Skip to main content

Talu am dai

Mae problemau tai yn aml yn dechrau oherwydd anawsterau ariannol. Os nad oes gennych lawer o arian gall fod yn anodd dod o hyd i gartref gweddus ac os na allwch dalu’r rhent neu’r morgais gallech wynebu cael eich troi allan.

Mae’r adran hon yn egluro pa gymorth sydd ar gael i dalu am dai, gan gynnwys Budd-dal Tai, Credyd Cynhwysol a chymorth i dalu am eitemau hanfodol. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am flaendaliadau diogelwch a delir i landlordiaid preifat, ffioedd gosod a beth i’w wneud os bydd gennych ôl-ddyledion.

Mynnwch help ar unwaith os ydych chi’n cael trafferth talu am eich llety. Nid yw cael eich bygwth â chael eich troi allan o reidrwydd yn golygu y byddwch yn colli’ch cartref – efallai y bydd modd datrys pethau, hyd yn oed os yw’r beilïaid ar y ffordd.

Did you find this helpful?

 Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Medi 3, 2026 

Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.