraith a’r Llysoedd, Mewnfudo ac Iechyd. Mae Cyngor ar Bopeth yn cael ei ariannu gan Gronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog i ddarparu gwasanaethau cyngor i Aelodau Cyfredol o’r Lluoedd Arfog, yn enwedig yng Nghaerdydd a’r Fro.

Ffoniwch wasanaeth Advicelink Cymru ar 0800 702 2020 a rhowch wybod iddyn nhw eich bod yn aelod o’r Lluoedd Arfog. Neu ewch i https://cacv.org.uk/our-projects/military-moves-made-easy/ a llenwch y ffurflen ar-lein i drefnu i rywun eich ffonio’n ôl.

Llinell gymorth Combat Stress a chefnogaeth gan gymheiriaid

Os ydych chi’n aelod o Luoedd Arfog y DU ar hyn o bryd neu wedi bod yn aelod yn y gorffennol, gallwch ffonio llinellau cymorth iechyd meddwl 24 awr Combat Stress. Gall cyn-filwyr a’u teuluoedd ffonio 0800 138 1619.

Help for Heroes – Band of Sisters

Mae’r rhwydwaith Help for Heroes Band of Sisters yn agored i anwyliaid, boed yn ddynion neu’n fenywod, sy’n gofalu am y rhai sydd wedi dioddef anafiadau neu salwch sy’n cyfyngu/rhoi diwedd ar yrfa yn ystod eu cyfnod yn y lluoedd arfog neu sydd wedi digwydd yn sgil eu hamser yn y lluoedd. Fel aelod, cewch gyfle i gysylltu â phobl eraill sy’n deall sut beth yw gofalu am eu hanwyliaid, gan roi cyfle i chi gefnogi eich gilydd trwy’r dyddiau sydd i ddod. Mae aelodau o rwydwaith Band of Sisters yn derbyn yr un cymorth ariannol a lles ag y mae Help for Heroes yn ei gynnig drwy’r Gronfa Ymateb Cyflym, ond ar ben hynny maen nhw hefyd yn gallu manteisio ar gynigion y mae’r cyhoedd wedi’u rhoi i Help for Heroes. Ffoniwch 01980 844280.

The Ripple Pond

Mae The Ripple Pond yn sefydliad sy’n helpu’r rhai sy’n cefnogi cyn-filwr sydd wedi’i anafu neu sy’n aelod o Luoedd Arfog Prydain ar hyn o bryd. P’un a ydych chi’n bartner, yn rhiant, yn frawd neu chwaer, yn blentyn sydd yn oedolyn neu’n aelod teulu y mae rhywun wedi’i ddewis, mae’r sefydliad yn bodoli i greu cymuned lle rydych chi’n cael eich gweld, eich clywed a’ch cefnogi. P’un a yw’r anaf yn un corfforol, seicolegol neu emosiynol, maen nhw’n gallu eich cefnogi chi fel aelod o’r teulu ac fel unigolyn. Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim ac nid oes angen i The Ripple Pond weld unrhyw brawf o anaf. Ffoniwch 0333 900 1028.

Y Samariaid

Mae’r Samariaid yn gweithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn ac elusennau eraill i gefnogi personél y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr, a’u teuluoedd. Ffoniwch 116 123 i siarad â’r Samariaid.

 

SSAFA

Gall elusen Lluoedd Arfog SSAFA roi cefnogaeth i’r rhai sydd yn y lluoedd arfog ar hyn o bryd a chyn-filwyr. Mae cymorth yn cynnwys help gyda dyledion, tai ac iechyd meddwl. Gall hefyd helpu gyda gofal cymdeithasol, cyngor a thai i gymuned y Lluoedd Arfog, ynghyd â darparu cymorth anabledd a chefnogi personél y Lluoedd, eu teuluoedd a chyn-filwyr. Cysylltwch â Forcesline – mae’n rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol – 0800 731 880 neu dewch o hyd i’ch SSAFA lleol yma.

GIG Cymru i Gyn-filwyr

Gall GIG Cymru i Gyn-filwyr helpu i’ch cefnogi os ydych chi wedi gadael y lluoedd arfog ac yn profi anawsterau gyda’ch iechyd meddwl. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am eich gwasanaethau iechyd meddwl lleol yma: How to find local mental health services – NHS neu drwy ffonio GIG 111 a dewis opsiwn 2.

Walking With the Wounded

Mae Walking With The Wounded yn cefnogi’r rhai sydd wedi bod yn y Lluoedd Arfog gyda rhaglenni cydlynu iechyd meddwl, cyflogaeth a gofal cofleidiol sydd wedi’u teilwra i anghenion unigryw pob unigolyn. Boed yn anaf meddyliol, cymdeithasol neu gorfforol, maen nhw’n darparu gwasanaethau pwrpasol sy’n ymroddedig i sicrhau bod y rhai sydd wedi dioddef waethaf yn llwyddo i ailgydio yn eu bywydau a symud ymlaen. Ffoniwch:+443300585800. UK Veteran Charity | Walking With The Wounded

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu Llwybr Tai Cenedlaethol ar gyfer Cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog sy’n cynnwys cyngor a chymorth tai i bobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog.

Mae Pecyn Cymorth ar gael hefyd sy’n rhoi llawer o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i’r rhai sy’n gadael y lluoedd arfog, gan gynnwys gofal iechyd a budd-daliadau lles.

 

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Hydref 29, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.