Skip to main content

Troi allan

Dolenni cyflym troi allan:

Symudais i mewn cyn 1 Rhagfyr 2022 ac mae fy landlord eisiau fy nhroi allan

Dechreuodd fy nghontract ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2022 ac rwy’n cael fy nhroi allan gan landlord preifat

Dechreuodd fy nghontract ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2022 ac rwy’n cael fy nhroi allan gan landlord cymunedol

Rhaid i landlordiaid ddilyn gweithdrefnau cyfreithiol i droi rhentwyr allan. Mae’r weithdrefn a ddefnyddir yn dibynnu ar bwy yw eich landlord a’r math o gytundeb rhentu sydd gennych. Dyma rai enghreifftiau:

Os oes gennych gontract diogel gyda chymdeithas dai yna mae’n rhaid i’ch landlord ddilyn y rheolau ar gyfer landlordiaid cymunedol.

Os yw’ch landlord yn unigolyn preifat, neu’n gwmni preifat sy’n darparu tai myfyrwyr, yna dylai ddilyn y rheolau troi allan ar gyfer contractau safonol,

Os yw’ch landlord yn brifysgol, mae’n debyg y bydd yn rhaid i’ch landlord ddilyn rheolau gwahanol ynghylch troi allan.

Os nad ydych yn siŵr beth yw’r rheolau troi allan ar gyfer eich cytundeb rhentu, mynnwch help gan gynghorydd.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen i’ch landlord wneud cais am orchymyn adennill meddiant yn y llys, oni bai eich bod yn byw yng nghartref y landlord ac yn rhannu cyfleusterau gyda’ch landlord. Mae’r tudalennau isod yn egluro’r drefn troi allan ar gyfer y mathau mwyaf cyffredin o gytundebau rhentu.

Gallwch hefyd ddarganfod beth i’w wneud os nad yw’ch landlord yn dilyn y drefn gywir, yn eich troi allan yn anghyfreithlon neu’n aflonyddu arnoch.

Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun a bod eich benthyciwr yn ceisio eich troi allan am adfeddiannu morgais, ewch i’n hadran ar adfeddiannu morgais.

Os ydych yn cael eich troi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent neu forgais efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer y cynllun ‘Breathing Space’ sy’n rhoi amser i chi gael rhywfaint o gyngor arbenigol ar ddyledion.

Gorau po gyntaf y byddwch yn ceisio cyngor.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 9, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.