Skip to main content

Help gyda chostau gwresogi

Gall costau gwresogi gynyddu’n hawdd ond efallai y bydd pethau y gallwch eu gwneud i helpu i’w cadw dan reolaeth.

Cyngor ar wresogi eich cartref

Nyth yw cynllun Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru. Ei nod yw helpu i leihau nifer y cartrefi sydd mewn tlodi tanwydd a gwneud cartrefi’n gynhesach ac yn fwy effeithlon o ran tanwydd.

Ffoniwch nhw am ddim o linell dir neu ffôn symudol ar 0808 808 2244 i gael cyngor ar:

  • arbed ynni (gallwch hefyd ymweld â’u gwefan am awgrymiadau arbed ynni – gellir gweld fersiwn Gymraeg yma)
  • rheoli arian
  • sicrhau eich bod ar y tariff tanwydd gorau
  • budd-daliadau i’ch helpu i dalu eich costau gwresogi.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael gwelliannau cartref am ddim, i helpu i wneud eich cartref yn gynhesach a lleihau cost eich biliau ynni.

Os oes angen cymorth pellach arnoch efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer y Gofrestr Gwasanaeth â Blaenoriaeth

Cymorth ariannol ar gyfer costau gwresogi

Mae yna nifer o gynlluniau gan y Llywodraeth a allai eich helpu gyda’ch costau ynni, gan gynnwys y Cynllun Gostyngiad Cartref Cynnes a Thaliadau Tywydd Oer. Dysgwch fwy am y cynlluniau yma.

Rwyf mewn dyled gyda fy nghostau gwresogi – beth allaf ei wneud?

Os oes gennych chi broblemau gyda biliau tanwydd neu ddyled gallwch gael help cyfrinachol, wyneb yn wyneb am ddim gan gynghorwyr dyled arbenigol Shelter Cymru mewn sawl lleoliad yng Nghymru. Cliciwch yma i ddod o hyd i fanylion.

Gallech hefyd ymweld â’n tudalennau cyngor ariannol a chyngor costau byw sy’n cynnwys mwy o gyngor ar arbed ynni ac offer i’ch helpu os ydych yn cael trafferth talu eich biliau ynni.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 8, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.