Cysylltiadau cyflym aflonyddu a throi allan anghyfreithlon:
- Beth sy’n cyfrif fel troi allan anghyfreithlon?
- Atal aflonyddu a throi allan anghyfreithlon
- Sut gall y cyngor helpu?
Mae’n anghyfreithlon i’ch landlord aflonyddu arnoch neu eich gorfodi i adael eich cartref heb ddilyn y broses gyfreithiol gywir.
Mynnwch gyngor bob amser os yw’r hyn y mae eich landlord yn ei wneud yn ymddangos yn annheg. Efallai bod gennych chi fwy o hawliau nag yr ydych chi’n meddwl.
Cymerwch olwg ar y tudalennau isod a lawrlwythwch ein taflen ffeithiau rhad ac am ddim ar droi allan anghyfreithlon.
Os ydych o dan 25 oed gallech hefyd edrych ar ein cyngor ar gael problemau gyda’ch landlord, a luniwyd yn benodol ar gyfer pobl ifanc.
Beth allaf ei wneud os yw fy landlord yn aflonyddu arnaf neu’n bygwth fy nhroi allan?
Mae rhai camau ymarferol y gallwch eu cymryd:
Ysgrifennwch neu e-bostiwch eich landlord neu asiant gosod eiddo
Dywedwch wrthyn nhw eu bod yn ymddwyn yn anghyfreithlon ac y dylen nhw roi’r gorau i aflonyddu neu fygwth chi. Rhybuddiwch nhw y byddwch yn cymryd camau cyfreithiol os bydd yn parhau.
Cadwch gopïau o bob llythyr, neges destun neu e-bost yr ydych yn ei anfon a/neu ei dderbyn.
Os byddwch yn cael sgwrs gyda’ch landlord neu asiant, dilynwch hyn gyda llythyr neu e-bost sy’n cadarnhau’r hyn a ddywedwyd a’r hyn y cytunwyd arno.
Arhoswch yn ddiogel
Cael ffrind neu gynghorydd gyda chi pryd bynnag y bydd yn rhaid i chi ddelio â’ch landlord yn bersonol.
Cysylltwch â’r heddlu os yw’ch landlord:
- gwneud i chi deimlo’n anniogel yn eich cartref
- yn eich bygwth â thrais neu’n dreisgar.
Ffoniwch 101 neu 999 os yw’n argyfwng. Gallwch eu ffonio unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos.
Cadw cofnodion
Cadwch gofnod o’r hyn sydd wedi bod yn digwydd. Cynhwyswch:
- yr amser, y dyddiad a’r lleoliad y digwyddodd unrhyw ddigwyddiad a disgrifiad byr o’r hyn a ddigwyddodd (cadwch ddyddiadur)
- ffotograffau neu fideos o unrhyw ddifrod y mae’r landlord wedi’i achosi i’r eiddo neu’ch eiddo
- disgrifiadau byr o unrhyw ddigwyddiadau gan unrhyw un a oedd yn dyst iddynt.
Bydd y cofnodion hyn yn bwysig os bydd angen i chi gymryd camau cyfreithiol yn erbyn eich landlord.
Rhoi gwybod am ddigwyddiadau
Rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau i’r cyngor lleol a/neu i Rhentu Doeth Cymru. Mae’n rhaid i landlordiaid preifat trwyddedig ac asiantiaid gosod eiddo gydymffurfio â Chod Ymarfer. Os nad ydynt yn gwneud hynny gall Rhentu Doeth Cymru ymchwilio a chysylltu â nhw ar eich rhan.
Os ydych wedi cael eich troi allan yn anghyfreithlon a bod angen i chi fynd yn ôl i mewn i’r eiddo, dylai’r cyngor eich helpu. Gallant gysylltu â’r landlord ac egluro bod yr hyn y maent yn ei wneud yn anghyfreithlon. Os yw’n swaff i chi ddychwelyd i’r eiddo dylai’r cyngor helpu gyda hyn. Gall y cyngor hefyd ystyried erlyn y landlord o dan gyhuddiadau troseddol.
Gallwch hefyd gysylltu â’r heddlu. Os ydych chi’n cael trafferth cael yr heddlu i’ch helpu, mynnwch help gan gynghorydd. Efallai y byddan nhw’n gallu siarad â’r heddlu ar eich rhan.
Gall adran ddigartrefedd y cyngor eich helpu gyda llety brys os cewch eich troi allan yn anghyfreithlon neu os gorfodir chi i adael eich cartref oherwydd aflonyddu.
Dewch ynghyd â deiliaid contract eraill
Os ydych chi’n byw mewn llety a rennir efallai bod eich landlord hefyd yn aflonyddu ar ddeiliaid contract eraill. Os yw hyn yn wir, fe allech chi i gyd ymuno â’ch gilydd a mynd at y landlord fel grŵp.
Gelwir rhai mathau o lety a rennir yn Dai Amlfeddiannaeth (HMOs) ac mae gan gynghorau bwerau ychwanegol i gymryd camau yn erbyn landlordiaid HMOs. Gallai hyn fod yn berthnasol i chi os ydych yn byw mewn fflat un ystafell, tŷ neu fflat a rennir gan sawl aelwyd, hostel neu westy gwely a brecwast.
Did you find this helpful?
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: Hydref 7, 2026
Mae’r wybodaeth sydd ar y wefan hon yn cael ei diweddaru a’i chynnal gan Shelter Cymru a dim ond canllawiau cyffredinol ar y gyfraith yng Nghymru y mae’n eu rhoi. Ni ddylid ei hystyried na dibynnu arni fel datganiad cyflawn nac awdurdodol o’r gyfraith.