Beth sydd angen i mi ei wybod?
Os ydych chi’n mynd i’r carchar neu eisoes yn y carchar, mae’n bwysig eich bod chi’n datrys unrhyw broblemau tai fel nad oes gennych chi broblemau pan gewch eich rhyddhau.
Pan fyddwch chi yn y carchar, dylech chi allu cael cymorth gan y carchar, y tîm troseddau ieuenctid neu wasanaeth fel Prison Link Cymru.
Os ydych chi wedi dod allan o’r carchar ac yn syrffio soffas neu os nad oes gennych chi unman i aros, yna rydych chi’n ddigartref. Dylech chi fynd at y cyngor am gymorth.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 21, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.