Skip to main content

Tai ar gyfer pobl ag anghenion arbennig

Weithiau, nid yw cael cartref eich hun yn ddigon. Os ydych chi’n meddwl bod angen help neu addasiadau arnoch er mwyn i chi allu aros yn eich cartref, neu’n ystyried symud i gartref lle gallwch gael cymorth, neu gartref sy’n fwy addas ar gyfer eich anghenion, bydd yr adran hon yn eich helpu i edrych ar eich opsiynau.

Efallai y bydd angen cymorth, addasiadau neu help arnoch os:

  • yn berson hŷn
  • ag anabledd dysgu
  • â phroblem iechyd meddwl
  • â nam ar y synhwyrau neu anabledd corfforol
  • yn berson ifanc yn eu contract meddiannaeth cyntaf
  • yn rhiant sengl ifanc
  • wedi bod yn ddigartref ac yn symud i gontract meddiannaeth newydd
  • rydych mewn perygl o ddod yn ddigartref
  • â phroblemau dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol.

Ewch i’n tudalen Cysylltiadau Defnyddiol am fanylion sefydliadau eraill a allai gynnig cymorth a chyngor pellach.

Ble alla i gael mwy o help?

Os oes angen i chi symud i eiddo wedi’i addasu, neu rywbeth mwy hygyrch, yna dylech gysylltu â’ch cyngor lleol neu gymdeithas dai a gofyn a oes ganddynt Gofrestr Tai Hygyrch.

Os ydych chi eisiau aros yn eich cartref ond yn meddwl bod angen addasiadau arnoch, edrychwch ar ein tudalen gyngor yma.

Os ydych o dan 25 oed edrychwch ar ein tudalen cyngor ar dai â chymorth, a luniwyd yn benodol ar gyfer pobl ifanc.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Hydref 21, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.