Skip to main content

Cytundebau rhentu nad ydynt yn gontractau meddiannaeth

  • Mewn rhai amgylchiadau, efallai na fydd cytundeb rhentu yn gontract meddiannaeth
  • Gall cytundebau rhentu nad ydynt yn gontractau meddiannaeth fod ar lafar, ond mae’n well os ydynt yn ysgrifenedig

Mae’r rhan fwyaf o gytundebau rhentu naill ai’n gontractau meddiannaeth safonol, safonol cyfnodol neu sicr. Mae hyn yn berthnasol i gytundebau a wnaed cyn 1 Rhagfyr 2022 (a ddaeth yn gontractau meddiannaeth wedi’i drosi), a chytundebau rhentu a wnaed ar ôl y dyddiad hwnnw.

Fodd bynnag, efallai na fydd rhai cytundebau rhentu yn gontractau meddiannaeth. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • trwyddedau neu denantiaethau cyfraith gwlad mewn llety dros dro
  • trwyddedau neu denantiaethau cyfraith gwlad mewn llety â chymorth
  • tenantiaethau rheoleiddiedig preifat a ddechreuodd cyn 15 Ionawr 1989
  • llety a rennir gyda’r landlord
  • tenantiaethau busnes
  • llety gwyliau.
  • mathau penodol o denantiaethau amaethyddol
  • llety lluoedd arfog (gallech fod yn feddiannydd gydag amddiffyniad sylfaenol os yw hyn yn berthnasol i chi)
  • llety sy’n cael ei rentu i bobl o dan 18 oed. Efallai bod gennych chi drwydded i feddiannu’r eiddo neu efallai y bydd oedolyn yn dal y denantiaeth mewn ymddiriedolaeth nes i chi gyrraedd 18 oed.

Nid yw hon yn rhestr gyflawn o gytundebau rhentu nad ydynt efallai’n gontractau meddiannaeth. Mynnwch gyngor os nad ydych yn siŵr pa fath o gytundeb sydd gennych.

Nid oes gennyf gontract meddiannaeth. Beth mae hyn yn ei olygu i mi?

Os yw un o’r eithriadau uchod yn berthnasol i ac nad ydych yn ddeiliad contract meddiannaeth, nid oes rhaid i’ch landlord ddarparu cytundeb ysgrifenedig i chi yn ôl y gyfraith. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu nad oes gennych hawl gyfreithiol i fyw yn eich cartref.

Mae yna hefyd reolau gwahanol ynghylch troi allan os nad oes gennych gontract meddiannaeth, oherwydd gallech gael eich dosbarthu fel meddiannydd eithriedig neu feddiannydd sydd â diogelwch sylfaenol.

Beth os mai dim ond cytundeb llafar sydd gennyf?

Bydd y rhan fwyaf o landlordiaid yn rhoi cytundeb ysgrifenedig i chi ond, hyd yn oed os nad oes gennych un, mae gennych hawliau o hyd.

Os yw’r landlord yn derbyn rhent oddi wrthych am fyw yn yr eiddo, yna mae unrhyw gytundeb llafar yr ydych wedi’i wneud yn cyfrif fel cytundeb cyfreithiol. Bydd naill ai’n gontract diogel, yn fath o gontract safonol, yn denantiaeth cyfraith gwlad neu’n drwydded.

 Ni fydd gennych o reidrwydd y math o gytundeb y mae eich landlord yn dweud sydd gennych, felly mae bob amser yn well cael help os nad ydych yn siŵr.

 Gall cytundebau llafar fod yn anoddach i’w gorfodi os oes unrhyw anghydfod, felly mae’n werth gofyn i’ch landlord ei nodi’n ysgrifenedig. Bydd o fudd iddynt hwy yn ogystal â’ch un chi sicrhau bod y ddwy ochr yn deall eu hawliau a’u cyfrifoldebau.

Beth ddylwn i wirio amdano mewn cytundeb ysgrifenedig?

Os oes gennych gytundeb ysgrifenedig, dylai nodi’r hawliau a’r cyfrifoldebau sydd gennych tra’ch bod yn rhentu, a dylai restru’r telerau ac amodau y mae angen i chi a’ch landlord gadw atynt tra byddwch yn byw yno.

Darllenwch ef yn ofalus cyn i chi ei lofnodi a gofynnwch i’r landlord egluro unrhyw beth nad ydych yn siŵr ohono. Bydd rhai hawliau a rhwymedigaethau yn berthnasol ni waeth beth mae’r cytundeb yn ei ddweud.

Gwiriwch a yw eich cytundeb yn cynnwys gwybodaeth fel:

  • enw’r deiliad(wyr)
  • cyfeiriad yr eiddo (neu ystafell) yr ydych yn ei rentu
  • enw a chyfeiriad y landlord, a’r asiant gosod tai os oes un
  • faint yw’r rhent, pryd mae’n ddyledus a sut y dylid ei dalu
  • beth mae’r rhent yn ei gynnwys. A yw’n cynnwys unrhyw filiau, treth gyngor, trethi dŵr, neu daliadau eraill?
  • pa mor hir yw’r cytundeb
  • a oes rhaid i chi dalu blaendal, ac os felly, faint a phryd y gall y landlord gadw’r blaendal
  • lle rydych wedi cytuno i rentu am gyfnod penodol, a allwch adael cyn diwedd y cytundeb, a faint o rybudd y mae’n rhaid i chi ei roi
  • pa ddodrefn, os o gwbl, a ddarperir
  • pwy sy’n gyfrifol am atgyweiriadau (bydd y landlord bob amser yn gyfrifol am atgyweiriadau allanol a strwythurol, a diogelwch, waeth beth mae’n ei ddweud)
  • a allwch is-osod neu gael lletywyr
  • a allwch chi drosglwyddo’r cytundeb i unrhyw un arall
  • a oes unrhyw reolau eraill, er enghraifft ynghylch anifeiliaid anwes, gwesteion neu ysmygu.

A allaf fod yn sicr pa fath o gytundeb sydd gennyf trwy ei ddarllen?

Yn y rhan fwyaf o achosion oes, ond mae’n bosibl bod gennych chi fath gwahanol o gytundeb rhentu nag y mae’ch landlord neu gontract yn dweud sydd gennych.

Er bod y rhan fwyaf o gytundebau rhentu ysgrifenedig yn gwneud hyn yn iawn, mae’n werth gwirio ddwywaith, oherwydd mae gwahanol fathau o drefniadau rhentu yn rhoi hawliau gwahanol iawn i chi.

Nid yw’r math o gytundeb rhentu sydd gennych yn dibynnu ar yr hyn sydd wedi’i ysgrifennu yn eich cytundeb yn unig.

Mae hefyd yn dibynnu ar:

  • pwy yw eich landlord
  • y math o dŷ rydych yn byw ynddo (e.e. os darperir cymorth neu wasanaethau)
  • gyda phwy rydych chi’n rhannu, a
  • pryd symudoch chi i mewn.

Er enghraifft, os symudoch i mewn i’ch cartref cyn 15 Ionawr 1989 efallai y bydd gennych denantiaeth reoledig, hyd yn oed os yw’r cytundeb yn dweud fel arall. Mae’r math hwn o gytundeb yn rhoi hawliau cryf yn erbyn troi allan.

Beth allaf ei wneud os yw’r cytundeb yn annheg?

Dylai eich cytundeb gael ei ysgrifennu mewn iaith syml y gallwch ei deall. Ni ddylai gynnwys unrhyw delerau annheg, fel cymalau yn dweud:

  • bod y landlord yn gallu newid telerau’r cytundeb pryd bynnag y mae’n dymuno
  • bod yn rhaid i chi dalu am, neu drefnu, atgyweiriadau strwythurol – cyfrifoldeb y landlord yw’r rhain
  • y gall eich landlord ddod o gwmpas pryd bynnag y mae’n hoffi, heb roi rhybudd (gallai hyn gael ei ystyried yn aflonyddu).

Nid yw telerau annheg yn gyfreithiol rwymol. Os ydych chi’n meddwl bod eich cytundeb yn cynnwys telerau annheg neu os yw’ch landlord yn eich dal chi i rywbeth nad ydych chi’n meddwl sy’n deg, gofynnwch i gynghorydd edrych ar y cytundeb i chi.

Mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi cynhyrchu canllawiau i fusnesau ynghylch telerau contract annheg.

Pa hawliau sydd gennyf mewn cytundeb ar y cyd?

Gall unrhyw fath o gytundeb rhentu fod yn gytundeb ar y cyd hefyd. Er enghraifft, bydd gennych gytundeb ar y cyd os byddwch chi a phartner neu briod yn llofnodi’r cytundeb.

Os byddwch yn llofnodi cytundeb ar y cyd â pherson arall neu grŵp o bobl, mae gennych yn union yr un hawliau a rhwymedigaethau â’ch gilydd. Rydych chi i gyd yr un mor gyfrifol am gadw at amodau’r cytundeb. Er enghraifft:

  • os nad yw un person yn talu ei rent, bydd yn rhaid i’r lleill dalu amdano. Fel grŵp, mae pob un ohonoch yn gyfrifol am sicrhau bod y rhent cyfan yn cael ei dalu.
  • os yw un ohonoch am adael ac yn rhoi rhybudd i’r landlord i ddod â’r cytundeb i ben, fel arfer bydd yn dod i ben i bawb. Nid yw hyn yn berthnasol os oes gennych gontract meddiannaeth neu unrhyw fath o gytundeb cyfnod penodol. Os bydd yn digwydd, gallai’r rhai sydd am aros geisio trafod cytundeb newydd cyn i’r un gwreiddiol ddod i ben.

Beth sy’n digwydd pan ddaw cytundeb i ben?

Rhoddir rhai tenantiaethau cyfraith gwlad neu gytundebau trwydded am gyfnod penodol, megis chwe mis neu flwyddyn.

Pan ddaw’r cyfnod penodol i ben bydd un o ddau beth yn digwydd:

  • efallai y bydd eich landlord yn rhoi cytundeb newydd i chi am gyfnod penodol pellach, neu
  • bydd eich cytundeb yn parhau’n awtomatig ar yr un sail ag o’r blaen ond bydd yn trosglwyddo o fis i fis neu o wythnos i wythnos yn hytrach na bod am gyfnod penodol.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n rhaid i’ch landlord roi rhybudd i chi ac ni all ofyn i chi symud allan ar y diwrnod olaf yn unig. Mae gweithdrefnau arbennig y mae’n rhaid i’r landlord eu dilyn os yw am i chi adael. Mae’r rhain yn dibynnu ar y math o gytundeb rhentu sydd gennych. Darganfyddwch fwy am droi allan yma.

Gallwch adael ar ddiwrnod olaf cytundeb cyfnod penodol heb roi rhybudd, fodd bynnag, i atal unrhyw broblemau yn y dyfodol fel arfer mae’n syniad da rhoi rhybudd i’ch landlord. Mae cyfathrebu da gyda’ch landlord yn helpu pethau i fynd yn ddidrafferth.

Os ydych yn gwybod eich bod am adael ar ddiwedd y cyfnod penodol, mae’n well rhoi rhybudd i’r landlord.

Ydych chi dan 25?

Os ydych o dan 25, edrychwch ar ein tudalennau cyngor, sydd wedi’u llunio’n benodol ar gyfer pobl ifanc.

Os nad ydych yn siŵr pa fath o gytundeb rhentu sydd gennych, mynnwch help gan dîm cyngor tai arbenigol Shelter Cymru.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Awst 28, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.